1Baich anialwch y môr: fel y cor-wynt yn dyfod o’r dehau tros yr anialwch, y daw efe o wlâd ofnadwy.
2Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi, yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, ar dinistrudd sydd yn dinistrio: Elam dring, Media gwarche, gwnaf iw holl riddfan hi ddarfod.
3Am hynny y llawnwyd fy lwynau o ddolur, gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn escor, ymdroais wrth glywed, brawychais wrth weled.
4Cyfeiliornodd fyng-halon, braw a’m dychrynnodd, efe a osododd fyng-hyfnos dymunol yn ddychryn i mi.
5Gosot y bwrdd, gwilia yn y ddisgwilfa, bwytta ŷf, cyfodwch dywysogion, irwch darian.
6O herwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthif, dôs, gosot wiliedydd i fynegu yr hynn a welo.
7Ac efe a welodd gerbyd, dau o wŷr meirch: cerbyd assyn, a cherbyd camel, ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn.
8Ac efe a lefodd llew: fy Arglwydd, ar y ddisgwilfa yr wyfi’n sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fyng-hadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nôs.
9Ac wele ymma y daeth cerbyd gŵr dau o wŷr meirch, ac efe a attebodd ac a ddywedodd, syrthiodd, syrthiodd Ier.51.8. Gwel. 14.8Babilon: a holl ddelwau ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr.
10O fy nyrniad, a chnŵd fy llawr dyrnu, yr hyn a glywais gan Arglwydd y Lluoedd Duw Israel a fynegais i chwi.
11Baich Duma, Arnafi y galwodd efe o Seir, y gwarcheidwad beth am y nôs? y gwarcheidwad beth am y nôs?
12Dywedodd y gwarcheidwad, daeth y boreu a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.
13Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletteuwch chwi, llwybrau Dedanim.
14Deuwch ddyfroedd i gyfarfod a’r sychedig, trigolion tîr Thema achûbwch flaen y cyrwydrus ai fara.
15O herwydd rhag cleddyfau y fcyrwydrasant, rhag cleddyf noeth, a rhac y bŵa anneloc, a rhag trymder rhyfel.
16O herwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthifi, cynn pen blwyddyn o fath blwyddyn gwâs cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar,
17A’r gweddill o rifedi saethyddion cedyrn meibion Cedar a leiheuir: canys Arglwydd Dduw Israel a lefarodd
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
