Gweithredoedd yr Apostolion 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Paul yn gweithio â’i ddwylo. 4 Yn Pregethu yn Corynth, ac yn ymresymmu. 24 Clôd Apollos, Aquila a Phriscilla.

1Yn ôl hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Corynth.

2Ac wedi cael gafael ar Iddew a’i enw Rhufein.16.3. Anuila yr hwn a hanoedd o Pontus wedi dyfod yn hwyr o’r Ital ai wraig Priscilla (am orthymmyn o Elaudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain) efe a ddaeth attynt:

3A chan ei fod o’r vn gelfyddyd, efe a arhoes, ac a weithiodd gyd a hwynt: a’u celfyddyd ydoedd gwneuthur pebyll.

4Ac efe a ymresymmodd yn y Synagog bôb Sabboth, ac efe a gynghorodd yr Iddewon a’r Groegiaid.

5Ac wedi dyfod Silas a Thimotheus o Macedonia, Paul a yrrwyd gan yr Yspryd i destiolaethu i’r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.

6A hwyntau yn gwrthwynebu, ac yn cablu, efe a Pen.13.51. math.10.14. escydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, bydded eich gwaed ar eith pen eich hunain: yr wyfi yn lan, yn ôl hyn yr âf ac y cenhedloedd.

7Ac efe a aeth oddi yno, ac a aeth i mewn i dy vn a enwid Iustus yr hwn oedd yn gwasanaethu Duw, tŷ yr hwn oedd yn gyfagos i’r Synagog.

8Ac 1.Cor.1.14. Crispus pen-synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a’i holl dŷ: a llawer o’r Corinthiaid wrth ei wrando a gredâsant, ac a fedyddiwyd.

9A’r Arglwydd a ddywedodd liw nos wrth Paul trwy weledigaeth, nac ofna, eithr traetha, ac na thaw.

10Canys yr wyfi gyd â thi, ac ni esyd neb arnat i wneuthur niwed i ti: herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.

11Ac efe a arhoes flwyddyn a chwe-mis yno, yn dyscu iddynt air Duw.

12Eithr Pan oedd Gal-lio yn rhaglaw o Achaia, y cyfododd yr Iddewon yn vnfryd yn erbyn Paul, ac a’i dugasant ef i’r frawdle:

13Gan ddywedyd: y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf.

14Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, y dywedodd Gal-lio wrth yr Iddewon: pe buase gam, neu ddrwg weithred (ô Iddewon,) mi a gyd ddygwn â chwi wrth reswm.

15Eithr os yw’r ymrafael am ymadrodd, ac enwau, ac am eich deddf chwi, edrychwch eich hunain: canys ni byddaf fi farn-wr am y pethau hynny.

16Ac efe a’u gyrrodd hwynt o’r frawdle.

17Yna y Groeg-wŷr oll a gymmerasant Sosthenes y pen-synagogydd, ac a’i tarawsant o flaen y frawdle, ac nid oedd Gal-lio yn gofalu am ddim o’r pethau hynny.

18Ac wedi i Paul aros yn chwaneg lawer o ddyddiau, efe a gymmerodd ei gennad gan y brodyr, ac a fordwyodd i Syria, a Phriscilla, ac Aquila gyd ag ef, gwedi iddo eillio ei ben yn Cenchrea: canys efe a wnaethe Pen.21.24. num.6.18. adduned.

19Ac efe a ddaeth i Ephesus, ac au gadawodd hwynt yno, eithr efe a aeth i’r Synagog, ac a ymresymmodd â’r Iddewon.

20A phan geisiasant ganddo aros yn hwy gyd â hwynt, ni chaniattae efe

21Eithr efe a gymmerodd ei gennad ganddynt gan ddywedyd, y mae yn angenrhaid i mi gadwyr ŵyl hon sydd yn agos yn Ierusalem, ond 1.Cor.4.19. iaco.4.15. os myn Duw mi a ddeuaf yn fy ôl attoch eil waith: ac efe a aeth ymmaith o Ephesus.

22Ac wedi iddo ddyfod i wared i Cæsarea, efe a aeth i fynu i ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i wared i Antiochia.

23Ac wedi iddo aros yno ennyd, efe a aeth ymmaith; gan drammwy trwy wlad Galacia, a Phrygia, a chadarnhau yr holl ddiscyblion.

24Eithr rhyw Iddew, a’i enw 1.Cor.1.12. Apollos yr hwn a anesid yn Alexandria, gŵr ymadroddus, cardarn yn yr y scrythyrau a ddaeth i Ephesus:

25Hwn oedd wedi dechreu dyscu iddo ffordd yr Arglwydd, ac yn boeth ei yspryd, efe a draethodd, ac a athrawodd yn ddiwyd bethau yr Arglwydd, ac ni wydde ond bedydd Ioan.

26A hwn a ddechreuodd draethu yn hydêrus yn y Synagog: a phan glybu Rufe.16.3. Aquila a Phryscilla hwn, hwy ai cymmerasant ef attynt, ac a agorasant ffordd Dduw yn fanylach.

27A phan ewyllysiodd efe fyned i Achaia, y brodyr gan ei annog ef, a scrifennasant at y discyblion iw dderbyn ef, ac wedi iddo fyned yno, efe a wnaeth lawer o lesâd i’r rhai a gredâsent trwy râs.

28Canys efe a geryddodd yr Iddewon ar osteg yn ddirfing, gan ddangos trwy yr scrythyrau mai Iesu yw Crist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help