1.Samuel 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.1 Cân Hannah. 12 beiau meibion Eli, Samuel yn gwasanaethu o flaen yr Arglwydd. 20 Eli yn bendithio Elcana, a Hannah. 23 Eli yn ceryddu ei feibion yn rhy dyner. 27 Prophwyd yr Arglwydd yn bygwth dialedd ar Eli, am na lywodraethe ei feibion yn well.

1Yna Hannah a weddiodd, ac a ddywedodd, llawenychodd fyng-halon yn yr Arglwydd fyng-horn a dderchafwyd yn yr Arglwydd: fyng-enau a ehangwyd ar fyng-elynion: canys llawenychais yn dy iechydwriaeth di.

2nid sanctaidd fel yr Arglwydd, canys nid dim hebot ti: ac nid graig megis ein Duw ni.

3Na chwanegwch lefaru yn vchel vchel, ddeued allan balch och genau: canys Duw gwybodaeth yr Arglwydd, ai amcannion ef a gyflawnir.

4Bwa y cedyrn a dorrwyd, a’r gwenniaid a ymwregysasant a nerth.

5[Y rhai] digonol a ymgyflogasant er bara, a’r rhai newynoc a beidiasant hyd onid escorodd yr amhlantadwy ar saith, a llescau yr aml meibion.

6 Deut.32.39.|DEU 32:39. doeth.16.13.|WIS 16:13. iob.13.2. Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau, efe sydd yn dwyn i wared i’r bedd, ac efe a ddwg i fynu.

7Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi, yn darostwng, ac yn derchafu.

8 Psal.113.7. Efe sydd yn cyfodi y rhaidus o’r llŵch, o’r domm y derchafa efe y tlawd, iw gosod gyd a thywysogion, efe a bair iddynt etifeddu teyrngader gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd golofnau y ddaiar, ac efe a osododd y bŷd arnynt.

9Traed ei sainct a geidw efe, a’r anuwolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr,

10Y Pen.7.10.rhai a ymrysonant a’r Arglwydd a ddryllîr, efe a darâna yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaiar: ac a ddyru nerth iw frenin, ac a dderchafa gorn ei eneiniog.

11Yna yr aeth Elcana i Ramah iw dŷ, a’r llangc a fu wenidog i’r Arglwydd ger bron Eli yr offeiriad.

12Ond meibion Eli feibion y fall: nid adwaenent hwy mo’r Arglwydd.

13A defod yr offeiriad gyd a’r bobl pôb gŵr a’r a offrymme offrwm, yna bachgen yr offeiriad a ddeue pan fydde y cîg yn berwi, a chigwain dri daint yn ei law,

14Ac ai tarawe yn y badell, neu yn yr efyddyn, neu yn y crochan, neu yn y pair, yr hyn oll a gyfode y gigwain a gymmere yr offeiriad iddo: felly y gwnaent yn Silo i holl Israel y rhai oeddynt y dyfod yno.

15Ie cynn arogl-losci o honynt y brasder, y deue bachgen yr offeiriad hefyd, ac a ddywede wrth y gŵr a fydde yn aberthu, dyro gîg iw rostio i’r offeiriad, canys ni chymmer efe gennit gîg berw, onid amrwd.

16Os y gŵr a ddywede wrtho, gan losci lloscant yn awr y brasder, yna cymmer it: fel yr ewyllysio dy galon: yntef a ddywede wrtho, er hynny yn awr y rhoddi, ac onid ê, mi ai cymmeraf drwy gryfder.

17A phechod y llangciau oedd fawr iawn ger bron yr Arglwydd: canys ffieiddiodd y dynion fwyd offrwm yr Arglwydd.

18A Samuel oedd yn gweini o flaen yr Arglwydd yn langc wedi ei ymwregysu ag Exod.28 4.Ephod liain.

19Ai fam a wnaeth iddo fantell fechan, ac ai dûg iddo o flwyddyn i flwyddyn, pan ddele hi i fynu gyd ai gŵr i aberthu yr aberth blynyddawl.

