2.Cronicl 21 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXI.Creulondeb a drygioni Ioram yr hwn a deyrnasodd yn lle Iehosaphat. 16 Ac yntef yn cael Dialedd gan y Philistiaid, a thrwy glefyd erchyll.

1Yna Iehosaphat a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd gyd ai henafiaid yn ninas Ddafydd: ac Ioram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

2Ac iddo ef brodyr, meibion Iehosaphat, Azaria, ac Iehiel, a Zacharia, ac a Azariahu, a Michael, a Saphatiah: y rhai hyn oll feibion Iehosaphat brenin Israel.

3Ai tâd hwynt a roddodd iddynt roddion lawer o arian, ac aur, a gwerthfawr bethau gyd a dinasoedd caerog Iuda: ac efe a roddodd y frenhiniaeth i Ioram, canys efe y cyntafanedic.

4Ac 2.Bren.8.16.Ioram a gyfododd ar frenhiniaeth ei dad, ac a ymgadarnhaodd, ac a laddodd ei holl frodyr a chleddyf: a hefyd o dywysogion Israel.

5Mab deuddeng-mlwydd ar hugain Ioram pan ddechreuodd efe deyrnasu: ac ŵyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem.

6Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel fel y gwnelse tŷ Ahab, canys merch Ahab oedd yn wraig iddo ef: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.

7Ond ni fynne’r Arglwydd ddifetha tŷ Ddafydd er mwyn 2.Sam.7.12. 2.bren.8.19.y cyfammod yr hwn a ammodase efe a Dafydd: fel y dywedase, y rhodde efe iddo oleuni, ac iw feibion byth.

8Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tann law Iuda: ac y gosodant frenin i deyrnasu arnynt eu hun.

9Ac Ioram a drammwyodd gyd ai dywysogion, ai holl gerbydau gyd ag ef: ac efe a gyfododd liw nos, ac a darawodd yr Edomiaid y rhai oeddynt yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau.

10Felly Edom a wrthryfelodd rhag tann law Iuda hyd y dydd hwn: yna y 2.Bren.8.22.gwrthryfelodd Libnah y prŷd hynny oddi tann ei law ef: o herwydd iddo ef ymwrthod ag Arglwydd Dduw ei dadau.

11Efe hefyd a wnaeth vchelfeudd ym mynyddoedd Iuda: ac efe a wnaeth i drigolion, Ierusalem butteinio, ac a gymhellodd Iuda dŷ dy dad, y rhai well na thi:

14Wele yr Arglwydd a’th deru di a phlâ mawr, ti a’th bobl: dy feibion hefyd, a’th wragedd, a’th holl olud.

15A thi mewn clefydau lawer, mewn clefyd o’th emyscaroedd: nes myned allan o’th goluddion gan y clefyd o ddydd i ddydd.

16Felly’r Arglwydd a gyffrôdd yn erbyn Ioram yspryd y Philistiaid, a’r Arabiaid y rhai ger llaw’r Ethiopiaid.

17A hwynt a ddaethant i fynu i Iuda, ac ai drylliasant hi, caeth-gludasant hefyd yr holl gyfoeth a’r a gafwyd yn nhŷ’r brenin, ai feibion, ai wragedd: ac ni adawyd mab iddo onid 2.Cron.22.1,6.Iehoahaz yr ieuangaf oi feibion.

18Ac wedi hyn oll yr Arglwydd ai tarawodd ef yn ei emyscaroedd ag anaele glefyd.

19Felly y bu efe o ddyddiau i ddyddiau, ac wedi darfod yspaid dwy flynedd o ddyddiau ei emyscaroedd ef a aethant allan gan ei glefyd, felly y bu efe farw o glefydau drwg: ai bobl ni wnaethāt iddo ef y fath gynneuad, ac iw dadau:

20Mab deuddeng-mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd efe deyrnasu, a ŵyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac efe a rodiodd heb hyfrydwch, a chladdasant ef yn ninas Ddafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help