1Ac vn o’r saith angel oedd a’r saith phiol ganddo a ddaeth, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthif, tyret, mi a ddangôsaf i ti farnedigaeth y buttain fawr, yr hon sydd yn eistedd ar lawer o ddyfroedd.
2Gyd â’r hon y mae brenhinoedd y ddaiar wedi godinebu, a phresswyl-wyr y ddaiar wedi meddwi ar win i godîneb hi.
3Ac efe am dygodd i yn yr yspryd i’r diffaethwch, ac mi a welais wraig yn eistedd ar fwyst-fil vn lliw ag scarlad, yn llawn o henwau cabledd, â saith pen ganddo, a dêc corn.
4A gwisc y wraig oedd borphor, ac scarlat, ac wedi ei goreuro âg aur, a main gwerthfawr, ac â pherlau, a cwppan o aur oedd ganddi yn ei llaw yn llawn o ffiaidd-dra, a brynti ei godîneb hi.
5Ac yn ei thalcen yr ydoedd henw yn scrifennedig, dirgelwch, Babylon fawr, mam putteindra, a ffieidd-dra’r ddaiar.
6Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y sainct, a chan waed merthyron Iesu, a phan welais i hi, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.
7A’r angel a ddywedodd wrthif, pa ham yr wyt yn rhyfeddu? mi a ddangosaf i ti ddirgegelwch y wraig, a’r bwyst-fil yr hwn sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â saith ben ganddo, ac â dêc corn.
8Y bwyst-fil a welaist, a fu ac nid ydyw, ac efe a ddaw i fynu o’r pwll heb waelod, ac efe a aiff i golledigaeth, a rhai sy’n trigo ar y ddaiar, a ryfêddāt (y rhai nid yw eu henwau yn scrifennedig yn llyfr y bywyd er dechreu’r bŷd) pan edrychant ar y bwyst-fil yr hwn ydoedd, ac nid ydyw, ac etto y mae.
9Dymma’r meddwl, yr hwn sydd a doethîneb ganddo: y saith ben saith mynydd ydynt, ar y rhai y mae’r wraig yn eistedd, y maent hefyd yn saith frenin.
10Pump a syrthiasant, ac vn sydd, ac vn arall heb ddyfod etto: a phan ddêl efe, rhaid iddo barhâu ychydig o amser.
11A’r bwyst-fil yr hwn a fu, ac nid ydyw, efe yw’r ŵythfed, ac y mae yn vn o’r saith, ac yn myned i ddestruw.
12A’r dêc corn a welaist, dêc brenin ydynt, y rhai ni chawsant etto frenhiniaeth, ond hwy a gâant awdurdod fel brenhinoedd mewn vn awr gyd â’r bwyst-fil.
13Yr vn cyngor sydd i’r rhai hyn, ac hwy a roddant eu nerth au hawdurdod i’r bwyst-fil.
14Y rhai hyn a ryfelāt a’r Oen, a’r Oen a’u goruchfyga hwynt, canys efe ydyw Arglwydd arglwyddi, a Brenin brenhinoedd, a’r rhai sy ar ei blaid ef, hwy a alwyd, ac a ddetholwyd, a ffyddlon ydynt.
15Ac efe a ddywedodd wrthif, y dyfroedd y rhai a welaist ti, lle y mae’r buttain yn eistedd, pobl ydynt, a gwerin, a chenhedloedd, ac ieithoedd.
16A’r dêc corn a welaist ti ar y bwyst-fil, yw y rhai a gashânt y buttain, ac ai gwnânt hi yn vnic, ac yn noeth, ac a fwyttânt ei chig hi, ac a’i lloscant hi â thân.
17Canys Duw a roddodd yn eu calonnau gyflawni ei ewyllys ef, a gwneuthur trwy gyd vndeb, a rhoddi eu teyrnas i’r bwyst-fil, hyd oni gyflawnir geiriau Duw.
18A’r wraig a welaist, dinas fawr ydyw, yr hon sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.