Esther 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Haman yn ceisio difetha yr holl Iddewon, am na pharchase Mordocêus ef.

1Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman fab Hammedatha Num.24.7. 1.sam.15.8.’r Agagiad, ac ai derchafodd ef: gosododd hefyd ei orseddfaingc ef goruwch yr holl dywysogion y rhai gyd ag ef.

2A holl weision y brenin y rhai ym mhorth y brenin oeddynt yn ymgrymmu, ac yn ymostwng i Haman, canys felly y gorchymnnase’r brenin am dano ef: ond nid ymgrymmodd Mordoceus, ac nid ymostyngodd.

3Yna gweision y brenin y rhai ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordoceus: pa ham yr ydwyt ti yn trosseddu gorchymyn y brenin?

4Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho ef etto ni wrandawe efe arnynt hwy: am hynny y mynegasant i Haman iedrych a safe geiriau Mordoceus, canys efe a 203 fynegase wrthynt mai Iddew efe.

5Pan welodd Haman nad oedd Mordoceus yn ymgrymmu, nac yn ymostwng iddo: yna Haman a lawnwyd o ddigllonedd.

6Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordocêus eu hunan (canys mynegasent iddo bobl Mordocêus) am hynny Haman a geisiodd ddifetha’r holl Iddewon y rhai drwy holl frenhiniaeth Ahasferus, pobl Mordocêus.

7Yn y mîs cyntaf (hwnnw * Nisan) yn y ddeuddecfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus: efe a barodd fwrw Pyr (hwnnw y coelbren) ger bron Haman o ddydd i ddydd, ac a fîs i fîs y deuddecfed hwnnw mis Adar.

8Yna Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, y mae rhyw bobl wascaredic, a gwahanedic ym mhlith y bobloedd, drwy holl dalaithau dy frenhiniaeth: ai cyfreithiau hwynt sy yn ymrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin, am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt.

9O bydd bodlon gan y brenin, scrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo y rhai a wnânt y weithred hon, iw dwyn i dryssorau y brenin.

10Yna y tynnodd y brenin ei fordrwy oddi am ei law: ac ai rhoddes i Haman fab Hammedatha yr Agagiad gwrthwyneb-wr yr Iddewon.

11A’r brenin a ddywedodd wrth Haman, rhodder yr arian i ti: a’r bobl i wneuthur a hwynt fel y byddo dâ yn dy olwg.

12Yna y galwyd scrifennyddion y brenin yn y mîs cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddêc o’r hwnnw, ac yr scrifennwyd yn ôl yr hyn oll a orchymynnase Haman at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid y rhai ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl, i bob talaith, yn ôl ei scrifen, ac bob pobl yn ôl eu tafod-iaith: yn enw y brenin Ahasferus yr scrifennasid, ac a modrwy y brenin y seliasid

13A’r llythŷrau a anfonwyd gyd a’r rhedeg-wŷr i holl dalaithau y brenin: i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha’r holl Iddewon yn ieuangc, ac yn hên, yn blant, ac yn wragedd mewn vn dydd, ar y trydydd ar ddêc o’r deuddecfed mis (hwnnw mîs Adar: ) ac i sclyfaethu eu hyspail hwynt.

14Testyn yr scrifen gosod cyfraith ym mhob talaith yn eglur i’r holl bobloedd: i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw.

15Y rhedeg-wŷr a aethant wedi eu cymmell drwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhin-lys: y brenin hefyd, a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oeddynt yn athrist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help