1AC efe a ddywedodd wrthif, yn nechreuad y byd, a chyn gosod ei derfynau, a chyn chwythu o’r gwynioedd,
2Cyn clywed trwst y taranau, a chyn gweled disclaerdeb y mellt, a chyn gosod sail Paradwys,
3A chyn gweled y blodau prydferth a chyn cadarhau y rhinweddau, a chyn casclu yng-hyd y llu aneirif o angelion.
4Cyn derchafu vchelder yr awyr, cyn henwi mesuroedd y ffurfafen, a chyn gwresogi o’r ffumerau yn Sion:
5Ac o flaen chwilio am y blynyddoedd presennol, a chyn gwrthod dychymygiadau y neb sydd y pryd hyn yn pechu, a chyn selio y rhai a gadwasant y ffydd fel tryssor,
6Y pryd hynny meddyliais, a gwnaethbwyd hwynt oll trwofi, ac nid trwy arall: ai diwedd hwynt fydd hefyd trwofi, ac nid trwy arall.
7Atebais gan ddywedyd, pa beth yw rhanniad yr amseroedd: a pha bryd y bydd diweddiad y cyntaf, a dechreuad yr olaf?
8Ac efe a ddywedodd wrthif, o Abraham hyd Isaac, pan anwyd iddo ef Iacob ac Esau, Gene.25.26.llaw Iacob yn y dechreu a ddaliodd sodl Esau:
9Canys Esau yw diwedd y byd hwn a Iacob yw dechreu y byd sydd i ddyfod.
10Llaw dyn rhwng sodl a llaw, na ofyn i mi mwy Esdras.
11Atebais gan ddywedyd, ô Arglwydd llywydd, os cefais ffafor yn dy olwg di,
12Attolwg dangos i’th wâs derfyn dy arwyddion, y rhai y dangosaist i’m rann o honynt y nos ddiwethaf.
13Ac efe a’m hatebodd gan ddywedyd, cyfot ar dy draed, a gwrando lef gref soniarus.
14Daw fel daiar-gryn, ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno nid yscog.
15Gan hynny pan lefaro efe, na ofna di, canys am y diwedd y bydd y gair, ac am sylfaen y ddaiar y deallir ef.
16O herwydd y gair o hynny a gryn ac a gynhyrfa, canys eu diwedd hwynt sydd raid ei newid.
17A digwyddodd pan glywais, mi a godais ar fy nhraed a gwrandewais, ac wele lef yn llefain, ai sŵn ydoedd fel sŵn llaweroedd o ddyfroedd.
18Ac hi a ddywedodd, y dyddiau sydd yn dyfod pan ddechreuwyf nessau i ymweled â phresswylwŷr y ddaiar.
19A phan ddechreuwyf a’r rhai a ddrygodd yn anghyfiawn ai hanghyfiawnder, a phan gyflawner darostyngiad Sion.
20A phan selier y byd yr hwn a ddechreu fyned heibio, yr arwyddiō hyn a wnafi, y llyfrau a agorir o flaen yr holl ffurfafen, a phawb a gaiff weled ar vnwaith.
21A phlant blwyddiaid a lefarant, a gwragedd beichiogion a escorant ar blant cyn eu hamser ar ben y tri-mis a’r pedwar-mis, a byw fyddant, a chyfodir hwynt i fynu.
22Ac yn ddisymmwth yr ymddengis y mānau a hauwyd fel y mannau ni’s hauwyd, a’r celloedd llawn a fyddant wâg yn ddisymmwth.
23A’r vdcorn a gân, a phwy bynnac ai clyw ef a ddychryn yn ddisymmwth.
24A’r pryd hynny yr ymladd cyfeillion ai gilydd fel pe byddent gelynion, a’r ddaiar a ddychryn gyd â hwynt, a’r ffynhonnau a safant, ac ni redant dros dair awr.
25A phwy bynnac a ddiango rhag y pethau hyn oll a ddangosais i ti, a fydd gadwedic, ac a gaiff weled fy iechydwriaeth, a diwedd eich byd chwi.
26Y rhai a dderbynniwyd a welant, y rhai ni phrofasant angeu er pan eu ganwyd hwyni, calon y presswylwŷr a newidir ac a droir i feddwl arall.
27Canys bwrir ymmaith ddrygioni a diffoddir twyll.
28A ffydd a flagura, a llygredigaeth a orchfygir, a gwirionedd yr hon a fu cyhyd yn ddiffrwyth a ddangosir.
29A phan ymddiddanodd efe â myfi, wele mi a edrychais arno ef (bob ychydig, ac ychydig) yr hwn a safe ger fy mron.
30Ac efe a ddywedodd y geiriau hyn wrthif, daethum i ddangos it amser y nos sydd yn dyfod.
31Os tydi a weddii etto, ac os ymprydi etto saith niwrnod, dangosaf it trachefn fwy o’r hyn a glywais am y dydd hwn.
