Malachi 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Dyfodiad Elias o flaen dydd yr Arglwydd.

1Canys wele y dydd yn dyfod yn llosci megis ffwrn, a’r holl feilchion, a’r holl weithred-wŷr anwiredd a fyddant sofl: a’r dydd sydd yn dyfod ai llysc hwynt medd Arglwydd y lluoedd, yr hwn ni âd iddynt na gwreiddin, na changen.

2Onid haul cyfiawnder a gyfyd i chwi y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddiginiaeth tann ei ascell: a chwi a ewch allan, ac a gynnyddwch megis lloi pascedic.

3A chwi a wasernwch yr annuwolion, canys byddant yn llwch tann wadnau eich traed chwi: yn y dydd yr hwn a baraf i, medd Arglwydd y lluoedd.

4Cofiwch gyfraith Moses fyng-wâs yr hon a orchymynnais iddo ef yn Horeb, am holl Israel yn ddeddfau, a barnedigaethau.

5Wele mi a anfonaf attoch chwi Elias y prophwyd, cyn dyfod y mawr a’r ofnadwy ddydd yr Arglwydd.

6Ac efe a dychwel galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau, rhag i mi daro y ddaiar â difrod.

Terfyn y Prophwyd Malachi, ac hefyd o’r holl brophwydi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help