Genesis 18 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XVIII.Abraham yn derbyn tri angel iw dy. 10. Addewid o Isaac. 12. Sara’n ammeu’r addewid. 18. Addewid o Grist. 21. Duw yn rhybuddio Abraham am ddinistr Sodoma. 23. Ac Abraham yn eiriol trostynt.

1A’r Arglwydd a ymddangossodd iddo ef yng-wastadedd Mamre: ac efe yn eistedd ddrŵs y babell, yng-wrês y dydd.

2Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele dry-ŵyr yn sefyll ger ei fron, pan welodd, yna efe a redodd iw cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tua ar ddaiar.

3Ac efe a ddywedodd fy arglwydd, os cefais yn awr ffafor yn dy olwg di, na ddos heibio oddi wrth dy wâs.

4Cymmerer attolwg ychydic ddwfr, a golchwch eich traed, a gorphwysswch dann y prenn hwnn,

5Ac mi a ddygaf dammed o fara fel y cryfhaoch eich calon, wedi hynny y cewch fyned ymmaith, o herwydd i hynny y daethoch heb law eich gwâs: a hwynt a ddywedasant, gwna felly fel y dywedaist:

6Ac Abraham a fryssiodd i’r babell at Sara, ac a ddywedodd, paratoa di ar frŷs dair phioled o flawd peillied, telina a gwna yn deissēnau.

7Ac Abraham a rêdodd at y gwarthec, ac a gymmerodd lô tŷner, a dâ, ac ai rhoddodd at y llangc, yr hwn a fryssiodd iw baratoi ef.

8Ac efe a gymmerodd ymenyn, a llaeth, a’r llô yr hwn a baratoase efe, ac a roddes oi blaen hwynt, ac efe a safodd gyd a hwynt tann y prēn, a hwynt a fwytawsant.

9Yna y dywedasant wrtho ef, mae Sara dy wraig? ac efe a ddywedodd wele yn y Babell.

10Ac a ddywedodd, Genes.17.19.|GEN 17:19. Genes.21.2.|GEN 21:2. Rhuf.9.9.gan ddychwelyd y dychwelaf attat yng-hylch amser bywiolaeth, ac wele fab i Sara dy wraig, a Sara oedd yn clywed ddrws y babell, a hwnnw oi ôl ef.

11Abraham hefyd, a Sara hên, wedi myned mewn oedran pheidiase fod i Sara yn ôl arfer gwragedd.

12Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun, gā ddywedyd: ai gwedi fy heneiddio y bydd i mi drythyllwch 1 Pet.3.6.a’m harglwydd yn hên

13Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Abraham, pa ham y chwarddodd Sara fel hynn, gan ddywedydd, a blantaf yn wir, wedi fy heneiddio?

14A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? ar yr amser nodedic y dychwelaf attat, yng-hylch amser bywiolaeth, a mâb i Sara.

15A Sara a wadodd, gan ddywedyd: ni chwerddais, o herwydd hi a ofnodd: yntef a ddywedodd nid oblegit ti a chwerddaist.

16A’r gwŷr a godasāt oddi yno, ac a edrychasant tua Sodoma, ac Abraham a aeth gyd â hwynt, iw hanfon hwynt.

17A’r Arglwydd a ddywedodd, a gelaf fi oddi wrth Abraham yr hyn a wnaf fi?

18Canys Abraham gan fod a fydd yn gēhedlaeth fawr, a chref, Genes.12.2.|GEN 12:2. Genes.22.17ac ynddo ef y bendithir holl genhedloedd y ddaiar.

19Am i mi ei adnabod ef fel y gorchymynno efe iw feibion, ac iw dylwyth ar ei ôl ef gadw o honynt ffordd yr Arglwydd gan wneuthur cyfiawnder, a barn; fel y dygo’r Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am danaw.

20Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, am gwaedd Sodoma, a Gomorra yn ddirfawr, ai pechod hwynt yn drwm iawn.

21Descynnaf yn awr, ac edrychaf, ai yn ôl ei gwaedd yr hon a ddaeth attafi, y gwnaethāt yn hollawl, ac onide, mynnaf wybod.

22A or gwŷr a droesant oddi yno, ac a aethant tua Sodoma, ac Abraham yn sefyll etto ger bron yr Arglwydd.

23Abraham hefyd a nesaodd, ac a ddywedodd, a ddifethi di y cyfyawn hefyd yng-hyd a’r annuwiol?

24Ond odid y mae dec a deugain o rai cyfiawn yn y ddinas, a ddifethi di hefyd, ac nid arbedi y lle er mwyn y dec a deugain cyfiawn y rhai oi mewn hi?

25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd a’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo i ti, oni wna barnudd yr holl dir farn?

26Yna y dywedodd yr Arglwydd, os câf fi yn Sodoma ddeg a deugain yn gyfiawn o fewn y ddinas, yna y maddeuaf i’r holl fangre honno er eu mwyn hwynt.

27Ac Abraham a attebodd, ac a ddywedodd, wele yn awr y dechreuais lefaru wrth fy Arglwydd, a mi yn llwch ac yn lludw.

28Ond odid bydd pump yn eisiau o’r dec a deugain cyfiawn a ddifethi di’r holl ddinas er pump? yntef a ddywedodd na ddifethaf os câf yno bump a deugain.

29Chwanegodd hefyd lefaru wrtho ef etto, a dywedodd: ond odid ceir yno ddeugain, yntef a ddywedodd nis gwnaf er mwyn y deugain.

30Yna y dywedodd na ddigied fy Arglwydd atolwg os llefaraf, ceir yno onid odid ddêc ar hugain: yntef a ddywedodd nis gwnaf os caf yno ddêc ar hugain.

31Yna y dywedodd efe wele yn awr y chwenychwn lefaru wrth fy Arglwydd, ond odid ceir yno ugain: yntef a dywedodd nis difethaf er mwyn ugain.

32Yna y dywedodd efe, na ddigied fy Arglwydd atolwg, a llefaraf y waith hon yn unic, ond odid ceir yno ddêc: yntef a ddywedodd nis difethaf er mwyn dêc.

33Yna’r aeth yr Arglwydd ymmaith pan ddarfu iddo lefaru wrth Abraham, ac Abraham a ddychwelodd iw le ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help