Gweledigaeth Ioan 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.2 Bôd Satan yn rhwym tros dalm o amser, 7 Ac wedi ei ollwng yn rhydd, yn poeni yr eglwys yn dôst. 10.14 Ac yn ôl barnu’r byd, ei fwrw ef a rhai oeddent eiddo i’r pwll tân.

1Ac mi a welais angel yn descyn o’r nêf, a chanddo agoriad y pwll heb waelod, a chadwyn fawr yn ei law.

2Ac efe a ddaliodd y ddraig yr hên sarph, yr hon ydyw diafol a Satan, ac a’i rhwymmodd ef tros fil o flynyddoedd,

3Ac a’i bwriodd ef i’r pwll heb waelod, ac ai gwarchâodd ef, ac a feiodd y drws arno, megis na alle efe dwyllo y bobl mwy, nês cyflawni’r mîl o flynyddoedd, canys yn ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef dros ychydig o amser.

4Ac mi a welais orsedd-feingciau, ac hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy, ac mi a welais eneidiau y rhai a dorrwyd eu pennau am destiolaeth Iesu, ac am air Duw, y rhai ni addolâsent y bwy-fil na’i ddelw ef, ac ni chymmerasent ei nôd ef yn eu talcennau, neu ar eu dwylo: ac hwy a fuant fŷw, ac a deyrnâsasant gyd â Christ fîl o flynyddoedd.

5Ond y gweddill o’r gwŷr meirw ni fuant fyw eil-waith, nes diweddu y milo flynyddoedd: dymma yr adgyfodiad cyntaf.

6Bendigedig a sanctaidd yw’r vn sydd a rhan iddo yn y cyfodiad cyntaf, canys nid oes gan yr ail farwolaeth awdurdod ar y rhai hyn, ond hwy a fyddant offeiriaid Duw a Christ, ac a deyrnasant gyd ag ef fîl o flynyddoedd.

7Ac wedi darfod y mil o flynyddoedd, Satan a ollyngir allan o’i garchar:

8Ac efe a aiff allan i dwyllo’r bobl y rhai ydynt ym mhedair congl y ddaiar, nid amgen Ezec.39.1.Gog a Magog, iw casclu hwynt yng-hyd i ryfel, rhif y rhai sy fel tywod y môr.

9Ac hwy a aethant i fynu i wastad y ddaiar, y rhai a amgylchâsant babellau y sainct, a’r ddinas annwyl, eithr tân a ddescynnodd oddi wrth Dduw o’r nêf, ac a’u hŷsodd hwynt.

10A diafol yr hwn a’u twyllodd hŵynt, a fwrriwyd i bwll o dân a brwmstan, lle y poenir y bwyst-fil, a’r prophwyd gau ddydd a nôs yn dragywydd.

11Ac mi a welais orseddfaingc fawr wen, ac vn yn eistedd arni, oddi wrth ŵyneb yr hwn y ffôdd y ddaiar a’r nêf, ac ni chaed moi lle hwynt mwy.

12Ac mi a welais y meirw, fawr a bychan yn sefyll ger bron Duw, a’r llyfrau a agorwyd, a Vchod.3.5.|REV 3:5. isod.21.27.|REV 21:27. philip.4 3.llyfr arall a agorwyd, yr hwn ydyw y bywyd, a’r meirw a farnwyd wrth y pethau a oeddent yn scrifennedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd hwynt.

13A’r môr a fwriodd i fynu y meirw y rhai oeddent ynddo, a marwolaeth, ac vffern a roddasant i fynu y meirw a oeddent ynddynt hwy, a barnwyd pawb yn ôl eu gweithredoedd.

14A marwolaeth, ac vffern a fwriwyd i bwll tân, hon ydyw’r ail farwolaeth.

15A phwy bynnag ni chafwyd yn scrifennedig mewn llyfr y bywyd, efe a fwriwyd i bwll y tân.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help