2.Samuel 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Seba yn gwrthryfela yn erbyn Dafydd. 10 Ioab trwy frâd yn lladd Amasa. 22 Dihenydd Seba.

1Ac yno y digwyddodd bod gŵr i’r fall ai enw Seba mab Bichri, gŵr o Iemini: ac efe a vdcanodd mewn vdcorn, ac a ddywedodd, nid oes i ni rann mewn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Isai, pawb iw babell, ô Israel.

2Felly holl wŷr Israel a aethant i wared oddi ar ôl Dafydd ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Iuda a lynâsant wrth ei brenin o’r Iorddonen hyd Ierusalem.

3Pan ddaeth Dafydd iw dŷ ei hun i Ierusalem, yna y brenin a gymmerth Pen.16.22.y dêc gordderch-wraig y rhai a adawse efe i gadw yr tŷ, ac ai rhoddes hwynt carchar-dŷ, ac ai porthodd hwynt, ond nid aeth efe i mewn attynt hwy, eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth yn byw mewn gweddwdod.

4Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa, dyfyn i mi wyr Iuda y trydydd dydd: a saf dithe ymma.

5Felly Amasa a aeth i ddyfyn Iuda: ond efe a drigodd yn hwy na’r amser terfynedic yr hwn a osodase efe iddo.

6Yna y dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a’n dryga ni yn waeth nac Absalom: cymmer di weision dy arglwydd ac erlid ar ei ôl ef, rhac iddo gael y dinasoedd caeroc, a diangc golwg ni.

7A gwŷr Ioab, a’r Cerethiaid, Pen.8.19.(sic.)y Pelethiaid hefyd, a’r holl gedyrn a aethant ar ei ôl ef: ac aethant allan o Ierusalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

8[Pan oeddynt] hwy wrth y maen mawr yr hwn yn Gibeon, yna Amasa a ddaeth oi blaen hwynt: ac Ioab oedd wedi gwregysu ei gochol ar ei ddillad, ac arni gwregys chleddyf wedi ei gwplysu wrth ei lwynau ef mewn gwain, pan ele efe a syrthie.

9A dywedodd Ioab wrth Amasa, a wyt ti yn llawen fy mrawd? a llaw ddehau Ioab a ymaflodd ym marf Amasa iw gussanu ef.

10Ond ni ymochelodd Amasa rhac y cleddyf yr hwn yn llaw Ioab, canys ag ef y tarawodd efe ef dan y bummed ac a ollyngodd ei berfedd ef i’r llawr, ac nid ail darawodd ef, felly efe a fu farw: yna Ioab, ac Abisai ei frawd a ganllynodd ar ôl Seba mab Bichri.

11Ac vn o weision Ioab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef: ac a ddywedodd, pwy bynnac a’r a ewyllysio i Ioab, a phwy bynnac ar a i Ddafydd ar ôl Ioab.

12Ac Amasa a ymdrabaeddase mewn gwaed yng-hanol y briffordd: pan welodd y y gŵr sefyll o’r holl bobl, yna efe a symmudodd Amasa oddi ar y briffordd i’r maes, ac a daflodd gadach arno ef, pan welodd efe bawb ar a oedd yn dyfod atto ef yn sefyll.

13Pan symmudwyd ef oddi ar y briffordd: yr holl wyr a aethant ar ôl Ioab i erlid ar ôl Seba mâb Bichri.

14Ac efe a drammwyodd drwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth-maacha, ac i holl Berim: ac hwy a ymgasclasant ac a ddaethant arei ôl ef.

15Felly y daethant hwy, ac a warchauasant arno ef yn Abel Beth-maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas a safodd ar y rhagfur: a’r holl bobl y rhai gyd ag Ioab oeddynt yn dinistrio, gan gwympo y mûr.

16Yna gwraig ddoeth o’r ddinas, a lefodd: clywch, clywch, dywedwch attolwg wrth Ioab, nessâ hyd ymma fel yr ymddiddan wyf a thi.

17Pan nessaodd efe atti hi, yna y wraig a ddywedodd ai ti Ioab? diwedodd yntef myfi: a hi a ddywedodd wrtho ef, gwrando eiriau dy lawforwyn, dywedodd yntef yr ydwyf yn gwrando.

18Yna hi a ddywedodd, Deut.20.11.fel hyn gynt y llefarent gan ddywedyd, ac y gofynnent yn Abel, ac felly y cwplaent.

19Myfi o heddychol ffyddloniaid Israel: ti ydwyt yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel, pa ham y difethi di etifeddiaeth yr Arglwydd?

20Ac Ioab a attebodd: ac a ddywedodd, na atto Duw, na atto Duw i mi, na difetha na dinistrio.

21Nid felly yr peth, eithr gŵr o fynydd Ephraim (Seba mab Bichri ei enw ef) a dderchafodd ei law yn erbyn y brenin Dafydd, rhoddwch ef yn vnic, ac mi a âf ymmaith oddi wrth y ddinas: a dywedodd y wraig wrth Ioab, wele ei benn ef a fwrir attat ti dros y mûr.

22Yna yr wraig oi doethineb ei hun a aeth at yr holl bobl, a hwynt a dorrasant ben Seba mab Bichri, ac ai taflasant ac Ioab, yna efe a vdcanodd mewn vdcorn, ac bwy a wascarasant oddi wrth y ddinas, pôb vn iw pabellau: ac Ioab a ddychwelodd i Ierusalem at y brenin.

23Yna Pen.8.16.Ioab ar holl luoedd Israel: a Banaiah mab Iehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Pelethiaid.

24Ac Adoram ar y drêth: ac Iosaphat mab Ahilud yn gofiadur.

25Seia hefyd yn scrifennudd: a Zadoc, ac Abiathar yn offeiriaid.

26Ira hefyd yr Iairiad oedd raglaw i Ddafydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help