1Felly yn y deuddecfed mis (hwnnw mîs Adar) ar y trydydd dydd ar ddêc o honaw ef, pan nessaodd gair y brenin ai orchymyn ef iw cwplau: yn yr hwn ddydd y tybiase gelynnion yr Iddewon fuddugoliaethu arnynt, ond yn y gwrthwyneb i hynny canys hwynt hwy yr Iddewon a arglwyddiaethasant ar eu caseion.
2Yr Iddewon a ymgynnullasant iw dinasoedd eu hun, drwy holl dalaithau y brenin Ahasferus, i estynn llaw yn erbyn y rhai oddynt yn ceisio niwed iddynt: ond ni safodd neb yn eu hwynebau, canys eu harswyd a syrthiase ar yr holl bobloedd.
3A holl dywysogion y talaithau, y pendefigion hefyd a’r dugiaid, a’r rhai oeddynt yn gwneuthur y gwaith yr hwn eiddo’r brenin oeddynt yn derchafu yr Iddewon, canys arswyd Mordocêus a syrthiase arnynt hwy.
4Canys mawr Mordocêus yn nhŷ’r brenin, ai glôd ef oedd yn myned drwy’r holl dalaithau: o herwydd y gŵr Mordocêus oedd yn myned rhagddo, ac yn cynnyddu.
5Felly’r Iddewon a darawsant eu holl elynnion â dyrnodiau y cleddyf, lladdedigaeth hefyd a destruw: a gwnaethant iw caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.
6Ac yn Susan y brenhin-lys, yr Iddewon a laddasant, ac a ddifethasant bum cant o wŷr.
7Parsandatha hefyd, a Dalphon, ac Aspatha.
8Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha.
9Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Faiezatha.
10Deng-mab Haman fab Hammedatha gwrthwyneb-ŵr yr Iddewon a laddasant hwy: ond nid estynnasant eu llaw ar yr anrhaith.
11Y dwthwn hwnnw y daeth nifer y lladdedigion i Susan y brenhin-dŷ ger bron y brenin.
12A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, yr Iddewon a laddasant, ac a ddifethasant yn Susan y brenhin-lys bum cant o wŷr a deng-mab Haman, yn y rhan arall o dalaithau y brenin beth a wnaethant beth gan hynny dy ddymuniad, ac fe a roddir it? a pheth dy ddeisyfiad mwyach ac fe ai gwneir?
13Yna y dywedodd Esther, o rhyglydda bodd i’r brenin, caniadhaer y foru i’r Iddewon y rhai yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddyw: a chrogant ddeng-mab Haman ar y pren.
14A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwyntau a grogasant ddeng-mab Haman.
15Felly’r Iddewon y rhai yn Susan a ymgynnullasant ar y pedwerydd dydd ar ddêc o fis Adar, ac a laddasant drychant o wŷr yn Susan: ond nid estynnasant eu llaw ar yr yspail.
16A’r rhann arall o’r Iddewon y rhai yn nhalaithau y brenin a ymgasclasant,* ac a safasant am eu henioes, a chawsant Ionyddwch gan eu gelynnion, lladdasant hefyd bymtheng-mîl a thri vgain oi caseion: ond nid estynnasant eu llaw ar yr anrhaith.
17Ar y trydydd dydd ar ddec o fîs Adar ac ar y pedwerydd ar ddec o honaw ef y gorphywysasant, ac y cynhaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.
18Ond yr Iddewon y rhai yn Susan a ymgynnullasant ar y trydydd ar ddêc o honaw ef, ac ar y pedwerydd ar ddec o honaw: ar y pymthecfed hefyd o honaw ef y gorphywysasant, a chynhaliasant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.
19Am hynny Iddewon y pentrefydd y rhai oeddynt yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau oeddynt yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddêc o’r mîs Adar mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus: a phawb yn anfon rhoddion iw gilydd.
20A Mordocêus a scrifennodd y geiriau hyn: ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon y rhaidrwy holl dalaithau y brenin Ahasferus yn agos ac ym mhell,
21Gan ordeinio iddynt hwy fod yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddec o fis Adar a’r pymthecfed dydd o honaw, bob blwyddyn.
22Yn ôl y dyddiau yn y rhai y cawse yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynnion, a’r mîs yr hwn a ddychwelase iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd, a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion iw gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.
23A’r Iddewon a gymmerasant arnynt yr hyn a ddechreuasent ei wneuthur: a’r hyn a scrifennodd Mordecêus attynt,
24Canys Haman mab Hāmedatha’r Agagiad gwrthwyneb-ŵr yr holl Iddewon a arfaethase yn erbyn yr Iddewon am eu difetha hwynt: ac efe a fwriase Pwr (hwnnw y coelbren) iw dinistrio hwynt, ac iw difetha.
25A phan ddaeth hi o flaen y brenin, efe a archodd drwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon ar ei benn ei hun: ai grogi ef ai feibion ar y pren.
26Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim ar enw y Pwr, o herwydd holl eiriau y llythr hwnnw: ac y peth a welsent hwy am hynny, a’r peth a ddigwyddase iddynt.
27Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymmerasant arnynt, ac ar eu hâd, ac ar yr holl rai oeddynt yn vn a hwynt na phallid fod yn cynnal y ddau ddydd hynny yn ôl eu scrifen hwynt, ac yn ôl eu tymmor, bob blwyddyn,
28Ac y dyddiau hynny iw cofio, ac iw cynnal drwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith hefyd, a phob dinas: sef na phalle y dyddiau Pwrim hynny o fysc yr Iddewon, ac na ddarfydde eu coffadwriaeth hwynt o blith eu hâd.
29Ac Esther y frenhines merch Abihail a scrifennodd, a Mordocêus yr Iddew drwy eu holl rymm: i siccrhau llythr y Pwrim hynny yr ail waith.
30Ac efe a anfonodd lythŷrau at yr holl Iddewon drwy y cant a’r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, a geiriau heddwch a gwirionedd,
31I siccrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniase Mordocêus yr Iddew, ac Esther y frenhines iddynt hwy, ac fel y cadarnhausent trostynt eu hun, a thros eu hâd eiriau yr ymprydiau, ai gweddi.
32Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y Pwrim hynny: ac scrifennwyd mewn llyfr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.