Marc 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Crist yn ymrithio. 25 Yn bwrw allan y cythrael mud yr hwn ni ellid ei fwrw allan heb ympryd a gweddi. 31 Yn rhybuddio am ei ddioddefaint. 35 yn dyscu iw ddiscyblion ostyngeiddrwydd. 38 Yn erchi iddynt na luddient i neb orchfygu y cythrael yn ei enw ef. 42 Ac yn gwahardd tramgwyddiadau.

1 Math.16.28|MAT 16:28. Luc.9.27. Ac efe a ddywedodd wrthynt: yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi fod rhai o’r rhai sydd yma yn sefyll ni phrofant angeu, hyd pan welant deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.

2A Math.17.1|MAT 17:1. Luc.9.28. chwe diwrnod wedi y cymmerth yr Iesu Betr, ac Iaco, ac Ioan, ac a’u dug hwynt i fynydd vchel o’r nailltu, ac efe a amrithiodd yn eu gŵydd hwynt.

3A’i ddillad ef a ddisclaeriasant yn dra channaid fel yr eira: y fath ni feidr vn pannwr ar y ddaiar eu cannu.

4Ac ymddangosodd iddynt Elias gyd â Moses, ac yr oeddynt yn ymddiddan â’r Iesu.

5Yna’r attebodd Petr, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Rabbi, da yw i ni fod ymma: gwnawn ninnau dair Pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias.

6Eithr ni wyddied efe beth yr oedd yn ei ddywedyd: canys yr oeddynt wedi dychrynu.

7Ac fe a ddaeth cwmwl yn eu cyscodi hwynt: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl gan ddywedyd: Math.3.17|MAT 3:17 & 17.5|MAT 17:5. Luc.9.27.Hwn yw fy annwyl Fab gwrandewch ef.

8Ac yn ddisymmwth pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy: ond yr Iesu yn vnig gyd â hwynt.

9Pan Math.17.9.oeddent yn dyfod i wared o’r mynydd, efe a orchymynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfode Mab y dŷn o feirw.

10A hwynt a gadwasant yr ymadrodd hwnnw iddynt eu hunain, gan ymofyn yn eu mysc, beth oedd, adgyfodi o feirw.

11A gofyn a wnaethant iddo, gan ddywedyd: Pa ham y dywed yr scrifēnyddion, fod Mal.4.5.yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?

12Ac yntef gan atteb a ddywedodd wrthynt, Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf a êdfryd bôb peth yn eu lle: ac fel y mae yn scrifennedic am Fâb y dyn, iddo Esay.53.4.oddef llawer a’i ddirmygu.

13Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi ddyfod Elias, a gwneuthur o honynt iddo’r hyn a fynnasant, fel yr scrifēnwyd am dano.

14A Math.17.14. Luc 9.37.phan ddaeth efe at ei ddiscyblon, efe a welodd dyrfa fawr o’i ogylch a’r scrifennyddion yn ymddadleu â hwynt.

15Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa wedi ei ganfod ef, a ddychrynasant, a chan redeg atto a gyfarchasant iddo.

16Ac efe a ofynnodd i’r scrifennyddion, pa ymddadleu yr ydych yn eich plith eich hunain?

17Ac vn o’r dyrfa gan atteb a ddywedodd, yr Athro, mi a ddugym fy mab attat, ac yspryd mud ynddo.

18Yr hwn pa le bynnag y cymmero, a’i rhwyga, ac yntef a fwrw ewyn, ac a escyrnyga ddannedd, ac y mae yn dihoeni, ac mi a ddywedais wrth dy ddiscyblion am ei fwrw ef allan, ond nid allent.

19Yna yr attebodd efe iddo, ac a ddywedodd, ô genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef attaf i.

20Yna y dugasant ef atto: a phan welodd ef, yn y man yr yspryd a’i ddrylliodd ef, a chan syrthio ar y ddaiar, efe a ymdreiglodd tann falu ewyn.

21A gofynnodd yr Iesu iw dad ef, beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? yntef a ddywedodd, er yn fachgen.

22A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac yn y dwfr iw ddifetha ef: ond os gelli di ddim, cymmorth ni gan dosturio wrthym.

23A’r Iesu a ddywedodd wrtho, os gelli di gredu: pob peth a all bod i’r neb a gredo.

24Ac yn y fan, tad y bachgen gan lefain, ac ŵylofain a ddywedodd, yr wyf i yn credu ô Arglwydd, cymmorth fy anghreduniaeth i.

