1Yna meibion Israel a chwanegasant wneuthur drigioni yng-olwg yr Arglwydd: wedi marw Ehwd.
2A’r Arglwydd ai gwerthodd hwynt i law Iabin brenin Canaan yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lû ef Sisara, ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd.
3Yna meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: canys naw cant cerbyd haiarn ganddo ef, ac efe a orthrymmodd feibion Israel yn dôst vgain mlhynedd.
4A Debora rhyw brophwydes gwraig Lapidoth: hi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.
5A hi oedd yn trigo tann balm-wydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd Ephraim: meibion Israel a ddeuent i fynu atti hi am farn.
6Yna hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac fab Abinoam o Cedes Nephthali: ac a ddywedodd wrtho, oni orchymynnodd Arglwydd Dduw Israel dôs, a thynn tua mynydd Thabor, a chymmer gyd a thi ddeng-mil o wŷr o feibion Nephthali, ac o feibion Zabulon.
7A mi a dynnaf attat Sisara tywysog llû Iabin, ai gerbydau, ai luosogrwydd ef Psal.83.10.wrth afon Cison: ac ai rhoddaf ef yn dy law di.
8A Barac a ddywedodd wrthi, od ei di gyd a mi minne a âf: ac onid ei gyd a mi nid âf.
9Yna hi a ddywedodd, gan fyned yr âf gyd a thi, etto ni bydd gogoniant i ti yn y daith i’r hon yr ydwyt yn myned, canys yn llaw gwraig y dyru yr Arglwydd Sisara: a Debora a gyfododd, ac a aeth gyd a Barac i Cedes.
10A Barac a gynhullodd Zabulon, a Nephthali i Cedes, ac a aeth i fynu ar ei draed a deng-mil o wŷr: a Debora a aeth i fynu gyd ag ef.
11A Heber y Cenead (o feibion Num.10.29.Hobab chwegrwn Moses) a ymnailltuodd oddi wrth y Ceneaid, ac a ledodd ei babell hyd wastaedd Zaanaim yr hwn yn Cedes.
12A mynegasant i Sisara, ddyfod o Barac mab Abinoam i fynu i fynydd Thabor.
13A Sisara a gynhullodd ei holl gerbydau naw cant cerbyd haiarn, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef: o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.
14Yna Debora a ddywedodd wrth Barac, cyfot, canys hwn’r dydd yr hwn y rhoddodd yr Arglwydd Sisara yn dy law di, onid aeth yr Arglwydd allan o’th flaen di? felly Barac a ddescynnodd o fynydd Thabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.
15A’r Arglwydd a ddrylliodd Sisara, ai holl gerbydau, ai holl fyddin ef drwy fîn y clcddyf o flaen Barac: a Sisara a ddescynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffôdd ar ei draed.
16Felly Psal.83.10.Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin hyd Harosech y cenhedloedd: a holl lu Sisara a syrthiodd ar fin y cleddyf, ni adawyd vn o honynt.
17Ond Sisara a ffôdd ar ei draed i babell Iael gwraig Heber y Cenead: canys heddwch rhwng Iabin brenin Hazor a thŷ Heber y Cenead.
18Ac Iael a aeth i gyfarfod a Sisara, ac a ddywedodd wrtho, trô fy arglwydd, trô attafi: yna efe a drôdd atti i’r babell, a hi ai gorchguddiodd ef mewn gwrthban.
19Ac efe a ddywedodd wrthi, dioda fi attolwg ag ychydig o ddwfr, canys sychedic wyf: yna hi a agorodd Pen.5.25.gynnoc y llaeth, ac ai diododd ef, ac ai gorchguddiodd ef.
20Dywedodd hefyd wrthi, saf ddrws y babell: ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, a oes ymma neb? yna dywet tithe nac
21Yna Iael gwraig Heber a gymmerth hoel o’r babell, ac a gymmerodd forthwyl yn ei llaw, ac a ddaeth i mewn atto ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr boel yn ei arlais ef, ac ai gwthiodd i’r ddaiar: (canys efe oedd yn cyscu, ac yn lluddedic) ac y bu efe farw.
22Ac wele Barac yn erlid Sisara, ac Iael aeth iw gyfarfod ef, ac a ddywedodd wrtho, tyret, a dangosaf i ti y gŵr yr hwn yr ydwyt ti yn ei geisio: ac efe a ddaeth i mewn atti, ac wele Sisara yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais ef.
23Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Iabin brenin Canaan: o flaen meibion Israel.
24A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Iabin brenin Canaan: nes iddynt ddestruwio Iabin brenin Canaan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.