1Yna Samuel a gymmerodd phioled o olew, ac ai tywalltodd ar ei ben ef, ac ai cusanodd ef, ac a ddywedodd: onid yr Arglwydd a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth ef?
2Pan elech di heddyw oddi wrthif, yna y cei ddau ŵr wrth Genes.35.20.fedd Rahel yn nherfyn Beniamin yn Zalezah, a hwynt a ddywedant wrthit, cafwyd yr assynnod y rhai yr aethost iw ceisio, ac wele dy dad a ollyngodd hebio chwedl yr assynnod, a gofalu y mae trosoch chwi gan ddywedyd: beth a wnaf am fy mab?
3Yna yr ei di ym mhellach oddi yno, ac y deui hyd ac wastadedd Thabor, ac yno i’th gyferfydd try-wŷr yn myned i fynu at Dduw Bethel: vn yn dwyn tri o fynnod, ac vn yn dwyn tair torth o fara, ac vn yn dwyn costrêled o wîn.
4A hwy a’th gyfarchant, ac a roddant i ti ddwy o fara, a gymmeri oi llaw hwynt.
5Yn ôl hynny y deui Pen.7.1.i fryn Duw yn yr hwn y mae sefyllfaoedd y Philistiaid: a phan ddelech yno ddinas, ti a gyfarfyddi a thyrfa o brophwydi yn descyn o’r vchelfa, ac oi blaen hwynt nabal, a thympan, a phibell, a thelyn, a hwythau yn prophwydd.
6Yna yspryd yr Arglwydd a ddaw arnat ti, fel y prophwydech gyd a hwynt, a thi a droir yn ŵr arall.
7A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo’r achos, canys Duw gyd a thi.
8A dos i wared o’m blaen i Gilgal, ac wele mi a ddeuafi wared attat ti, i offrymmu offrymmau poeth i aberthu ebyrth hedd: Pen.13.8.disgwil am danaf saith niwrnod, hyd oni ddelwyf attat, ac mi a hyspyssaf i ti yr hyn a wnelech.
9A phan drôdd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, yna Duw a rodd iddo ef galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw
10Pan ddaethant yno at y brynn, wele finteu o brophwydi yn ei gyfarfod ef: yna yspryd Duw a ddaeth arno yntef, a phrophwydodd yn eu mysc hwynt.
11A phawb a’r ai hadwaenent ef o’r blaen a edrychasant, ac wele gyd a’r prophwydi yn prophwydo: yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, beth yw hyn gan fab Cis? Pen.19.24.a Saul hefyd ym mysc y prophwydi?
12Ac vn oddi yno a attebodd, ac a ddywedodd: etto pwy eu tâd hwy? am hynny yr aeth yn ddihareb, a Saul hefyd ym mysc y prophwydi?
13Pan orphennodd efe brophwydo, yna y daeth efe i’r vchelfa.
14Ac ewythr Saul frawd ei dad a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei langc ef, pa le yr aethoch? yna y dywedodd efe, i geisio’r assynnod, pan welsom nas yna y daethom at Samuel.
15Ac ewythr Saul a ddywedodd, mynega attolwg i ni beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi?
16Yna y dywedodd Saul wrth ei ewythr, gan fynegu mynegodd i ni fod yr assynnod wedi eu cael: ond am chwedl y frenhiniaeth yr hwn a ddywedase Samuel, nid yngênodd efe wrtho ef.
17A Samuel a alwodd y bobl at yr Arglwydd i Mispah.
18Ac efe a ddywedodd wrth feibion Israel, fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, myfi a ddygais i fynu Israel o’r Aipht: ac a’ch gwaredais chwi o law’r Aiphtiaid, ac o law’r holl deyrnasoedd y rhai a’ch gorthrymment chwi.
19Ond chwi heddyw a wrthodasoch eich Duw yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddryg-fyd, a’ch helbul, ac a ddywedasoch wrtho ef 1 Sam.8.19.[nid felly,] eithr gosot arnom ni frenin: am hynny sefwch yr awr hon ger bron yr Arglwydd yn ôl eich llwythau, ac yn ôl eich miloedd.
20Yna Samuel a barodd i holl lwythau Israel nessau, ac fe a ddaliwyd llwyth Beniamin.
21Pan barodd efe i lwyth Beniamin nessau yn ôl eu teuluoedd, yna y daliwyd teulu Mathri, felly Saul mab Cis a ddaliwyd, a phan geisiasant ef nis caed ef.
22Am hynny y gofynnasant eil-waith i’r Arglwydd, a ddaethe’r gŵr yno etto? a’r Arglwydd a ddywedodd, wele efe yn ymguddio ym mhlith y dodrefn.
23Yna y rhedasant, ac y cymmerasant ef oddi yno, ac efe a safodd yng-hanol y bobl: ac yr oedd efe oi yscwydd i fynu yn vwch na’r holl bobl.
24Yna y dywedodd Samuel wrth yr holl bobl, oni welsoch chwi yr hwn a ddewisodd yr Arglwydd, nad megis ef ym mysc y bobl? a’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, byw fyddo’r brenin.
25Yna Samuel a draethodd Deut.17.15.gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac ai scrifennodd mewn llyfr, ac ai gosododd ger bron yr Arglwydd, a Samuel a ollyngodd ymmaith yr holl bobl bob vn iw dŷ.
26A Saul hefyd a aeth iw dŷ ei hun i Gibea: a llû o’r rhai y cyffyrddase Duw ai calon a aethant gyd ag ef.
27Ond meibion y fall a ddywedasant, pa fodd y gwared hwn ni? felly y dirmygasant ef, ac ni ddugasant anrheg iddo ef: eithr ni chymmerodd efe arno glywed hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.