20Yna Eli a fendithiodd Elcana, ai wraig, ac a ddywedodd, gosoded yr Arglwydd i ti hâd o’r wraig hon: am y dymuniad yr hwn a ddymunodd gan yr Arglwydd: felly yr aethant hwy iw mangre eu hun.

21A’r Arglwydd a ymwelodd a Hannah, a a hi a feichiogodd, ac a escorodd ar dri o feibion, a dwy o ferched: a’r llangc Samuel a gynnyddodd o flaen yr Arglwydd.

22Ac Eli hên iawn, ac efe a glybu yr hyn holl a wnelse ei feibion ef i holl Israel, a’r modd y gorweddasent gyd a’r gwragedd y rhai oeddynt yn ymgasclu ddrws pabell y cyfarfod.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, pa ham y gwnaethoch yn ôl y geiriau hyn? canys clywaf gan yr holl bobl hyn ddryg-air i chwi.

24Na fy meibion, canys nit dâ y gair yr hwn yr ydwyfi yn ei glywed, eich bod chwi yn traws-arwain pobl yr Arglwydd.

25Os gŵr a becha yn erbyn gŵr, y swyddogion ai barnant ef: ond os yn erbyn yr Arglwydd y pecha gŵr, pwy a eiriol trosto ef? ond ni wrandawsant ar lais eu tâd: am y mynne yr Arglwydd eu lladd hwynt.

26A’r llangc Samuel a aeth yn fawr, ac yn dda gan Dduw, a dŷnion hefyd.

27Yna y daeth gŵr i Dduw at Eli, ac a ddywedodd wrtho ef, fel hyn y dywed yr Arglwydd, onid gan ymddangos yr ymddangosais i dŷ dy dâd, pan oeddynt yn yr Aipht tann dylwyth Pharao?

28Gan ei ddewis ef hefyd, a holl lwythau Israel yn offeiriad i mi i offrymmu ar fy allor, i losci arogl-darth, i wisco Ephod ger fy mron: Lefit.10.14.rhoddais hefyd i dŷ dy dâd ti holl ebyrth tanllyd meibion Israel.

29Pa ham y sethrwch chwi fy aberth a’m bwyd offrwm, y rhai a orchymynnais teml, ac yr anrhydeddaist dy feibion yn fwy na myfi, gan eich pescu eich hunain o flaen-ffrwyth holl fwyd offrwm fy-mhobl Israel?

30Am hynny medd Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd y dywedais: dy dŷ di, a thŷ dy dâd a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr Arglwydd, pell fydd hynny oddi wrthifi, canys fy anrhydedd-wŷr a anrhydeddaf, a’m dirmyg-wŷr a ddirmygir.

31Wele y dyddiau yn dyfod pan dorrwyf dy fraich di, a braich tŷ dy dâd ti, fel na byddo henuriad yn dy dŷ di.

32A thi a gei weled elyn yn nheml yn lle yr hyn oll a wnaeth efe o ddaioni Israel: ac ni bydd henuriad yn dy dŷ di bŷth.

33Ond ni thorraf ymmaith bawb o’th eiddo di oddi wrth fy allor, i beri i’th lygaid ballu, ac i beri i’th galon ofidio: a holl liaws dy dŷ di a fyddant feirw yn wŷr.

34A hyn i ti yn arwydd, yr hwn a ddaw i’th ddau fab, i Hophni a Phinees: yn yr vn dydd y byddant feirw ill dau.

35A chyfodaf i mi offeiriad ffyddlon a wnaiff fel yn fyng-halon, a’m meddwl: a mi a adailadaf iddo ef dŷ siccr, ac efe a rodia ger bron fy eneiniog yn dragywydd.

36A bydd i’r rhai oll a adewir yn dy dŷ di ddyfod i ymgrymmu iddo ef am ddernyn o arian, a thippin o fara: a a ddywed, gosot fi yn awr mewn rhyw offeiriadaeth i bwytta tammed o fara.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help