1Wele brenin a. deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a flaenorant mewn barn.
2A’r gŵr fydd megis yn ymguddfa gwynt, a lloches llifeiriant, megis afonydd dyfroedd mewn sychder, megis cyscod craig fawr mewn tîr sychedic.
3Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant.
4Calon hefyd y rhai ehud a ddeall ŵybodaeth, a thafod y rhai bloesc a bryssura draethu eglur.
5Ni elwir mwy’r ynfyd yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cubydd, hael
6Canys yr ynfyd a draetha ynfydrwydd, ai galon a wnaiff anwiredd, gan ragrithio, ac chan draethu cabledd yn erbyn yr Arglwydd: gan ddiddymmu enaid y newynog, a chan dynnu ymmaith ddiod y sychedic.
7Arfau y cubydd annuwiol, efe a ddychymyga ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau: ac i draethu y tlawd mewn barn.
8Felly yr hael a ddychymyg haelioni: ac ar haelioni y saif efe.
9Cyfodwch wragedd difraw, clywch fy llais, gwrandewch fy ymadrodd ferched diofal.
10Dyddiau gyd â blwyddyn y trallodir chwi wragedd difraw, canys darfu y cynhaiaf gwin, ni ddaw cynnull
11Ofnwch rai difraw, dychrynnwch rai diofal, ymddiosc, ac ymnoetha, ymwregysa hefyd am dy lwyni.
12Galaru y maent am y tethau, am feusydd hyfryd, am win-wydden ffrwythlon,
13Cyfyd drain, a mieri ar dir fy mhobl, îe ar bob tŷ llawenydd dinas hyfryd.
14Canys y palas a ddinistrir, lluosogrwydd y ddinas a adewir, yr amddeffynfa, a’r tŵr fyddant yn ogfeudd hyd byth, yn hyfrydwch assynnod gwylltion, yn borfa diadellau
15Hyd oni thywallter arnom yspryd o’r vchelder, a bod yr anialwch yn ddol-dir, a chyfrif y dol-dir yn goed-tir,
16Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y dol-dir.
17A gwaith cyfiawnder fydd heddwch, ie gweithred cyfiawnder llonyddwch a diogelwch hyd byth.
18Canys fy mhobl a drig mewn presswylfa heddychlon, ac mewn anneddau diogel, ac mewn gorphwystra llonydd.
19Yna y bydd cenllysc yn descyn y coed, a’r ddinas fydd issel mewn gwastad.
20Gwyn eich byd y rhai a hauwch ger llaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch yr ŷch a’r assyn
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
