1.Brenhinoedd 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Dygiad yr Arch i’r deml. 10 Gogoniant yr Arglwydd yn llenwi y deml. 15 Diolch Salomon, ai weddi.

1Yna 2.Cron.5.2.Salomon a gasclodd henuriaid Israel, a holl bennau y llwythau, a thywysogion tadau meibion Israel at y brenin Salomon yn Ierusalem, i ddwyn i fynu Arch cyfammod yr Arglwydd o ddinas Dafydd, honno Sion.

2A holl wŷr Israel a ymgynnullasant at y brenin Salomon ar yr ŵyl ym mîs Ethanim: hwnnw y seithfed mîs.

3A holl henuriaid Israel a ddaethant: a’r offeiriaid a ddugasant yr Arch.

4Hwy a ddugasant i fynu Arch yr Arglwydd, a phabell y cyfarfod, a holl lestri y cyssegr y rhai yn y babell: a’r offeiriaid a’r Lefiaid di dugasant hwy i fynu.

5A’r brenin Salomon, a holl gynnulleidfa Israel y rhai a ymgynnullasent atto ef gyd ag ef o flaen yr Arch, yn aberthu defaid, a gwartheg, y rhai ni rifwyd, ac ni chyfrifwyd rhac amldra.

6Felly yr offeiriaid a ddugasant Arch cyfammod yr Arglwydd iw lle ei hun, i gafell y tŷ, i’r cyssegr sancteiddiaf, tan adenydd y Cerubiaid.

7Canys y Cerubiaid oeddynt yn lledu eu hadenydd tros le yr Arch: a’r Cerubiaid a oruchguddient yr Arch, ai barrau oddi arnodd.

8A’r barrau a estynnasant fel y gwelyd blaeniau y barrau o’r cyssegr o flaen y gafell, ond nis gwelyd oddi allan: yno y buant hwy hyd y dydd hwn.

9Nid yn yr Arch onid y ddwy lêch faen y rhai a osodase Moses yno, yn Horeb: lle y cyfammododd yr Arglwydd a meibion Israel, wrth fyned o honynt o wlâd yr Aipht.

10A phan ele yr offeiriaid allan o’r cyssegr: yna Exod.40.34.y cwmwl a lanwe dŷ yr Arglwydd,

11Fel na alle yr offeiriaid sefyll i wasanaethu rhac y cwmwl: canys gogoniant yr Arglwydd a lanwe dŷ yr Arglwydd.

12Yna y dywedodd Salomon: yr Arglwydd a 2.Cron.6.1.ddywedodd y presswylie efe yn y cwmwl tywyll.

13Gan adailadu yr adailedais dŷ yn bresswylfod i ti: trig-le i ti i aros yn dragywydd.

14A’r brenin a drôdd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynnulleidfa Israel: canys holl gynnulleidfa Israel oedd yn sefyll

15Ac efe a ddywedodd, bendigedic Arglwydd Dduw Israel yr hwn a lefarodd ai enau wrth Ddafydd fy nhâd: ac ai cwplaodd ai law gan ddywedyd:

16Er y dydd y dugum fy mhobl Israel o dîr yr Aipht ni ddewisais ddinas o holl lwythau Israel i adailadu tŷ fel y bydde fy enw i yno: 2.Sam.7.8.eithr dewisais Ddafydd i fod ar fy mhobl Israel.

17Ac yr oedd ym mryd Dafydd fy nhâd i adailadu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

18A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Ddafydd fy nhâd i, o herwydd bôd yn dy fryd ti adailadu tŷ i’m henw i: da y gwnaethost am fod yn dy feddwl,

19Etto nid adailedi di y tŷ: onid dy fâb di yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adailada y tŷ i’m henw i.

20A’r Arglwydd a siccrhaodd ei air yr hwn a lefarodd efe: a mi a gyfodais dros Ddafydd fy nhâd, ac a eisteddais ar deyrn-gader Israel, megis y llefarodd yr Arglwydd, ac a adailedais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.

21A mi a osodais yno le i’r Arch, yr hon ynddi gyfammod yr Arglwydd: yr hwn a gyfammododd efe a’n tadau, pan ddûg efe hwynt allan o wlâd yr Aipht.

22Yna Salomon a safodd 2.Cron.6.15.o flaen allor yr Arglwydd ger bron holl gynnulleidfa Israel: ac a estynnodd ei ddwylo tua yr nefoedd.

23Ac efe a ddywedodd, Mac.2.8.ô Arglwydd Dduw Israel nid Duw fel tydi yn y nefoedd oddi vchod, nac yn y ddaiar oddi issod: yn cadw y cyfammod, a’r drugaredd a’th weision, y rhai ydynt yn rhodio ger dy fron di ai holl galon.

24Yr hwn a gedwaist a’th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a leferaist wrtho ef: fel y traethaist a’th enau, felly y cwpleaist a’th law megis heddyw.

