2.Machabæaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.2 Am yr anrhydedd a wnaethid i’r deml gan frenhi­noedd y cenhedloedd, 6 Simon sydd yn mynegu pa dryssor sydd yn y deml. 7 yr ydys yn danfon Heliodorus iw gymmeryd ef ymmaith, 26 Duw yn eu taro hwynt am hynny, a thrwy weddi Onias yn eu hiachau hwynt.

1Y Cyfāser yr oeddid yn presswylio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn cadw ’r cyfreithiau yn dda iawn, o blegit duwioldeb Onias yr arch-offeiriad, a bod ei galon yn casau pôb drygioni:

2Digwyddodd i’r brenhinoedd a’r tywysogion farnu ’r lle yn anrhydeddus, ac anrhegu ’r deml â roddion mawr.

3Yn gymmeint ag i Seleucus brenin Asia dalu oi ardrethion yr holl draul a berthyne i wenidogaeth yr ebyrth.

4Simon hefyd o lwyth Beniamin yr hwn a wnaethid yn orchwyliwr y Deml, a ymrysonodd âr arch-offeiriad, i wneuthur difeithwch yn y ddinas.

5Ond pryd na’s galle orchfygu Onias efe a aeth at Apolonius fâb Tharsea, yr hwn oedd yr amser hwnnw yn llywodraethwr Coelosyria a Phenicia,

6Ac a fynegodd iddo fôd tryssordŷ Ierusalem yn llawn o ariā annifeiriol, y rhai ni pher­thynent i wenidogaeth yr ebyrth, a bod yn bossibl y galle y rhain ddyfod i ddwylo ’r brenin.

7Wedi ymgyfarfod o Apolonius a’r brenin efe a fynegodd iddo am yr arian a ddangosasid iddo: yntef a etholodd Heliodorus golygwr ei dryssordŷ, ac ai danfonodd â gorchymyn ganddo, i gyrchu ’r arian y rhai y dywedwyd am danynt o’r blaen.

8Am hynny Heliodorus yn y man a osododd i lawr ei daith, yn rhith myned i ymweled a dinasoedd Coelosyria a Phenicia, ond ai feddwl ar gyflawni arfaeth y brenin.

9Yn ôl dyfod o honaw i Ierusalem, ai dderbyn yn groesawus gan archoffeiriad y ddinas, efe a draethodd beth a ddangosasid iddo ac a fynegodd pa ham y daethe efe yno, ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wîr.

10Yna yr arch-offeiriad a ddangosodd iddo fod yno arian y gweddwon a’r ymddifaid,

11A rhai yn eiddo Hyrcanus mab Tobias, gwr ardderchog lawn ac nid fel y cam-ddywedase Simon y annuwiol hwnnw, a bôd y cwbl yn bedwarcant talent ô arian, a dau cant ô aur.

12Ac nad ydoedd bossibl gwneuthur y cam hwnnw i’r rhai a gredasent i sancteiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd, a difrycheulyd grefydd y Deml, yr hon oedd anrhydeddus drwy ’r holl fŷd.

13Ond Heliodorus, o herwydd gorchymynnion y brenin y rhai oeddynt ganddo a ddywedodd yn hollawl y bydde raid dwyn hyn i dryssordŷ ’r brenin.

14Ac wedi gosod dydd efe a aeth i mewn ar fedr yn ôl eu gweled, gymmeryd trefn am danynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.

15A’r offeiriaid a syrthiasant i lawr ger brō yr allor yn eu gwiscoedd sanctaidd, ac a alwasāt tu a’r nef ar yr hwn a roese gyfraith am y tryssor sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i’r rhai ai rhoddase yno iw gadw.

16A’r nêb a edryche ar wynebpryd yr arch-offeiriad a ddolurient yn eu calonnau: canys ei wynebpryd a newidiad ei liw oedd yn dangos cyfyngder ei galon.

17Canys rhyw ofn a dychryn corph a am­gylchodd y gŵr hwnnw, fel y bydde eglur i’r rhai a edrychent arno y dolur oedd yn ei galon.

18Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan oi tai i wneuthur gweddi gyfredin o herwydd bôd y lle ar ddyfod i ddirmig.

19Y gwragedd hefyd wedi ymwregysu â llieinsach dan ei bronnau, a lanwent yr ystrydoedd, a’r gweryfon y rhai a gaêsid i mewn a rêdent rhai i’r pyrth a rhai i’r caerau, a rhai eraill a edrychent allan drwy ’r ffenestri.

