Tobias 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Tobit ai wraig yn hiraethu am eu mab. 10 Raguel yn ei ollwng ef adref, a Sarra gyd ag ef.

1AI dad ef Tobit a gyfrifodd bob dydd, ac wedi cyflawni dyddiau ’r daith, a hwyntau heb ddyfod adref,

2Y dywedodd Tobit, a sommwyd ef: ai marw a wnaeth Gabael, fel nad oes neb i roddi ’r arian iddo:

3Ac efe a dristaodd yn ddirfawr.

4Ai wraig a ddywedodd wrtho, darfu am y bachgen: ac am ei fod efe yn aros cyhyd, hi a ddechreuodd ŵylo am dano gan ddywedyd:

5Nid oes gennif ofal gan i mi dy ollwng ymmaith, llewyrch fy llygaid i.

6Eithr Tobit a ddywedodd wrthi, taw sôn, ac na ofala ddim, y mae efe yn holl-iach.

7A hithe a ddywedodd wrtho, taw sôn, na huda fi, darfu am fy machgen i: a beunydd yr ai hi allan i’r ffordd yr aethent hwy: y dydd ni fwytae mo’r bwyd, a’r nôs ni pheidie ag ŵylo am Tobias ei mab: nes darfod pedwar diwrnod ar ddêc y neithior, y rhai y tyngase Raguel y gorfydde i aros yno.

8Yna y dywedodd Tobias wrth Raguel gollwng fi ymmaith, canys nid yw fy nhad a’m mam yn edrych am fyng-weled byth.

9Ai chwegrwn a ddywedodd wrtho, aros gyd â myfi, ac mi a ddanfonaf rai a ddangoso dy helynt i’th dad.

10Eithr Tobias a ddywedodd, nage ddim, onid gollwng fi at fy nhad.

11Yna y cyfododd Raguel i fynu, ac a roddes Sarra ei wraig iddo, a hanner ei dda gweision, ac anifelliaid, a da mathol.

12Ac wedi iddo eu bendithio, efe ai danfonodd ymmaith, gan ddywedyd, ô fy mhlant, Duw Duw nef a wnel i chwi lwyddiant cyn fy marw.

13Ac efe a ddywedodd wrth ei ferch, anrhydedda dy chwegrwn a’th chwegr, canys hwyntwy sy bellach dad a mam i ti: dymunwn glywed gair da am danat, ac efe ai cusanodd hwnt.

14Ac Edna hefyd a ddywedodd wrth Tobias, fy annwyl frawd, Arglwydd y nef a’th ddygo trachefn, ac a wnêl i mi weled i ti o’m merch Sarra blant fel y llawenychwyf ger bron yr Arglwydd: ac wele yr ydwyf yn rhoddi fy merch i ti mewn ymddyried, na ofidia hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help