Psalmau 116 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxvj.

1 Da gennif wrando o’r Arglwydd a’r fy llef a’m gweddiau.

2Am ostwng o honaw ef ei glust attaf, llefaf tros fy nyddiau

3Maglau angeu a’m cylchynâsant, a gofidiau vffern a’m daliâsant, ing a blinder a gefais.

4Ond mi a alwaf ar enw’r Arglwydd, attolwg Arglwydd gwaret fy enaid.

5Trugârog Arglwydd, a chyfiawn, a thosturiol yw ein Duw ni.

6Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd.

7Dychwel ô fy enaid, i’th orphywysfa, canys yr Arglwydd fu ddâ wrthit.

8O herwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angeu, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro:

9Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhîroedd y rhai byw.

10Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi’n ddirfawr.

11Mi a ddywedais yn fy ffrwst, pob dyn gelwyddoc.

12Beth a dalaf i’r Arglwydd ei holl ddoniau i mi?

13Phiol iechydwriaeth a gymmeraf, ac ar enw’r Arglwydd y galwaf.

14Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr o flaen ei holl bobl ef.

15Gwerth-fawr yng-olwg yr Arglwydd marwolaeth ei sainct ef.

16Wele ô Arglwydd, o herwydd mai dy wâs di (dy wâs di mab dy wasanaeth-wraig,) dattodaist fy rhwymau.

17Aberthaf i ti aberth moliant: a galwaf ar enw’r Arglwydd.

18Talaf fy addunedau i’r Arglwydd yn awr o flaen ei holl bobl,

19Yng-hynteddoedd tŷ’r Arglwydd o’th fewn di ô Ierusalem. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help