1Pwy a’th rydd megis brawd i’m, yn sugno bronnau fy mam? i’th gawn allan cusanwn di, ac ni’m dirmygent.
2Tywysaf, arweiniaf di i dŷ fy mam i’m dyscech fi, y parwyf it yfed o wîn arogl-ber o sugn fy mhomgranadau.
3Ei law asswy tann fy mhen, ai law ddehau a’m cofleidia.
4Tyngedais chwi ferched Ierusalem: na chyffroech, ac na ddeffroech fyng-hariad ymma hyd oni fynne hi ei hun:
5Pwy hon sydd yn dyfod i fynu o’r anialwch yn bwrw ei phwys ar ei hannwylyd? tann yr afallen i’th gyffroais, yno i’th escorodd dy fam, yno i’th escorodd yr hon a’th ymddug.
6Gosot fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich, canys cariad morr gryf ag angeu, eiddigedd morr greulon ag vffern, ei farwor farwor tanllyd, fflam yr Arglwydd.
7Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi y cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhodde ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8[Y mae] i ni chwaer fechan, ac nid fronnau iddi, beth a wnawn i’n chwaer y dydd y chwedleuer am dani?
9Os caer hi, ni a adailadwn arni balas arian, os porth hi, caewn am dani ystyllod Cedr-wŷdd.
10Caer a’m bronnau fel tŷrau, yna’r oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangneddyf.
11Yr oedd gwin-llan i Salomon yn Baalhamon, Matth.22.33.efe a roddes y winllan at warcheidwaid, pob vn a ddyge am ei ffrwyth fil o arian.
12Fyng-winllan mau fi ger fy mron, y mil i ti Salomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth.
13O yr hon a drigi yn y gerddi, pregetha fi i’th gyfeillion, y rhai a wrandawant ar dy lais.
14Bryssia fy annwylyd a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y pêr-arogl.
Terfyn Cân y Caniadau
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
