Ieremi 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Gwendid gau-dduwiau y cenhedloedd, a chadernid y gwir Dduw. 21 Eglwys-wyr angall.

1Gwrandewch y gair yr hwn a ddywedodd yr Arglwydd wrthych chwi tŷ Israel,

2Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, na ddyscwch ffordd y cenhedloedd, ac Deut.18.10.nac ofnwch arwyddion y nefoedd, er ofni o’r cenhedloedd hwynt.

3Canys Deut.12.30.deddfau’r bobloedd ynt oferedd: o herwydd cymmynwyd pren o’r coed, (gwaith llaw’r saer) â bwyall.

4Ag Esa.44.12.arian, ac ag aur yr harddwyd hwynt, â hoelion, ac â morthoelion y siccrhauwyd hwynt rhag cwympo.

5Megis palm-wydden syth hwy, ac ni lefarant: gan ddwyn y dygir hwy am na allant gerdded: nac ofnwch hwynt canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid ynddynt.

6Nid fel ti Arglwydd, mawr wyt, a mawr dy enw mewn cadernid.

7 Gweled.15.4. Pwy ni’th ofna di Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gwedde o herwydd ym mysc holl ddoethion y cenhedloedd ac ym mysc eu holl deyrnasoedd hwy nid fel ti.

8Eithr cyd-ynfydasant, ac amhwyllasant athrawiaeth Habac.2.18.oferedd yw cyff.

9Arian gyrredic a ddygir o Tharsis, ac aur o Uphas waith celfydd, a dwylaw’r toddudd: sidan glas a phorphor eu gwisc hwy, gwaith y celfyddion oll.

10Eithr yr Arglwydd sydd wîr Dduw, efe yw’r Duw byw a’r Brenin tragywyddol, rhag ei lîd ef y cryna’r ddaiar, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei sorriant ef.

11Fel hyn y dywedwch wrthynt, difether o’r ddaiar, ac oddi tann y nefoedd y duwiau y rhai ni wnaethant nefoedd a daiar.

12[Duw] Iere.51.15.a wnaeth y ddaiar trwy ei nerth, ac a siccrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr.

13Pan roddo efe ei lais twrwf dyfroedd yn y nefoedd, efe a wna i’r cwmylau dderchafu o eithafoedd y ddaiar: efe a wna fellt gyd a’r glaw, ac a ddŵg allan y gwynt oi dryssorau.

14 Iere.51.17. Ynfyd yw pôb dyn yn ei ŵybodaeth, gwradwyddwyd pôb toddudd am y ddelw: canys gwagedd ei doddiad, ac nid oes anadl ynddynt.

15Oferedd ynt gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.

16Nid fel y rhai hyn, eithr lluni-wr y cwbl oll yw Deut.32.9. psal.16.5.rhan Iacob: ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd ei enw.

17Cascl o’r tîr dy farchnadaeth yr hon wyt yn trigo mewn cadernid.

18Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele fi yn taflu trigolion y tîr ar y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffant

19Gwae fi am fy mriw, dolurus fy mhlâ, mi a ddywedais yn ddiau, dymma ofid, a mi ai dygaf.

20Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a ddrylliwyd, fy mhlant a aethant oddi wrthif, ac nid ydynt: nid mwy a lêdo fy mhabell, nac a gyfyd fy llennau.

21Canys y bugeiliaid a ynfydâsant, a’r Arglwydd ni cheisiâsant, am hynny ni ddeallhâsant, a eu porfa hwy oll a wascarwyd.

22Wele lêf vchel a ddaeth, a chynnwrf mawr Iere.4.15.o dir y gogledd, i osod dinasoedd Iuda yn ddiffaethwch yn drigfan dreigiau.

23Gwn Arglwydd nad eiddo dyn ei ffordd, ac nad eiddo gŵr a rodio lywodraeth ei gerddediad.

24Cospa fi Arglwydd, etto mewn barn, ac nid yn dy lid, rhag it fy nifetha.

25Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw di, canys bwyttasant Iacob, îe bwyttasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help