2.Cronicl 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Gwaith yr allor. 2 Y gerwyn, 6 Y noeau, 7 Y Cannwyll-brennau, ac eraill o ddodrefnau yr deml.

1Ac efe a wnaeth allor brês, o vgain cufydd ei hyd, ac vgain cufydd ei llêd, a dêc cufydd ei huchter.

2Gwnaeth efe hefyd gerwyn dawdd yn ddêc cufydd oi ymyl hyd ei hymyl yn gron o amgylch, ac yn bump cufydd ei huchter: a llinin o ddêc cufydd ar hugain ai hamgylche hi oddi amgylch.

3A llun ŷchen tani hi yn ei hamgylchu hi o amgylch, mewn dêc cufydd yr oeddynt yn amgylchu y gerwyn oddi amgylch: dwy rês o ŷchen oeddynt wedi eu coddi, pan doddwyd hithe.

4Sefyll yr oedd hi ar ddeuddec o ŷchen, tri yn edrych tua’r gogledd, a thri yn edrych tua’r gorllewyn: a thri yn edrych tua’r dehau, a thri yn edrych tua’r dwyrain: a’r gerwyn arnynt oddi arnodd, ai holl bennau ôl hwynt o fewn.

5Ai thewder ddyrnfedd, 1.Bren.7.26.ai hymyl fel gwaith ymyl cwppan, blodeun lili, tair mil o Bathau a ddalie hi.

6Gwnaeth efe hefyd ddêc o noeau, ac efe a roddodd bump o’r tu dehau, a phūp o’r tu asswy, i ymolchi ynddynt: trochent ynddynt ddefnydd y poeth offrwm, a’r gerwyn i’r offeiriaid i ymolchi ynddi.

7Ac efe a wnaeth ddêc canhwyll-bren aur yn ôl eu portreiad, Exod.25.31.ac rhoddes yn y deml, pump o’r tu dehau, a phump o’r tu asswy.

8Gwnaeth hefyd ddêc o fyrddau, ac ai rhoddes yn y deml, pump o’r tu dehau, a phump o’r tu asswy: ac efe a wnaeth gant o gawgiau aur.

9Ac efe a wnaeth gyntedd yr offeiriaid, a’r cyntedd mawr, a dorau i’r cynteddoedd, ai dorau hwynt a wiscodd efe a phrês.

10Ac efe a osododd y gerwyn yn yr ystlys dehau tua’r dwyrain ar gyfer y dehau.

11Gwnaeth Hiram hefyd grochanau, a rhawiau, a chawgiau, a darfu i Hiram wneuthur y gwaith yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Salomon yn nhŷ Dduw.

12[Sef] dwy golofn, a chnappiau, a choronau ar ben y ddwy golofn, a dwy bleth i guddio y ddau gnapp goronoc, y rhai ar ben y colofnau.

13A phedwar-cant o bomgranadau ar y ddwy bleth, dwy rês o bomgranadau ar bôb pleth: i guddio y ddau gnapp gornoc y rhai ar bennau y colofnau.

14Ac efe a wnaeth ystolion, ac a wnaeth noeau ar yr ystolion:

15[Gwnaeth] vn gerwyn, a deuddec o ŷchen tani.

16Y crochanau hefyd, a’r rhawiau. a’r cigweiniau, ai holl lestri hwynt a wnaeth Hiram ei dad i’r brenin Salomon yn nhŷ’r Arglwydd o brês gloiw.

17Yng-wastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn clei-dir rhwng Sucoth a Zaredatha.

18Ie gwnaeth Salomon yr holl lestri hyn yn lluosog iawn, canys anfeidrol oedd bwys y prês.

19A Salomon a wnaeth yr holl lestri y rhai nhŷ Dduw: a’r allor aur, a’r byrddau, a’r bara gosod arnynt.

20A’r canhwyll-brennau, ai llusernau (iw goleuo yn ôl y ddefod o flaē y gafell) yn aur pûr.

21Y blodau hefyd, a’r lusernau a’r gefeiliau aur, hwnnw yn aur perffaith.

22Y psaltringau hefyd, a’r cawgiau, a’r llwyau, a’r thusserau aur pûr: felly drws y tŷ, ai ddorau o du fewn y cyssegr sancteiddiolaf, a dorau tŷ y deml aur.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help