1Ac efe Deut.24.24.a ddywedodd, o gyrr gŵr ei wraig ymmaith, a myned o honi oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall: a ddychwel efe atti hi mwyach? onid gan halogi’r halogwyd y tîr hwnnw? a thi a butteiniaist chyfeillion lawer, etto dychwel attafi medd yr Arglwydd.
2Derchafa di dy lygaid i’r lleoedd vchel, ac edrych pa le ni phutteiniaist, ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy megis Arabiad yn yr anialwch, ac a halogaist y tîr a’th butteindra, ac a’th ddrygioni.
3Am hynny’r attaliwyd y cafodau, ac ni bu Deut.28.24glaw diweddar, er hynny talcen putteinwraig oedd i ti, gwrthodaist wladeiddio.
4Oni elwi di arnafi o hyn allan ty di yw fy nhad, thywysog fy ieuengtid?
5A ddeil byth? ai ceidw yn dragywydd? wele dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist ti.
6A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif fi yn amser Iosiah y brenin, oni welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnyssig? hi a aeth i bob mynydd vchel, a thann bob pren deilioc, ac a butteiniodd yno.
7A mi a ddywedais wedi iddi hi wneuthur hyn i gyd, dychwel attafi, ond ni ddychwelodd: ac Iuda ei chwaer anffyddlon hi a welodd
8A hynny y gwelais yn dda am yr achosion oll y putteiniodd Israel wrthnyssic, ollwng o honof hi ymmaith, ac a roddais iddi ei llythyr yscar: er hyn ni ofnodd Iuda ei chwaer anffyddlon: eithr aeth a phutteiniodd hithe hefyd.
9A chann yscafnder ei phutteindra yr halogodd hi y tîr, canys gyd a’r maen a’r prenn y putteiniodd hi,
10Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Iuda ei chwaer anffyddlon attafi ai holl galon, eithr mewn trûth medd yr Arglwydd.
11A dywedodd yr Arglwydd wrthif, Israel wrthnysig ’a gyfiawnhâodd ei henaid rhagor Iuda anffyddlon.
12Cerdda a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywet: ti Israel wrthnysig dychwel medd yr Arglwydd: ni adawaf i’m llîd syrthio arnoch, canys trugarog ydwyfi medd yr Arglwydd, ni ddaliaf yn dragywydd.
13Er hynny gŵybydd dy anwiredd, mai yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw y gwnaethost ar fai, a lledu o honot dy ffyrdd i ddieithriaid, dann bob prenn deilioc: ac ni wrandawech chwi fy llef medd yr Arglwydd.
14Troiwch eil-waith chwi blant gwrthnysig medd yr Arglwydd: canys myfi ydwyf berchennog arnoch chwi, ac a’ch cymmeraf chwi, vn o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Sion:
15Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fyng-halon, a hwynt a’ch porthant chwi a gŵybodaeth, ac â deall.
16Ac wedi darfod iwch amlhau, a chynnyddu ar y ddaiar yn y dyddiau hynny medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfammod yr Arglwydd, ac ni’s meddwl calon, ac ni choffânt am deni, nid ymwelant ychwaith, ac ni’s gweithir mwy.
17Yn yr amser hwnnw y galwant Ierusalem yn Matth.28.20.orseddfa’r Arglwydd, ac y cesclir iddi yr holl genhedloedd yn enw’r Arglwydd i Ierusalem: ac nid ânt mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus.
18Yn y dyddiau hynny’r aiff tŷ Iuda at dŷ Israel, ac a ddeuant yng-hyd, o dîr y gogledd, i’r tîr a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.
19Ac mi a feddyliais pa fodd i’th osodwn di yn blant ac y rhoddwn i ti dir dymunol, etifeddiaeth ardderchawgrwydd lluoedd y cenhedloedd: ac a ddywedais, ti a elwi arnafi fy nhâd, ac na chilia di yn dy ôl oddi wrthif.
20Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill, felly tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd.
21Llêf a glywyd yn y mannau vchel, wylofain dymuniadau meibion Israel: am ŵyro o honynt eu ffordd, ac anghofio yr Arglwydd eu Duw.
22Ymchwelwch feibion gwrthnysig, iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi: wele nyni a ddaethom attat ti, o blegit ti yr Arglwydd ein Duw.
23Diau yn ofer i’r brynnau ac i liaws y mynyddoedd: diau fod iechydwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni.
24Gwarth a yssodd lafur ein tadau ni o’n hieuengtid ni: eu defaid, ai gwarthec, eu meibion ai merched.
25Gorweddwn yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n hamdôdd ni: canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau ni, o’n ieuengtid, hyd y dydd heddyw, ac ni wrandawsom ar lêf yr Arglwydd ein Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.