Ieremi 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.Daioni Duw i’r bobl. 23 Llawenydd ysprydol y ffyddloniaid.

1Yr amser hwnnw medd yr Arglwydd y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel: a hwyntau a fyddant bobl i mi.

2Fel hyn y dywed yr Arglwydd, y bobl y rhai a dihangodd rhac y cleddyf a gafodd ffafor yn yr anialwch, fyned i beri llonyddwch iddo ef Israel.

3Er ystalm yr ymddangose yr Arglwydd i mi â chariad tragywyddol i’th gerais, am hynny yr estynnais i ti drugaredd.

4Myfi a’th adailadaf etto, a thi a adailedir, ô forwyn Israel: ymdrwssia etto a’th dympanau a dos di allan gyd a’r chwaryddion dawns.

5Ti a blenni etto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: plan-wŷr a blannant, ac a fwynhânt.

6Canys rhw ddydd y geilw y ceidwad ym mynydd Ephraim, codwch, ac awn i fynu i Sion at yr Arglwydd ein Duw.

7Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, cenwch orfoledd i Iacob, a chrechwenwch am benn y cenhedloedd, cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, ô Arglwydd cadw dy bobl gweddill Israel.

8Wele mi ai harweiniaf hwynt o dîr y gogledd, ac mi ai casclaf hwynt o ystlysoedd y ddaiar, y dall a’r cloff, y feichiog, a’r escoredic a’r vnwaith gyd â hwynt: cynnulleidfa fawr a ddychwelant ymma.

9Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt trachefn, tywysaf hwynt ar hŷd ffrydau dyfroedd, mewn ffordd iniawn na thrippiant ynddi: o blegit myfi sydd yn dâd i Israel, ac Ephraim yw fyng-hyntafanedic.

10Gwrandewch air yr Arglwydd ô genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch yr hwn a wascarodd Israel, ai cascl ef, ac ai ceidw, fel bugail ei braidd.

11O herwydd yr Arglwydd a waredodd Iacob, ac ai hachubodd ef o law yr hwn drech nag ef.

12Am hynny y deuant, ac y canmolant yn vchelder Sion, a hwynt a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am fwyniant y defaid, a’r gwarthec: ai henaid fydd fel gardd ddyfradwy, ac ni ofidiant mwyach.

13Yna y llawenycha y forwyn yn dy dawns a’r gwŷr ieuaingc, a’r henaf-gwŷr yng hyd: canys myfi a droaf eu galar yn llaweni hyfrydwch, ac ai diddanaf hwynt, ac ai cyssuraf oi tristwch.

14Ac mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid a braster: a’m pobl a ddigonir a’m daioni medd yr Arglwydd.

15Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mat.2.18.llef a glywyd yn Rama, cŵynfan, ac ŵylofain chwerw, Rahel yn ŵylo am ei meibion: ni fynne ei chyssuro am ei meibion, o herwydd nad oeddynt.

16Fel hyn y dywed yr Arglwydd, attal dy lêf rhac ŵylo, a’th lygaid rhac deigr, canys y mae tâl i’th lafur medd yr Arglwydd, a hwynt a ddychwelant o dîr y gelyn:

17Ac y mae gobaith am dy ddibendod ti medd yr Arglwydd: a’th blant a ddychwelant iw brô eu hun.

18Clywais Ephraim yn cwynfan cospaist fi, ac mi a gospwyd fel llo heb ei ddofi: dychwel di fi, ac myfi a ddychwelir, o blegit ti ydwyt yr Arglwydd fy Nuw.

19Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd yr edifarheais, ac wedi i mi ŵybod y tarewais morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a wradwyddwyd hefyd am i mi ddwyn gwarth fy ieuengtid.

20Onid mab hôff i mi yw Ephraim? onid plentyn diddanwch? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef gan gofio y cofiais ef etto, am hynny fy mherfedd a ruasant am dano ef: gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef medd yr Arglwydd.

21Cyfot ti it arwyddion, gosot i ti garneddau, gosot dy galon ar y briffordd yr hon a rodiaist: dychwel morwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hynn.

22Pa hŷd yr ymgyrwydri di ô ferch wrthnysig? o blegit yr Arglwydd a greawdd beth newydd yn y tîr, benyw a amgylchyna ŵr.

23Fel hynn y dywet Arglwydd y lluoedd Duw Israel, etto hwynt a ddywedant y gair hwn yng-wlâd Iuda, ac yn ei dinasoedd pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt: yr Arglwydd a’th fendithio di ô annedd cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.

24Yna ardd-wŷr a’r bugeiliaid a bresswyliant ynddi hi Iuda, ai holl ddinasoedd ar vnwaith.

25O herwydd yr enaid deffygiedic a ddigonais, a phob enaid trîst a lenwais.

26Am hynny y deffroais i, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennif.

27Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd i mi hau tŷ Israel, a thŷ Iuda â hâd dŷn, ac â hâd anifail.

28Ac megis y gwiliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac drygu felly y gwiliaf arnynt hwy, i adailadu, ac iw plannu medd yr Arglwydd.

29Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, y * tadau a fwytasant rawn-win surion: ac ar ddannedd y plant y mae dingcod.

30Onid pob vn a fydd farw yn ei anwiredd ei hun, pob dŷn a’r a fwytu rawn-wîn surion, ar ei ddannedd ef y bydd dingcod.

31Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd i mi wneuthur cyfammod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Iuda,

32Nid fel y cyfammod yr hwn a wneuthum i ai tadau hwynt ar y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt iw dwyn allan o dîr yr Aipht, yr hwn gyfammod mau fi a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymmu, er fy mod i yn briod iddynt medd yr Arglwydd.

33Ond dymma y cyfammod yr hwn a wnafi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynn medd yr Arglwydd: myfi a roddaf fyng-hyfraith yn eu mysc hwynt, ac mi ai scrifennaf hi ar eu calonnau hwynt, ac mi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwyntau a fyddant yn bobl i mi.

34Ac ni ddyscant mwyach bob vn ei gymmydog, a phob vn ei frawd, gan ddywedyd: adnebyddwch yr Arglwydd, o herwydd hwynt oll a’m hadnabyddant mawr a bychan medd yr Arglwydd, o blegit mi a feddeuaf eu hanwiredd, ai pechod ni chofiaf mwyach.

35Fel hynn y dywed yr Arglwydd yr hwn a rhoddodd yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer, a’r sêr yn oleuni nôs, yr hwn sydd yn rhwygo yr môr fel y terfysco ei donnau: Arglwydd y lluoedd ei enw.

36Os cilia y defodau hynn o’m gŵydd i medd yr Arglwydd, yna hâd Israel a baid a bod yn genhedlaeth ger fy mron i yn dragywydd.

37Fel hynn y dywed yr Arglwydd, pe mesurid y nefoedd oddi vchod, a chwilio sylfeini y ddaiar hyd isod, yna minne a ddiystyrwn hôll hâd Israel, am yr hynn oll a wnaethant hwy medd yr Arglwydd.

38Wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd pan Nehem.1.2.adailedir y ddinas i’r Arglwydd o dŵr Hananeel, hyd borth y gongl.

39A llinyn mesur aiff allan etto oi flaen ef, hyd frynn Gareb: ac a amgylcha tu a Goath.

40A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, a’r holl feusydd hyd afon Cedron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain sanctaidd i’r Arglwydd, ni’s diwreiddir, ac ni’s dinistrir mwyach byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help