1Ac yng-hyfnod y flwyddyn yn yr amser y bydde y brenhinoedd yn myned allan y danfonodd Dafydd 1.Cron.20.1.Ioab ai weision gyd ag ef, a holl Israel, a hwy a ddestruwiasant feibion Ammon, ac a warchaeasant ar Rabba, a Dafydd oedd yn aros yn Ierusalem.
2Pan ydoedd hi yn bryd nawn, yna y cyfododd Dafydd oddi ar ei wely, ac a rodiodd ar nenn tŷ y brenin, ac oddi ar y nenn efe a ganfu wraig yn ymolchi: a’r wraig oedd dêg iawn yr olwg.
3Yna Dafydd a anfonodd, ac a ymofynnodd am y wraig: ac a ddywedodd, onid hon Bathseba merch Eliam, gwraig Urias yr Hethiad?
4A Dafydd a anfonodd gennadau, ac ai cymmerth hi, a hi a ddaeth i mewn atto ef, ac efe, a orweddodd gyd a hi, a hi a ymlanhaodd oi haflendid, ac a ddychwelodd iw thŷ ei hun.
5A’r wraig a fechiogodd: ac a anfonodd, ac a fynegodd i Dafydd, ac a ddywedodd: yr ydwyfi yn feichiog.
6Yna Dafydd a anfonodd at Ioab dy enioes di, ac enioes dy enaid di ni wnaf y peth hyn.
12Yna Dafydd a ddywedodd wrth Urias, aros ymma etto heddyw, ac y foru i’th ollyngaf di: ac Urias a arhosodd yn Ierusalem y dwthwn hwnnm, a thrannoeth.
13Yna Dafydd ai galwodd ef, i fwytta, ac i yfed ger ei fron ef, ac ai meddwodd ef: ac yn hwyr efe a aeth i orwedd iw guficl gyd a gweisiō ei arglwydd, ac nid aeth efe: wared iw dŷ ei hun.
14A’r boreu yr scrifennodd Dafydd lythr at Ioab, ac ai hanfonod gyd ag Urias.
15Ac efe a scrifennodd yn ei lythr gan ddywedyd: cyfleuwch Urias ar gyfer wyneb y rhyfel-wŷr glewaf, a dychwelwch oi ôl ef, fel y tarewer ef, ac y byddo efe marw.
16A phan oedd Ioab yn gwarche ar y ddinas: yna efe a roddes Urias yn y lle yr hwn y gwydded efe fod y gwŷr nerthol ynddo.
17A gwŷr y ddinas a aethant allan, ac a ymlladdasant ag Ioab, a syrthiodd o’r bobl, o weision Dafydd: ac Urias yr Hethiad a fu farw hefyd.
18Yna Ioab a anfonodd, ac a fynegodd i Ddafydd holl hanes y rhyfel.
19Ac efe a orchymynnodd i’r gennad, gan ddywedyd: pan orphennech lefaru holl hanes y rhyfel wrth y brenin,
20Yna os cyfyd llidiawgrwydd y brenin fel y dywedo wrthit, pa ham y nessauasoch at y ddinas i ryfela? oni wyddech y taflent hwy oddi ar y gaer?
21Pwy a darawodd Abimelec fab Ierubbeseth? onid gwraig a daflodd arno ef ddarn o faen melin oddi ar y mûr fel y bu efe farw yn Thebes? pa ham y nessauasoch at y mûr? yna y dywedi, dy wâs Urias yr Hethiad a fu farw hefyd.
22Felly y gennad a aeth, ac a ddaeth ac a fynegodd i Ddafydd yr hyn oll yr anfonase Ioab ef
23Yna yr gennad a ddywedodd wrth Ddafydd, yn ddiau y gwŷr oeddynt dréch na ni, ac a ddaethant attom ni i’r maes: ninneu hefyd a aethom arnynt hwy hyd ddrŵs y porth.
24A’r saethyddion a saethasant at dy weision oddi ar y mûr, a o weision y brenin a fuant feirw: a’th was Urias yr Dethiad a fu farw hefyd.
25Yna Dafydd a ddywedodd wrth y gennad, fel hyn y dywedi di wrth Ioab, na fydded yn ddrwg yn dy olwg di y peth hyn, canys fel hyn, ac fel hyn y difetha y cleddyf: cadarnhâ dy ryfel yn erbyn y ddinas, fel y destruwiech hi, a chyssura dithe ef.
26Pan glybu gwraig Urias farw Urias ei gŵr: yna y galarodd hi am ei phriôd.
27A aeth y galar heibio, yna Dafydd a anfonodd, ac ai dûg hi iw dy ef, i fod iddo ef yn wraig, a hi a ymddug iddo ef fâb: a drwg yngolwg yr Arglwydd oedd y peth a wnaethe Dafydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.