25Pan welodd yr Iesu y dyrfa hefyd yn rhedeg yng-hyd, efe a geryddodd yr yspryd aflan gan ddywedyd wrtho, Ty di yspryd mud a byddar, yr wyfi yn gorchymyn i ti, tyred allan o honaw, ac na ddos mwy iddo ef.

26Ac wedi lefain a’i ddryllio ef, efe a aeth allan, ac yr oedd efe fel vn marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.

27A’r Iesu gan ei gymmeryd ef erbyn ei law, a’i cyfododd, ac efe a safodd i fynu.

28Ac wedi iddo fyned i mewn i’r tŷ, ei ddiscyblion ef a ofynnasant iddo yn gyfrinachol, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?

29Yntef a ddywedodd wrthynt, y rhyw hwn ni all er dim ddyfod allan: ond trwy weddi, ac ympryd.

30A hwynt Math 17.22.|MAT 17:22. Luc.9.22.a aethant oddi yno, ac a gydymdaithiasant trwy Galilæa, ac ni fynne efe i nêb ŵybod.

31Canys yr oedd efe yn dyscu ei ddiscyblion, ac yn dywedyd wrthynt, y rhoddid Mab y dŷn i ddwylo dynion, a hwynt ai lladdent ef, ond wedi ei ladd yr adgyfode y trydydd dydd.

32Eithrd ni ŵyddent hwy yr ymadrodd hwnnw, ac ni feiddient ymofyn ag ef.

33Ac Math.18.1. Luc.9.46.efe a ddaeth i Capernaum, ac wedi ei ddyfod i’r tŷ, efe a ofynnodd iddynt: am ba beth yr oeddech yn ymddadle yn eich plith, ar hŷd y ffordd?

34Ac hwynt hwy a dawsant a sôn: canys ar hŷd y ffordd yr ymddadleuasent âi gilydd, pwy o honynt fwyaf.

35A phan eisteddodd, efe a alwodd y deuddec, ac a ddywedodd wrthynt, os myn neb fod yn gyntaf, efe a fydd olaf a gwâs i bawb.

36Ac efe a gymmerth fachgēnyn, ac ai gosododd yn eu canol hwynt, ac wedi iddo ei gymmeryd ef ar ei fraich, efe a ddywedodd wrthynt,

37Pwy bynnag a dderbynio vn o’r cyfryw fechgin, yn fy enw i sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag am derbyn i, nid myfi y mae yn ei dderbyn onid yr hwn a’m danfonodd i.

38Ac Luc.9.49.Ioan a’i hattebodd ef gan ddywedyd: athro ni a welsom vn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di yr hwn nid yw yn ein dilyn ni, ac ni a waharddasom iddo am nad oedd yn ein dilyn.

39A’r Iesu a ddywedodd, na waherddwch ef: canys nid oes neb a wna wyrthiau trwy fy enw i, ac a 1.Cor.12.3all yn y fan roi dryg-air i mi.

40Canys y neb nid yw i’n herbyn, o’n tu ni y mae.

41 Math.10.42. Pwy bynnag a roddo i chwi iw yfed gwpaneid o ddwfr yn fy enw i am eich bod yn perthyn i Grist, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei obrwy.

42A phwy Math.18.6. Luc 17.2.bynnag a rwystro’r vn o rhai bychein hyn y rhai ydynt yn credu ynofi: gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a’i daflu i’r môr.

43Am hynny Math.5.29. & 18.8.os dy law a’th rwystra, tor hi ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn vnllawiog, na myned i vffern â dwy law i’r tân anniffoddadwy,

44Lle Esa.66.24.ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.

45Ac os dy droed a’th rwystra, tor ef ymmaith: gwell yw i ti fyned yn gloff i’r bywyd, nag â dau droed dy daflu i vffern, i’r tân anniffoddadwy,

46Lle ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.

47Ac os dy lygad a’th rwystra, bwrw ef ymmaith, gwell yw i ti fyned i mewn i deyrnas Dduw yn vnllygeidiog, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân vffern,

48Lle ni bydd marw eu pryf hwynt, ac ni ddiffydd y tân.

49Canys pawb a helldir â thân, a Lefit.2.13.phob aberth a helldir â halen.

50 Math.5.13. Luc 14.34 Da yw halen: ond os bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef? Bydded i chwi halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn â’i gilydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help