Amos 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.1 Gweledigaeth yn arwyddocau diwedd brenhiniaeth Israel. 4 Traha ar dlodion: 7 Dialedd Duw am dyngu i’r gau-dduwiau.

1Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi, sef wele gawelled o ffrwythydd hâf.

2Ac efe a ddywedodd, beth a weli di Amos? a mi a ddywedais, cawelled o ffrwythydd hâf: yna y dywedodd yr Arglwydd wrthif, daeth diwedd ar fy mhobl Israel, ac nid âf heibio mwyach.

3Caniadau y Deml hefyd a droir iddo ar y dydd hwnnw medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fyddant ym mhob lle: bwrir hwynt allan yn ddistaw.

4Gwrandewch hyn a sawl ydych yn llyngcu yr anghenog i ddifa tlodion y tîr,

5Gan ddywedyd, pa bryd yr aiff y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Sabboth, fel yr agorom y gwenith, a phrinhau’r Epha, a helaethu y Sicl, a gŵyro y cloriannau dwyll?

6I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er escidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith?

7Tyngodd yr Arglwydd i rogor-fraint Iacob: nid anghofiaf byth eu holl weithredoedd hwynt.

8Oni chryn y ddaiar am hyn? ac oni alara ei holl bresswyl-wŷr? cyfyd hefyd ei gyd fel llif, a bwrir hi ymmaith, a hi a foddir megis afon yr Aipht.

9A’r dydd hwnnw medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaiar dydd goleu.

10Trôf hefyd eich gŵyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oer-nad, a dygaf sach-liain ar yr holl lwynau, a moelni ar bôb pen: ac mi ai gofodaf fel galar vn mab, at ddiwedd fel dydd chwerw.

11Wele y mae dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd Dduw, a mi a anfonaf newyn i’r tîr: nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, onid am wrando gair Duw.

12Yna y cyrwydrant o fôr i fôr, a gwibiant o’r gogledd hyd y dwyrain i geisio gair yr Arglwydd, ac ni’s cânt.

13Y diwrnod hwnnw y gweryfon têg, a’r meibion ieuaingc a ddiffoddant o syched.

14Y neb: dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, byw yw dy dduw di ô Dan: a byw yw ffordd Beerseba, a syrthiant, ac ni chodant mwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help