Diharebion 31 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXI.

1Geiriau Lemuel frenin: brophwydoliaeth, yr hon a ddyscodd ei fam iddo ef.

2Beth fy mab? pa beth fy mab cnawdol? îe pa beth a ddywedaf fy mab annwyl?

3Na ddyro i wragedd dy nerth: na’th ffyrdd i’r rhai a ddifethant frenhinoedd.

4Nid i frenhinoedd, O Lemuêl, nid gweddaidd i frenhinoedd ŷfed gwin: nac i benaduriaid ddeisyfu diod gadarn,

5Rhag iddo ef ŷfed, ac ebargôfi deddf: a chyfnewidio barn yr hôll rai gorthrymmedig.

6Rhoddwch ddiod gadarn i’r neb sydd ar ddarfod am dano: a rhoddwch wîn i’r trîst feddwl.

7Yfed efe fêl yr anghofio ei dlodi: ŷfed fel na’s meddylio am ei flin-fŷd.

8Agor dy enau dros y mud: ac yng-hweryl plant angeu.

9Agor dy enau, barn yn gyfiawn: a dadle dros y tlawd a’r anghenus.

10Pwy bynnac a gaffo wraig rinweddol: gwerthfawrocach yw hi na’r carbwncl.

11Calon ei gŵr a ymddyried ynddi: ac ni bydd arno ddim eisieu.

12Hi a wna iddo lês, ac nid drwg, hôll ddyddiau ei bywyd.

13Hi a gais wlân neu lîn, ac ai gweithia ai dwy-law yn ewyllyscar.

14Tebyg yw hi i long marsiandwr, hi a gluda ei bywyd o bêll.

15Hi a gŷfyd liw nôs, ac a rydd fwyd iw thylwyth, ai tasc iw llangcesau.

16Hi a rydd ei brŷd ar dŷddyn, ac ai pryn ef: ac â gwaith ei dwylo hi a blanna win-llan.

17Hi a wregŷsa ei lwynau â nerth: ac a gryfhâ ei breichiau.

18Os hi a wêl fôd ei marsiandiaeth yn fuddiol, ni ddiffydd ei chanwyll ar hŷd y nôs.

19Hi a rŷdd ei llaw ar ei chwarfan, ai llaw a ddeil y werthyd.

20Hi a egyr gledr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.

21Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eirâ, canys ei holl dŷ hi a wisc scarlat.

22Hi a weithia iddi ei hun garpêdau, ei gwisc yw lliain main a phorphor.

23Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyd â henafiaid y wlâd.

24Hi a weithia liain, ac ai gwerth, ac a werth wregysau i’r marsiandwŷr.

25Nerth ac anrhydedd yw ei gwisc, ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.

26Hi a egyr ei genau yn ddoeth, a chyfraith trugaredd ar ei thafod hi.

27Hi a graffa pa ffordd y rhodia tylwyth ei thŷ: ac ni fwytu hi fwyd syrthni.

28Ei phlant a godant, ac ai galwant yn ddedwydd: ei gŵr yn yr vn modd ai can-mol hi:

29Gan ddywedyd, llawer merch a weithiodd yn rymmus, ond ti a ragoraist arnynt ôll.

30Siomêdig yw ffafr, ac ofer yw tegwch: ond benyw yn ofni yr Arglwydd a gaiff glôd.

31Rhoddwch iddi o weithredoedd ei dwylo, a chan-moled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.

Terfyn Diharebion Salomon

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help