1A phan heneiddiodd Samuel, yna y gosododd efe ei feibion yn farnwŷr ar Israel.
2A henw ei fab cyntafanedic ef oedd 1.Cron.6.28.Ioel, ac enw yr ail Abiah farnwŷr yn Beerseba.
3Ai feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troasant ar ôl cybydd-dra, a Deut.16.19.chymmerasant obrwy, a gŵyrasant farn.
4Yna holl henuriaid Israel a ymgasclasant, ac a ddaethant at Samuel i Ramah,
5Dywedasant hefyd wrtho ef, wele ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiasant yn dy ffyrdd di: Osea 13.10.|HOS 13:10. act.13.21.yn awr gosot arnom ni frenin i’n barnu ni megis yr holl genhedloedd
6A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddiodd at yr Arglwydd.
7A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, gwrando ar lef y bobl yn yr hyn oll a ddywedāt wrthit: canys nid ti y maent yn ei ddirmygu onid myfi a ddirmygasant rhac teyrnasu arnynt.
8Yn ôl yr holl weithredoedd y rhai a wnaethant o’r dydd y dugum hwynt o’r Aipht hyd y dydd hwn, ac y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr: felly y gwnaethant hwy hefyd i ti.
9Ac yn awr gwrando ar eu llais hwynt, etto gan destiolaethu testiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin yr hwn a deyrnasa arnynt.
10Felly Samuel a fynegodd holl eiriau’r Arglwydd wrth y bobl y rhai oeddynt yn ceisio brenin ganddo ef.
11Ac efe a ddywedodd, dymma ddull y brenin yr hwn a deyrnasa arnoch chwi: efe a gymmer eich meibion, ac ai gesyd iddo yn ei gerbydau, ac ym mysc ei wŷr meirch, i redeg o flaen ei gerbydau ef:
12Ac gesyd iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion dec a deugain, ac i aredic ei âr ef, ac i fedi ei gynhaiaf ef, ac i wneuthur arfau ei ryfel ef, a pheiriannau ei gerbydau.
13A’ch merched a gymmer ef yn Apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.
14Efe a gymmer hefyd eich meusydd a’ch gwinllannoedd, a’ch olew lannoedd goref, ac ai dyru iw weision.
15Eich hadau hefyd, a’ch gwin-llannoedd a ddegymma efe, ac ai dyru iw stafellyddion, ac iw weision.
16Eich gweision hefyd, a’ch morwynion, eich gwŷr ieuaingc goref hefyd, a’ch assynnod, a gymmer efe, ac gesyd iw waith.
17Eich defaid hefyd a ddegymma efe, chwitheu hefyd fyddwch yn weision iddo ef.
18A’r dydd hwnnw y gwaeddwch rhac eich brenin yr hwn a ddewisasoch i chwi: ac nid ettyb yr Arglwydd chwi yn y dydd hwnnw.
19Er hynny y bobl a wrthodasant wrando ar lais Samuel, ac a ddywedasant, nid eithr brenin fydd arnom ni.
20A byddwn ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd a’n brenin a’n barna ni, efe a aiff allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.
21A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac ai hadroddodd hwynt lle y clybu’r Arglwydd.
22Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, gwrando ar eu llef hwynt, a gosot frenin arnynt: a dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, ewch bob vn iw ddinas ei hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.