1Cerwch1.Bren.3.3. Esa.56.1.gyfiawnder y rhai ydych yn barnu y ddaiar, ystyriwch o’r Arglwydd yn ddaionus, a cheiswch ef mewn puredd calon.
2 Deut.4.29. 1.Cron.15.4. O blegit efe a geir gan y rhai ni themptiant ef, ac a ymddengys i’r rhai ni anghredant iddo ef.
3Meddyliau trofaus a ddidolant oddi wrth Dduw: eithr rhinwedd brofedic a gerydda yr ynfydion.
4O herwydd nid aiff doethineb i galon ddrygionus, ac ni chyfannedda hi mewn corph caeth i bechod.
5O blegitIer.4.22.sanctaidd yspryt addysc a ffŷ oddi wrth dŵyll, ac a ymedu â meddyliau angall, ac a gystuddir lle y delo anwiredd.
6Canys yspryt yn caru dŷn yw doethineb, ac ni weryd hi yr hwn a gablo ai wefusau, Gal.5.22o blegit Duw sydd dŷst oi feddyliau ef, ac yn wir oolygudd ei galon ef, ac yn gwrando ei ymadroddion ef.
7Yspryt yr Arglwydd a lanwodd y bŷd, a’r hwn sydd yn cynnal pob peth pie adnabod lleferydd.
8Am hynny ni chaiff yr hwn a ddywedo bethau anghyfiawn lechu, ac nid aiff y farn a gospo heibio iddo. ef.
9O blegit fe a geisir meddyliau yr annuwiol allan, a’r Arglwydd a gaiff glywed ei eiriau ef, i gospi ei anwireddau ef.
10Canys clust eiddigus sydd yn clywed y cwbl, fel na byddosŵn grwgnach yn guddiedic
11Ymgedwch am hynny rhac grwgnach di-fudd, ac arbedwch enllibio a’ch tafod: o herwydd nid aiff ymadrodd dirgel yn ofer, a’r genau a ddywedo gelwydd sydd yn lladd yr enai.
12Na chefigennwch am farwolaeth yn amryfusedd eich enioes, ac na thynnwchDeut.4.23.ddinistr a gweithredoedd eich dwylo.
13O blegit ni wnaeth Duw farwolaeth, Ezec.18.23. & 33.11.ac nid digrif gan̄ddo ddinistr y byw.
14Canys efe a wnaeth bob peth i fod, a chenhedlaethau y bŷd yn iachol heb fod meddiginiaeth ddinistriol ynddynt, na brenhiniaeth vffern yn y ddaiar.
15Anfarwol hefyd yw cyfiawnder.
16A’r rhai annuwiol ai cyrchasant hi ai dwylo, ac ai hymadrodd: gan dybied ei bôd hi yn garedic y dihoenasant hwy, ac hwy a wnaethant gyfammod â hi, am eu bôd yn haeddu bod yn gyfrannogion o honi hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
