1.Timotheus 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.3 Y mae efe yn annog Timotheus i wilio ar ei swydd, yn enwedig ar iddo edrych na ddyscer dim i’r bobl onid gair Duw. 5 Gan fynegu diwedd y gorchymyn. 20 A rhybuddio am Hymeneus ac Alexander.

1Paul Apostl Iesu Grist trwy ordeinhâd Duw ein Iachawdr, a’r Arglwydd Iesu Grist Coloss.1.27.ein gobaith,

2 Gweith.16.1. At Timotheus fy mab naturiol yn y ffydd: grâs, trugaredd, a heddwch gan Dduw ein Tad, a Christ Iesu ein Harglwydd.

3Megis y deisyfiais arnat aros yn Ephesus pan aethym i Macedonia, fel y gellych rybuddio rhai, na ddyscant amryw ddysceidiaeth,

4Ac nad ystyriant Pen.4.7.|1TI 4:7. titus.1.14.chwedlau, ac achau Pen.6.4.annorphen, y rhai sy yn peri cwestiwnau yn fwy nag adeiladaeth dduwiol yr hon sydd trwy ffydd

5Eithr Rufei13.10.diwedd y gorchymyn ydyw cariad o galō bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiau.

6Oddi wrth ba rai y gŵyrodd rhai, ac y troâsant at ofer ymadrodd.

7Y rhai a fynnent fod yn ddoctoriaid y gyfraith heb na deall yr hyn a ddywedent, na’r hyn a daerent.

8 Rufei.7.12. Eithr nyni a ŵyddom mai da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon,

9Gan ŵybod hyn, na roddwyd y gyfraith i’r cyfiawn, eithr i’r rhai anwir ac anufudd, i’r rhai annuwiol a’r pechaduriaid, i’r rhai anghyfiawn a’r rhai aflan, i leiddiaid tad, a lleiddiaid mam, ac i leiddiaid dynion,

10I butein-wŷr, i rai Sodomiaidd, i ladron dynion, i rai celwyddog, i anudon-wŷr, ac od oes dim arall yr hwn sydd wrthwyneb i athrawiaeth iachus,

11[Yr hon sydd] ar ôl gogoneddus Efengyl y Pen.6.15.bendigedig Dduw, yr hon a ymddyriedwyd i mi.

12Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a roesi mi allu, sef Crist Iesu ein Harglwydd: am iddo fyng-hyfrif yn ffyddlon, gan fyng-osod yn y weinidogaeth.

13A mine o’r blaen yn gabl-wr, ac yn erlidi-wr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, mewn annwybod y gwneuthum drwy ang-hredyniaeth.

14A grâs ein Harglwydd a dra-amlhaodd gyd â ffydd a chariad, yr hwn sydd yng-Hrist Iesu.

15Gair gwir, ac ym mhob modd yn heuddu ei dderbyn dyfod* Crist Iesu i’r bŷd i gadw pechaduriaid, o ba rai pennaf ydwyfi.

16Eithr o achos hyn y cefais drugaredd fel y dangose Iesu Grist ynofi yn gyntaf bôb hir oddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag-llaw ynddo ef, i fywyd tragywyddol.

17Ac i’r Brenin tragywyddol, anfarwol, anweledig, vnic synhwyrol Dduw, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

18Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti mab Timotheus: yn ôl y prophwydoliaethau a gerddasant o’r blaen am danat, Pen.6.12.filwrio o honot filwriaeth dda

19Gan fod gennit ffydd a chydwybod dda yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd.

20O ba rai y mae Hymeneus, ac Alexander, 1.Cor.5.5.y rhai a roddais i Satan, fel y dyscent na chablent.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help