20A phawb o honynt yn codi eu dwylo i’r nef, ac yn gweddio.

21Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr ô bob mâth: a disgwiliad yr arch-offeiriad yn ei fawr ofid.

22Am hynny y rhai hyn a alwasent ar yr holl alluog Arglwydd, ar iddo gadw y tryssor sanctaidd yn gyfan ac yn siccr i’r rhai a gredasent eu rhoddi yno.

23Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethase efe: eithr fel yr oedd efe etto yn bresennol gyd ai sawdwyr wrth y trys­sordŷ,

24Efe ’r hwn yw Arglwydd yr ysprydion a phen pôb gallu, a wnaeth ryfeddod mawr yn gymeint ac i bawb a feiddient ddyfod gyd ag ef, aruthro nerth rhinwedd Duw, a syrthio mewn llesmeirieu a dychryn.

25Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisc hardd o’r ôref, ac arno farchogwr ofnadwy, ac a rêdodd yn egniol, ac a darawodd Heliodorus â’i garnau blaen, a’r hwn oedd yn eistedd arno a dybbid fod ganddo arfau ô aur.

26Hefyd fe a ymddangosodd ger e fron ef ddau wr ieuaingc eraill, nodedig ô nerth, rha­gorawl ô brŷd, a hardd eu dillad yn sefyll o bôb tu iddo, ac yn ffrewyllu y rhai oeddynt yn sefyll o bob tu.

27Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymmwth, ac wedi ei amgylchu â thywy­llwch mawr, ei ai cipiasant ef, ac ai gosodasant mewn êlor feirch.

28Efe ’r hwn a ddaethe ychydig o’r blaen i mewn i’r tryssordŷ ’r hwn y dywedyd am dano o’r blaen a thyrfa fawr ac ai hôll gard gyd ag ef efe meddaf yr hwn ni alle gael dim cymmorth gan ei arfau, a ddygasant hwy allan:

29Yn cydnabod yn amlwg alluog nerth Duw: ond yr oedd efe yn fud drwy waith Duw, ac yn gorwedd wedi ei ddiddymmu oi holl obaith am ei iechyd.

30Hwythau a foliannasant yr Arglwydd yr hwn a ogoneddase ei le ei hunan: a’r Deml honno yr hon oedd ychydig o’r blaen yn llawn o ofn a therfysc, (pan ymddangosodd yr holl alluog Arglwydd) a lanwyd â llawenydd, ac â gorfoledd.

31Ond yn y man rhai o gyfnesaf Heliodorus a attolygasant i Onias weddio ar y Goruchaf, ar iddo ganiadu yn rasusol enioes iddo ef yr hwn oedd yn gorwedd yn agos i farw.

32Yna yr arch-offeiriad yn ofni rhag i’r brenin dybied i’r Iddewon wneuthur rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymmodd am iechyd y gwr hwnnw.

33Ac yn ôl i’r arch-offeiriad weddio ar Dduw, yr vnrhyw wyr ieuaingc yn yr vnrhyw ddillad a ymddangosasant trachefn i Heliodorus, a chau sefyll a ddywedasant, dyro fawr ddiolch i Onias yr arch-offeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr Arglwydd i ti dy enioes.

34Tithe hefyd wedi dy guro o’r nefoedd, mynega i bawb alluocaf nerth Duw: ac yn ôl dywedyd hyn hwy a ddifannasant.

35Heliodorus hefyd (wedi iddo offrymmu aberch i’r Arglwydd, a gwneuthur mawr addunedau i’r hwn a ganhiadase iddo ei hoedl, ac wedi iddo ddiolch i Onias) â ddychwelodd, efe ai lu at y brenin.

36Gan destiolaethu i bawb weithredoedd mawrion Duw, y rhai a welse efe ai lygaid.

37Hefyd pan ofynnodd y brenin i Heliodorus pwy oedd gymhesur iw ddanfon vnwaith drachefn i Ierusalem, efe a ddywedodd,

38Od oes gennit vn gelyn, ne vn bradwr, danfon hwn yno, ac ti ai derbynni wedi ei ffrewyllu os diangc rhag colli ei hoedl, oblegit yn y man hwnnw y mae rhyw allu Duw.

39Canys yr hwn sydd ganddo bresswylfa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynnorthwywr i’r lle hwnnw, yr hwn sydd yn curo ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i wneuthur niwed iddo.

40Hyn a fu am Heliodorus, a chadwedigaeth y trysorfa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help