32Canys y Goruchaf a glywodd dy leferydd, y Galluog a welodd dy iniondeb, ac a ragwelodd y diweirdeb yr hon oedd gennit o’th ieuengtid
33Ac am hyn efe a’m hanfonodd i ddangos it y pethau hyn oll, ac i ddywedyd wrthit, bydd gyssurus, ac nac ofna.
34Ac na phryssura gyda yr amseroedd a aethant heibio i fyfyrio oferedd, fel na phryssurech di oddi wrth yr amseroedd diwethaf.
35Ac yn ôl hyn yr ŵylais trachefn, ac ymprydiais saith niwrnod eraill, fel y gallwn gyflawni y tair wythnos y rhai a ddywedase efe wrthif.
36A’r wythfed nôs yr oedd fyng-halon yn fy mlino trachefn, a dechreuais ddywedyd ger bron y Goruchaf.
37Canys fy yspryd a enynnodd yn ddirfawr a’m henaid oedd mewn caledi.
38A dywedais, ô Arglwydd ti a ddywedaist wrth dy greadur o’r dechrau yn y dydd cyntaf gan ddywedyd, Gene.1.1.gwneler nef a daiar, a’th air a aeth yn weithred berffaith.
39A’r amser hwnnw yr ydoedd yr yspryd, a’r tywyllwch oedd o amgylch, a distawrwydd a sain lleferydd dŷn nid oedd oddi wrthit ti.
40Yna y gorchymynnaist ddwyn allan oleuni disclaer o’th dryssorau fel yr ymddangose dy waith.
41A’r ail dydd y gwnaethost yspryd y ffurfafen a gorchymynnaist iddo ef ymrannu a gwneuthur dosparth rhwng y dyfroedd, fel y galle y naill ran fyned i fynu, a’r rhan arall aros i wared.
42A’r trydydd dydd y gorchymynnaist i’r dyfroedd ymgasclu yn seithfed ran o’r ddaiar, chwe rhan i’r byd a sychaist ac a gedwaist fel y galle ddynion arnynt lafurio a hau ger dy fron di.
43Dy air di a gerddodd, a’r gwaith a gyflawnwyd allan o law.
44Canys yn ddisymmwth yr oedd ffrwyth mawr aneirif, a llawer o felusdra o bob rhywogaeth, a llysieuau o ddigolledic liwiau, ac aroglau rhyfedd anianawl, a hyn a wnaethpwyd y trydydd dydd.
45Y pedwerydd dydd y gorchymynnaist wneuthur goleuni yr haul, a llewyrch y lleuad, a threfn y sêr.
46 Deut.4.9. A gorchymynnaist iddynt wasanaethu y dyn yr hwn a wnait.
47A’r pumed dydd, dywedaist wrth y seithfed ran lle yr ydoedd y dyfroedd wedi ymgasclu yng-hyd, am iddi ddwyn anifeiliaid, ac adar, Gene.1.21.a physcod ac felly y bu.
48Y dwfr mud ac heb fywyd, y rhai a orchmynnwyd wrth amnaid Duw, a ddygodd anifeiliaid, fel y galle y cenhedloedd ddangos dy ryfeddodau.
49Yna y cedwaist ddau enaid, vn a elwaist Enoch, a’r ail a elwaist Leuiathan.
50A didolaist y naill oddi wrth y llall: canys y seithfed ran lle yr ydoedd y dyfroedd wedi ymgynnull, ni’s galle eu dal hwynt.
51A rhoddaist i Enoch y naill ran yr hon a sychwyd y trydydd dydd, fel y galle efe aros yno, lle y mae mil o frynnau.
52Ond i Lefiathan y rhoddaist y seithfed rann yr hon sydd wlŷb a chedwaist ef i ddifetha y pethau a fynech a phan y mynech.
53A’r chweched dydd y gorchymynnaist i’r ddaiar ddwyn o’th flaen di anifeiliaid, bust-filod ac ymlusciaid.
54Ac vwch y pethau hyn y rhoddaist Adda, ’r hwn a ordeiniaist yn dywysog ar dy holl weithredoedd a wnaethost, ac o honaw ef y daethom oll, a’th bobl a ddewisaist.
55A’r pethau hyn oll a ddywedais ger dy fron di ô Arglwydd, canys er ein mwyn ni y gwnaethost y byd.
56A’r bobl eraill a anwyd o Adda, dywedaist nad ynt ddim, ond tebyg ynt i boeryn, a chyffelybaist eu hamldra i ddiferiad o lestr.
57Ac yn awr ô Arglwydd, wele y cenhedloedd hynny y rhai a ddirmygit a ddechreuant arglwyddiaethu arnom ni, a’n difetha.
58A ninnau dy bobl di (y rhai a elwaist yn vnigenedic, yn gyntaf-anedic, a’r rhai a’th gar di yn gu) a roddwyd iw dwylo hwynt.
59Ac os gwnaethbwyd y byd er ein mwyn ni, pan ham na chawn feddiannu etifeddiaeth gyd a’r byd: pa hyd y peri hyn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.