25Ac 2.Cro.6.16.yn awr ô Arglwydd Dduw Israel cadw a’th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a lefaraist wrtho ef gan ddywedyd, Pen.2.4.ni thorrir ymmaith oddi wrthit gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrn-gader Israel: os dy feibion a gadwant eu ffordd gan rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist di ger fy mron.

26Yn awr gan hynny ô Dduw Israel: poed gwîr fyddo y gair yr hwn a leferaist wrth dy wâs Dafydd fy nhâd.

27Ai gwîr yw y presswylia Duw ar y ddaiar? wele y nefoedd, a nefoedd y nefoedd ni’th gynhwysant, pa feint lai y tŷ hwn yr hwn a adailedais i?

28Edrych gan hynny ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfyad ef ô Arglwydd fy Nuw: i wrando ar y llef a’r weddi yr hon y mae dy wâs yn ei weddio heddyw ger dy fron di.

29Fel y byddo dy lygaid yn agored tua yr tŷ ymma nôs a dydd, tua yr lle yr hwn y dywedaist, Deut.12.11.fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi yr hon a weddio dy wâs yn y lle hwnnw.

30Gwrando gan hynny ddeisyfyad dy wâs, a’th bobl Israel y rhai a weddiant yn y lle hwn: clyw di hefyd o le dy bresswylfa o’r nefoedd, a phan glywech maddeu.

31Pan becho gŵr yn erbyn ei gymydog, a chynnig iddo raith, gan ei dyngu ef: yna deued y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn.

32Yna clyw di o’r nefoedd, gwna hefyd, a barn dy weision, gan farnu y drygionus yn ddrygionus, drwy roddi ei ffordd ef ar ei ben: a chan gyfiawnhau y cyfiawn, drwy roddi iddo ef yn ôl ei gyfiawnder.

33Pan leddir dy bobl di Israel o flaen y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn di: os dy chwelant attat ti, a chyfâdde dy enw, a gweddîo, ac deisyf arnat ti yn y tŷ hwn:

34Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddeu di bechod dy bobl Israel: a dychwel hwynt i’r tîr yr hwn a roddaist iw tadau hwynt.

35Pan gaeir y nefoedd fel na byddo glaw, o herwydd pechu o honynt i’th erbyn: os gweddîant yn y lle hwn, a chyfâddef dy enw, a dychwelyd o honynt oddi wrth eu pechod pan gystuddiech di hwynt,

36Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddeu di bechodau dy weision, a’th bobl Israel, (fel y dyscech iddynt y ffordd oref yr hon y rhodiant ynddi) a dyro law ar y tîr yr hwn a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.

37Pan fyddo newyn yn y tîr, 2.Cron.6.28.pan fyddo haint, brydanieth, malldod, ceiliogod rhedyn neu fod locustiaid, pan warchao ei elyn arno ef, yn ninasoedd ei wlad ef: pa blâ bynnac, glefyd bynnac,

38Pôb gweddi, pôb deisyfiad a’r a fyddo gan vn dyn, gan holl bobl Israel: pan ŵypo pawb blâ ei galon ei hun, ac estyn ei ddwylo tua yr tŷ hwn,

39Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy bresswylfod, a maddeu di, gwna hefyd, a dyro i bôb vn yn ôl ei holl ffyrdd ef, yr hwn a adwaenost ei galon ef: canys ti yn vnic a adwaenost galon holl feibion dynion. )

40Fel i’th ofnant di yr holl ddyddiau y rhai y byddant hwy byw ar wyneb y ddaiar: yr hon a roddaist i’n tadau ni.

41Ac am y dieithr-ddyn hefyd yr hwn ni o’th bobl di Israel: onid dyfod o wlâd bell er mwyn dy enw,

42(Pan glywant dy enw mawr di, a’th law gadarn, a’th fraich estynnaedic) a dyfod, a gweddîo yn y tŷ hwn,

43Gwrando di o’r nefoedd, mangre dy bresswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a’r a lefo y dieithr-ddyn attat: fel yr adwaeno holl bobl y ddaiar dy enw di, i’th ofni di fel dy bobl Israel, ac i ŵybod mai ar dy enw di y gelwir yn y tŷ hwn, yr hwn a adailedais i.

44Pan êl dy bobl di allan i ryfel yn erbyn eu gelyn ar hyd y ffordd yr anfonech hwynt: os gweddîant ar yr Arglwydd Dan.6.10.[tua] ffordd y ddinas yr hon a ddewisaist, a’r tŷ yr hwn a adailedais i’th enw di,

45Yna gwrando o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad hwynt: a gwna farn a hwynt.

