1Y Am ben hyn fy mrodyr ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng-hadernid ei allu ef:
11Gwiscwch oll arfogaeth dduw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
12Am nad yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, eithr yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol gedyrn tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefol
13Am hynny cymmerwch attoch holl arfogaeth Dduw, fel y galloch wrthladd yn y dyddblin, a sefyll wedi gorphen y cwbl.
14Sefwch gan hynny wedi gwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwyfronneg cyfiawnder,
15A gwisco am eich traed escidiau paratoâd Efengyl tangneddyf.
16Vwchben pôb dim cymmerwch darian y ffydd, â’r hwn y galloch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall,
17Cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, hwn yw gair Duw.
18A gweddiwch bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Yspryd, Colos.4.3.|COL 4:3. 2.thes.2.17gan fod yn wiliadurus at hyn trwy bôb dyfalwch, ac ymbil tros yr holl sainct,
19 2.thes.3.1. A throsof finne, ar roddi i mi ymadrodd i agôryd fyng-enau mewn rhydd-did, i wneuthur yn eglur ddirgelwch yr Efengyl,
20Er mwyn yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn, fel y traethwyf yn hyderus am deni, megis y perthyn i mi draethu.
21Ac fel y gwypoch chwithau hefyd fynghyflwr, a pha beth yr wyfi yn ei wneuthur, Tychicus a’u dengys hwy oll i chwi, fy annwyl frawd a gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd:
22Yr hwn o’r achos honno a ddanfonais attoch, fel y gwyddech fyng-hyflwr, ac fel y cyssure efe eich calonnau chwi.
23Tangneddyf gyd â frodyr, a chariad, a ffydd oddi wrth Dduw Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
24Gras gyd â’r rhai oll a garant ein Harglwydd Iesu Grist, yn anllygredig. Amen.
Y llythyr hwn a scrifennwyd o Rufein gyd â Tychicus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
