1Paul Tit.1.1.Apostol, nid o ddyniō, na thrwy ddŷn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Tâd, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw
2A’r brodyr oll y rhai sy gyd â mi, at eglwysi Galatia,
3Grâs gyd â chwi, a heddwch gan Dduw Tâd, a’n Harglwydd Iesu Grist:
4Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau er ein gwared Luc.1.74.oddi wrth y byd drwg presennol yn ôl ewyllys Duw a’n Tâd ni:
5I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6Rhyfedd yw gennif morr fuan (gan ymadel â Christ yr hwn a’ch galwase i râs) i’ch symmudwyd i Efengyl arall,
7Yr hon nid yw arall, eithr bod rhai yn eich blino chwi, ac yn ceisio dattroi Efengyl Grist.
8Eithr pa vn bynnac ai nyni, ai angel o’r nef a bregetho i chwi amgen nâ hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.
9Megis y dywedasom o’r blaen felly yr ydwyf yn dywedyd etto yr awron, os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbynniasoch, bydded anathema.
10Yr awron ai annog dynion, ynte Duw yr wyfi? neu ai ceisio yr wyfi ryngu bodd dynion? canys os etto y rhyngwn fodd dynion, ni fyddwn wâs i Grist.
11 1.Cor.15.1. Weithian frodyr, yr wyf yn yspysu i chwi, am yr Efengyl a bregethais, nad dynol oedd hi.
12Canys nid gā ddŷn y derbyniais hi, nac i’m dyscwyd, eithr trwy ddadguddiad Iesu Grist.
13O herwydd chwi a glywsoch pa wedd yr ymddugym i gynt yn y ddeddf Iddewig, Act.9.1.fel yr erlidiais i eglwys Dduw yn dra rhagorol, ac yr anrheithiais hi:
14Ac y llwyddais yn yr Iddewig ddeddf yn fwy nâ llawer o’m cyfoedion yn fyng-henedl fy hun, gan fod yn dwyn mwy zêl i draddodiadau fy nhadau.
15Ond er cynted ag y gwelodd Duw yn dda, yr hwn a’m dewisodd: o groth fy mam, ac a’m galwodd i drwy ei râs ef,
16I ddadguddio ei Fab ef trwof fi, fel y pregethwn ef Ephe.3.8.ym mlhith y cenhedloedd, yn gyflym nid ymgynghorais â chig a gwaed:
17Ac nid aethym yn fy ôl i Ierusalem at y rhai oeddynt o’m blaen i yn Apostolion, ond mi a aethym i Arabia, ac a ddychwelais eil-waith i Ddamascus.
18Ac wedi tair blynedd y daethym yn fy ôl i Ierusalem i ymweled â Phetr, ac a arhôais gyd ag ef bymthec diwrnod.
19Ac ni welais yr vn arall o’r Apostolion, ond Iaco brawd yr Arglwydd.
20Ac am y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, wele, ger bron Duw, nid wyf yn dywedyd celwydd.
21Yna y deuthym i derfynau Syria, a Cilicia.
22Canys ni’m adwaenid wrth wyneb yn eglwysi yr Iddewon, y rhai oeddynt yng-Hrist.
23Ond yn vnic hwy a glywsent yr vn oedd gynt yn ein herlid, yr awron y mae yn pregethu y ffydd, yr hon y bu o’r blaen yn ei hanrheithio.
24Ac a ogoneddasent Dduw o’m plegit i.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
