1.Corinthiaid 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Paul yn cerryddu y Cristianogion y rhai oeddynt yn ymgyfreithio o flaen yr Ang-hristianogion. 12 Am rydd-did Cristianogion, 16 ac am wasanaeth Duw.

1A feiddia vn ohonoch yr hwn y mae iddo fatter ar y llall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid yn hytrach o flaen y sainct?

2Oni ŵyddoch chwi y barna y sainct y byd? os trwoch chwi y bernir y byd, ai anaddas ydych chwi i farnu y pethau lleiaf?

3Oni ŵyddoch chwi y barnwn ni yr angelion, ac oni bethau bydol?

4Os oes gennwch gan hynny farnau bydol, dodwch ar y faingc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.

5Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd wrthych, onid oes vn gŵr doeth yn eich plith? nac vn a fedro farnu rhwng a’i frawd?

6Ond bod y brawd yn ymgyfreithio â’r brawd, a hynny ger bron y rhai angrhedadwy.

7Am hynny y mae diffyg mawr yn eich plith gan eich bod yn ymgyfreithio âi gilydd, Math.5.39.|MAT 5:39. 1.thess.4.6.|1TH 4:6. luc.6.29.|LUK 6:29. ruf.12.19.pa ham yn gynt, nad ydych chwi yn dioddef cam? pa ham nad ydych yn gynt yn cymmeryd colled?

8Eithr chwy-chwi sydd yn gwneuthur cam, ac yn gwneuthur colled, a hynny i’r brodyr.

9Oni ŵyddoch chwi, na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwŷr, nac eulyn addolwŷr, na thorwŷr priodas, na drythyll-wŷr, na’r rhai Sodomiaidd,

10Na lladron, na chybyddion, na meddwō, na difen-wŷr, na chribddeil-wŷr feddiannu teyrnas Dduw.

11A Tit.3.3.hyn fu rhai o honoch chwi, eithr yr ydych chwi wedi eich golchi, eithr wedi eich sancteiddio, eithr wedi eich cyfiawnhau yn enw yr arglwydd Iesu, a thrwy Yspryd ein Duw ni.

12Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn lles-hau, pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond ni byddaf fi gaeth i ddim.

13Y bwyd i’r bol, a’r bol i’r bwyd, a Duw a ddinistria bôb vn o’r ddau, ac nid yw y corph i odineb, ond i’r Arglwydd, a’r Arglwydd i’r corph.

14Canys Duw a gyfododd yr Arglwydd, Ruf.6.5.ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.

15Oni ŵyddoch chwi fod eich cyrph yn aelodau Crist? gan hynny a gymmeraf fi aelodau Crist a’u gwneuthur yn aelodau puttain? na atto Duw.

16Oni ŵyddoch chwi fod yr hwn. sydd yn cydio â phuttain yn vn corph? Gene.2.24.|GEN 2:24. math.19.5.|MAT 19:5. marc.10.8.|MRK 10:8. ephes.5.31.canys y ddau (eb efe) fyddant vn cnawd:

17Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd vn yspryd yw.

18Gochelwch odineb, pob pechod a wnelo dyn, oddi allan ei gorph y mae: ond yr hwn a wna odineb sydd yn pechu yn erbyn ei gorph ei hun.

19Oni ŵyddoch chwi* fod eich corph yn deml i’r Yspryt glân ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch chwi eich hunain?

20 1.Pet.1.15. Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph, ac yn eich yspryd y rhai ydynt eiddo Duw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help