46Os pechant i’th erbyn ( 2.Cron.6.36. eccle.7.21.canys nid ddyn yr hwn ni phecha) a digloni o honot iw herbyn, ai rhoddi hwynt o flaen eu gelynnion, fel y caeth-gludant hwynt yn gaethion i wlâd y gelyn ym mhell neu yn agos,

47Os dychwelant at eu calon (yn y wlâd yr hon y caeth-gludwyd hwynt iddi: ) a dychwelyd, ac erfyn arnat yng-wlâd y rhai ai caeth-gludasant gan ddywedyd, pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol.

48Os dychwelant attat ti ai holl galon, ac ai holl enaid yng-wlad eu gelynnion y rhai ai caeth-gludasant hwynt, a gweddio attat ti tua eu gwlâd, yr hon a ddewisaist, a’r tŷ yr hwn a adailedais i’th enw di,

49Yna gwrando di o’r nefoedd (mangre dy bresswylfod) eu gweddi hwynt, ai deisyfiad hwynt: a gwna farn a hwynt.

50Ac arbed dy bobl y rhai a bechâsant i’th erbyn, ai holl gamweddau y rhai y troseddasant i’th erbyn: a phâr iddynt fod yn gymmeradwy ger bron y rhai ai caeth-gludasant, fel y trugarhânt wrthynt hwy:

51Canys dy bobl di a’th etifeddiaeth hwy: y rhai a ddugosti allan o’r Aipht o ganol y ffwrn haiarn,

52Fel y byddo dy lygaid yn agored tu ag at ddeisyfiad dy wâs, a deisyfiad dy bobl Israel: i wrando arnynt hwy pa bryd bynnac y galwant arnat ti.

53Canys ti ai neilltuaist hwynt yn etifeddiaeth i ti o holl bobl y ddaiar: fel y lleferaist drwy law Moses dy wâs pan ddygaist allan ein tadau ni Exod.19.6.o’r Aipht, ô Arglwydd Iôr.

54A phan orphennodd Salomon weddio ar yr Arglwydd yr holl weddi, ar deisyfiad ymma: efe a gyfododd o flaen allor yr Arglwydd, o ostwng ar ei liniau, ac o estyn ei ddwylo tua yr nefoedd,

55Yna efe a safodd, ac a fendithiodd holl gynnulleidfa Israel a llef vchel gan ddywedyd,

56Bendigêdic yr Arglwydd yr hwn a roddes lonyddwch iw bobl Israel, yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe: ni syrthiodd vn gair oi ymadroddion dâ ef y rhai a lefarodd efe trwy law Moses ei wâs.

57Yr Arglwydd ein Duw fyddo gyd a ni, fel y bu efe gyd a’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni:

58I droi ein calonnau ni atto ef: i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i gadw ei orchymynnion ef, ai ddeddfau, ai farnedigaethau, y rhai a orchymynnodd efe i’n tadau ni.

59A bydded fyng-eirau hyn y rhai a ddeisyfiais ger bron yr Arglwydd, yn agos at fy Arglwydd Dduw ddydd a nôs: i wneuthur barn ai wâs, a barn ai bobl Israel, beunydd fel y byddo yr achos.

60Fel y gŵypo holl bobl y ddaiar mai yr Arglwydd yr Duw hwnnw: ac nad amgen.

61Bydded gan hynny eich calon yn berffaith gyda’r Arglwydd ein Duw ni: i rodio yn ei ddeddfau ef, ac i gadw ei orchymynnion ef fel heddyw.

62Yna y brenin a holl Israel gyd ag ef a aberthasant aberth ger bron yr Arglwydd.

63A 2.Cron.7.3.Salomon a aberthodd yno yr aberth hedd (yr hwn a offrymmodd efe i’r Arglwydd) dwy fil ar hugain o wartheg, a chwech vgain mil o ddefaid: felly y brenin a holl feibion Israel a gyssegrasant dŷ yr Arglwydd.

64Y dwthwn hwnnw y sancteiddiodd y brenin ganol y cyntedd yr hwn o flaen tŷ yr Arglwydd, canys yno y paratoese efe y poeth-offrwm, a’r bwyd offrwm, a brasder yr offrymmau hedd: o herwydd yr allor brês yr hon ger bron yr Arglwydd ry fechan i dderbyn y poeth offrwm, a’r bwyd offrwm, a brasder yr offrymmau hedd.

65A Salomon a gadwodd y pryd hynny ŵyl, a holl Israel gyd ag ef, yn gynnulleidfa fawr o ddyfodfa Hamath hyd afon yr Aipht, ger bron yr Arglwydd ein Duw ni, saith o ddyddiau, a saith o ddyddiau: pedwar diwrnod ar ddêc.

66A’r wythfed dydd y gollyngodd efe ymmaith y bobl, a hwynt a fendithiasant y brenin: ac a aethant iw pabellau yn hyfryd, ac a chalon lawen, am yr holl ddaioni yr hwn a wnaethe yr Arglwydd i Ddafydd ei wâs, ac i Israel ei bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help