1 Molwch yr Arglwydd, canys da canu i’n Duw ni: o herwydd hyfryd yw, prydferth yw mawl.
2Yr Arglwydd sydd yn adailadu Ierusalem, efe a gascl wascaredigion Israel.
3Yr hwn sydd yn iachau y rhai briwedic o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
4Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr, geilw hwynt oll wrth eu henwau.
5Mawr ein Harglwydd, ac aml ei nerth, anneirif ei ddoethineb.
6Yr Arglwydd sydd yn cynnal trueniaid, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
7Cenwch i’r Arglwydd mewn clodforedd: cenwch i’n Duw a’r delyn.
8Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chwmylau: yn paratoi glaw i’r ddaiar: gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd
9Yr hwn sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant: i gywion y gig-fran pan lefant.
10Nid oes ewyllys ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn ysceiriau gŵr.
11Yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai ai hofnant ef: y rhai a ddisgwiliant wrth ei drugaredd ef.
12Ierusalem mola di’r Arglwydd, Sion sainct, molianna dy Dduw.
13O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth, ac a fendithiodd dy blant o’th fewn.
14Yr hwn sydd yn gosod dy fro yn heddychol, a’th ddiwalla di â braster gwenith.
15Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn y ddaiar: ai air a rêd yn dra buan.
16Yr hwn sydd yn roddi eira fel gwlân: a dâna rew fel lludw.
17Yr hwn sydd yn bwrw iâ fel tammeidiau, pwy â erys gan ei oerni ef?
18Efe a enfyn ei air, ac ai tawdd hwynt, ai wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant.
19Y mae efe yn mynegu ei eiriau i Iacob, ei ddeddfau ai farnedigaethau i Israel.
20Ni wnaeth efe felly ag vn genedl: ac nid adnabuant farnedigaethau[’r Arglwydd.] Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
