Ieremi 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Y mae efe yn prophwydo dinistr ar Ierusalem am ei gaudduwiaeth.

1Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dos a phryn stên bridd, a o henuriaid y bobl, ac o henuriaid yr offeiriaid,

2A dos allan i ddyffryn meibion Hinnom yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthit.

3A dywet, brenhinoedd Iuda a phresswyl-wŷr Ierusalem clywch air yr Arglwydd: fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn, 1.Sam.3.11.pwy bynnac ai clyw ei glustiau a ferwiniant.

4Am iddynt fyng-wrthod i, a halogi y lle hwn ac arogl-darthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwynt, nai tadau, na brenhinoedd Iuda: a llenwi o honynt y lle hwn o waed gwirioniaid,

5Ac adailadau vchelfeudd i Baal, i losci eu meibion â thân yn boeth offrwm i Baal: yr hyn ni orchymynnais, ac ni erchais, ac ni feddyliodd fyng-halon:

6Am hynny wele y dyddiau yn dyfod medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn Iere.7.31.|JER 7:31. 2.Bren.23.10. Esai.30.33.Tophet, na dyffryn meibion Hinnom, onid dyffryn y lladdfa.

7A mi a wnaf yn ofer gyngor Iuda, ac Ierusalem, yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio ar y cleddyf o flaen eu gelynion, ac yn llaw y rhai a geisiant eu henioes hwynt: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaiar.

8A Ier.18.16. Ier.49.13. Esai.30.33mi a osodaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd, pob vn a elo heibio iddi a ryfedda, ac a chwibiana, o herwydd ei holl ddialeddau hi.

9A mi Deut.28.53. Galar.4.10.a baraf iddynt fwytta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob vn gnawd ei gyfaill yn y gwarche a’r blinder, a’r hwn y blina eu gelynion hwynt, a’r rhai a fyddant yn ceisio eu henioes hwynt.

10Yna dryllia di yr stên yng-ŵydd y gwŷr a elont gyd â thi.

11A dywet wrthynt, fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd, y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon fel y dryllia lestr pridd yr hwn ni ellir ei feddiginiaethu mwyach: ac yn Tophet y cleddir hwynt o eisieu lle i gladdu.

12Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, ac i’r rhai sy yn trigo ynddo: ac mi a wnaf y ddinas hon megis Tophet,

13Canys tai Ierusalem, a thai brenhinoedd Iuda a fyddant halogedic fel y fangre Tophet: ie yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod offrwm i dduwiau dieithr.

14Yna y daeth Ieremi o Tophet lle yr anfonase yr Arglwydd ef i brophwydo, ac a safodd ym mhorth tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl,

15Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd yr holl ddrygau y rhai a leferais iw herbyn, am galedu o honynt eu gwarrau rhac gwrando fyng-eiriau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help