1Canys pob arch-offeiriad yr hwn a gymmerer o blith dynion a osodir tros ddynion yn y pethau sy tu ag at Dduw, i offrymmu rhoddion, ac aberthau tros bechodau,
2Yr hwn a ddichon yn gymmerusol dosturio tros y rhai sy mewn anwybodaeth neu amryfusedd, am ei fod yntef hefyd wedi ei amgylchu â gwendid,
3Ac er mwyn hynny y dyle megis tros y bobl felly trosto ei hū offrymmu tros bechodau.
4Ac 1.Cor.13.10.nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydeod iddo ei hun, ond a alwer gan Dduw, megis Aaron.
5Felly Crist hefyd ni chymmerodd iddo ei hun yr anrhydedd i fod yn arch-offeiriad, namyn yr hwn a ddywedodd wrtho ef, Psal.2.7. pen.1.5.ty di yw fy Mab i, myfi heddyw a’th genhedlais di
6Megis y mae efe hefyd mewn man arall yn dywedyd, Psal.110.4.offeiriad wyt ti yn dragywydd ar ôl vrdd Melchi-sedec.
7Yr hwn yn nyddiau ei gnawd a offrymmodd trwy lefain cryf a dagrau, weddiau ac ymbil at yr hwn ydoedd abl iw achub ef oddi wrth farwolaeth: ac efe a wrandawyd am y peth yr oedd yn ei ofni.
8Ac er ei fod yn fab, efe a ddyscodd vfudddod trwy yr hyn a ddioddefodd,
9Ac wedi ei berffeithio, ef a wnaethbwyd yn awdur iechyd tragywyddol i’r rhai oll a vfuddhânt:
10Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad ar ôl vrdd Melchi-sedec.
11Am yr hwn y mae i ni lawer iw ddywedyd, yr hyn sydd anhawdd ei fynegi, o achos eich bod chwi yn fuscrell eich clustiau.
12Canys lle y dylech chwi o herwydd amser fod yn athrawon, rhaid yw trachefn ddyscu i chwi beth ydyw gwyddorion dechreuad ymadroddion Duw, ac chwi a aethoch yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf.
13O blegit pawb a ymarfero â llaeth, anghynefin yw â gair cyfiawnder: canys maban yw.
14Eithr y bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith y rhai o herwydd cynnefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosparthu rhwng da a drwg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
