1O Blegit hynny, Rufei.6.4.|ROM 6:4. Ephes. 4.22|EPH 4:22. Coll.3.8.|COL 3:8. 1.Pet. 2.1.ninnau hefyd gan fod cymmaint cwmwl o dystiō wedi ein hamgylchu ni, bwriwn heibio bob pwys, a’r pechod yr hwn sydd barod i’n hamgylchu, a rhedwn mewn ammynedd yr yrfa a osodwyd i ni:
2Gan edrych ar Iesu pen tywysog a pherffeithudd ein ffydd ni, yr hwn yn lle y llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiysturu gwradwydd, a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd-faingc Duw.
3Ystyriwch am hynny pwy yw’r neb a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid: rhag eich blino wedi deffygio yn eich meddyliau.
4Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.
5Ac chwi a ollyngasoch tros gof y cyngor yr hwn sydd yn dywedyd wrthych, megis wrth blant: fy mab, nac esceulysa gospedigaeth yr Arglwydd, Dihar.3.11. Act.3.19.ac na laesa pan gerydder di ganddo.
6Canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae efe yn ei gospi, ac y mae efe yn fflangellu pob mab a dderbynio.
7Os goddefwch gospedigaeth, y mae Duw yn ymgynig i chwi, megis i feibion: canys pa fab fydd na’s cospo ei dâd ef?
8Cithr os heb gospedigaeth yr ydych, o’r hon y mai pawb yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion
9Heb law hynny cawsom dadau ein cyrph yn gospedig-wŷr, ac ni parchasom: onid mwy o lawer y mae i ni ymostwng i Dad yr ysprydau, a chael byw?
10Canys hwynt hwy yn wir tros ychydic ddyddiau a’n cospent ni, fel y bydde dda ganddynt: eithr hwn a’n cospa er llesâd i ni, fel y byddem gyfrannogion o’i sancteiddrwydd ef.
11Ni welir chwaith yn hyfryd vn gospedigaeth tros yr amser presennol, eithr yn anhyfryd: etto wedi hynny, heddychol ffrwyth cyfiawnder, a rydd hi i’r rhai a fyddant wedi eu cynnefino â hi.
12Am hynny gwnewch yn sythion eich dwylo llaesedig, a’r gliniau diffrwyth:
13A gwnewch lwybrau iniawn i’ch traed, fel nad elo y cloff tros ei ffordd, namyn yn hytrach cael ei iachau.
14 Rufei.12.18. Dilynwch heddwch a phawb, a sanctiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd.
15Gan ddisgwil rhag na phallo neb oddi wrth râs Duw: rhag blaguro o ryw wreiddin chwerw a pheri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer.
16Na fydded vn putteiniwr, neu aflan megis Genes.25.33.Esau, yr hwn am vn saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth-fraint.
17Canys Genes.27.38.chwi a wyddoch y modd wedi hynny hefyd pan fynase efe etifeddu y fendith y gwrithodwyd ef: o blegit ni chafas efe gyfle i edifarhau, er ei fod trwy ddagreu yn ei cheisio hi.
18O blegit ni ddaethoch chwi at y Exod.19.16.mynydd teimladwy, a’r tân poeth, a’r cwmwl, a’r tywyllwg, a’r dymestl,
19A sain yr vdcorn, a llef y geiriau, yr hon y rhai ai clywsant, a ymescusodasant i gael na bydde mwy o’r ymadrodd wrthynt hwy.
20O blegit ni allent hwy oddef yr hyn a orchymynnasid, os cyffyrdde Exod.19.13.bwyst-fil âr mynydd, efe a labyddid
21Ac mor aruthr ydoedd y golwg yr hwn oedd yn ymddangos, ag y dywedodd Moses, yr ydwyf yn ofni, ac yn crynnu.
22Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Sion, a dinas y Duw byw, i Ierusalem nefol â llawer myrddiwn o angelion.
23I gymmanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-annedig, y rhai a scrifēnwyd yn y nefoedd, ac Dduw barnwr pawb, ac ysprydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd,
24Ac Iesu cyfryng-wr y Testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell nâ Gen.4.10.Abel.
25Edrychwch nad ysceulusoch y neb sydd yn dywedyd: o blegit oni ddiangodd y rhat ai gwrthwynebasant ef, yr hwn ydoedd yn llefaru yn enw Duw ar y ddaiar: nyni yn hytrach o lawer os gwrthwynebwn y neb sydd o’r nefoedd.
26Llef yr hwn yna a escydwodd y ddaiar, yn awr hefyd y mynegodd, gan ddywedyd, Haggeus 2.7.etto vnwaith yr escydwaf nid yn vnic y ddaiar, eithr y nefoedd hefyd.
27Yr etto vnwaith hynny, sydd yn arwyddocau treigliad y pethau ansafad wy, megis pethau medi eu gwneuthur, fel y parhao y pethau safadwy.
28Am hynny gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddisigl, meddiannwn y grâs, drwy ’r hwn y gallom wasaneuthu Duw wrth ei fodd ef trwy wyldra a pharchedig ofn.
29O blegit Deut. 4.24.ein Duw ni sydd dân yssol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.