1Nyni y rhai cedyrn a ddylêm ddwyn gwēdid yr ang-hedyrn, ac nid ein boddhau ein hunain.
2Am hynny boddhaed pawb o honom ei gymydog yn yr hyn sydd dda i adeilad.
3Canys Crist nis boddhâodd ei hunan, eithr megis y mae yn scrifennedic: Canys y pethau a scrifennwyd ym mlaen llaw, er addysc i ni yr scrifennwyd hwy, fel y gallem trwy ammynedd a chyssur yr scrythurau gael gobaith.
5A Duw yr ammynedd a’r cyssur a roddo i chwi 1.Cor.1.10.synnied yr vn peth â’i gilydd yn ôl Crist Iesu.
6Megis o gytundeb, ac o vn genau y galloch foliannu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.
7O herwydd pa ham derbynniwch bawb eu gilydd, megis y derbynniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.
8Ac yr wyf yn dywedyd wneuthur Iesu Grist yn wenidog i’r enwaediad er mwyn gwirionedd Duw, er cadarnhau yr addewidion a i’r tadau.
9Ac fel y rhodde y cenhedloedd ogoniant i Dduw am ei drugaredd, fel y mae yn scrifennedig: am hyn i’th gyffessaf ym mhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw.
10A thrachefu y dywed: Deut.32.43.ymlawenhewch genhedloedd gyd â’i bobl ef.
11A thrachefn, Psal.117.1.molwch yr Arglwydd yr holl genhedloedd, a chydfolwch ef yr holl bobloedd.
12A thrachefn Esaias a ddywed, Esai.11.10.fe fydd gwreiddin Iesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu yr cenhedloedd, yn hwnnw y gobeitha y cenhedloedd.
13A Duw ’r gobaith a’ch cyflawno o bôb llawenydd a thangneddyf, gan gredu fel eich amlhaer yng-obaith trwy nerth yr Yspryd glân.
14Ac y mae yn siccr gennif fi fy hun am danoch chwi fy mrodyr, eich bod chwi yn llawn daioni ac yn gyflawn o bob gwybodaeth, ac y medrwch gynghori eu gilydd.
15Er hynny frodyr mi a scrifennais attoch yn hŷfach, fel vn yn dwyn ar gof i chwi, trwy y grâs a roddwyd i mi gan Dduw,
16I fod o honof yn wasanaethwr Iesu Grist ym mysc cenhedloedd, gā weithio trwy Efengyl Dduw, fel y bydde offrymmiad y cenhedloedd yn gymmeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysyryd glân.
17Y mae i mi gan hynny a ymlawenychwyf yng-Hrist Iesu, yng-hyfryw bethau, ac a i Dduw.
18Am na feiddiaf yngen am ddim, a’r nis gwnaeth Crist trwofi i y cenhedloed yn vfydd ar air a gweithred.
19Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau gan nerth Yspryd Duw: hyd pan o Ierusalem ac o amgylch hyd Iilyricum y llenwais Efengyl Crist.
20Ac felly gan amgylchu i bregethu’r Efengyl nid lle yr henwid Crist, rhag bod i mi adailad ar sail nêb arall.
21Eithr megis y mae yn scrifennedic: Esai.52.14.y neb ni fynegwyd iddynt am dano ef, ai gwelant ef, a’r rhai ni chlywsant a ddeallant.
22Am hynny hefyd im Cap.1.13.|ROM 1:13. 1.thess.2.17.lluddiwyd i yn fynych i ddyfod attoch chwi.
23Eithr yr awr hon (am nad oes i mi le mwy yn yr ardalau hyn, Cap.1.10.a hefyd bod arnaf chwant er ys llawer o flynyddoedd i ddyfod attoch chwi)
24Pan elwyf i Hispaen, y deuaf attoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio wrth fyned heibio y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, wedi i mi yn gyntaf gael fyng-wala o honoch.
25Ac yr awr hon yr wyf yn myned i Ierusalem i weini i’r sainct.
26Canys rhyngodd bodd i’r Macedonia ac Achaia, wneuthur rhyw gymmorth i’r sainct tlodion y rai ydynt yn Ierusalem.
27Canys rhyngodd bodd iddynt a’u dyledwŷr ydynt: 1.Cor.9.11.o blegit os y cenhedloedd a gawsant ran o’u pethau ysprydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt bethau cnawdol.
28Yna wedi i mi orphen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen.
29Ac mi a wn pan ddelwyf attoch, y deuaf â chyflawnder bendith Efengyl Grist.
30Hefyd frodyr yr wyf yn attolwg er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Yspryd, 2.Cor.1.11.ymegnio o honoch, gyd â mi mewn gweddiau at Dduw trosof,
31A’r fy rhyddhau oddi wrth y rhai sydd yn annufydd yn Iudaea, ac i’m gweinidogaeth yr hon sydd iw yn Ierusalem, fod yn gymmeradwy gan y sainct.
32Fel y gallwyf ddyfod attoch mewn llawenydd trwy ewyllys Duw, ac ymlonni gyd â chwi.
33A Duw’r heddwch gyd â chwi oll. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.