Ioel 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Prophwydo y mae efe ddyfodiad gelynnion aruthrol. 13 Cyngor i edifarhau. 18 Cariad Duw iw bobl.

1Cenwch yr vdcyrn yn Sion, ac vdcenwch ar fynydd fy sancteiddrwydd: dychryned holl bresswyl-wŷr y wlâd, am ddyfod dydd yr Arglwydd, canys y mae yn agos.

2Diwrnod tywyll dû, diwrnod cwmmyloc, a niwloc, fel y wawr wedi ymwascaru ar y mynyddoedd: felly pobl lawer a chryfion ni bû ei fâth ei ioed, ac ni bydd ei waith ar ei ôl hyd byth.

3Oi flaen y difa y tân, ac ar ei ôl y fflam,’r wlad oi flaen fel gardd baradwys, ac ar ei ôl yn ddiffaethwch anrhaithiedic: a hefyd ni ddiangc dim ganddo.

4Yr olwg ef megis golwg o feirch, ac fel marchogion, felly y rhodant.

5Megis sŵn cerbydau ar bennau y mynyddoedd y llammant, fel sŵn-tân yssol yn difa y sofl, fel pobl gryfion parot i ryfel.

6Oi flaen yr ofna y bobl, Nahum.2.10.pob wyneb a gascl barddu.

7Rhedant fel glewon, a dringant y mûr fel rhyfelwŷr, cerddant pob vn yn ei ffordd ei hun, ac ni rwystrant eu llwybrau.

8Ni wascant y naill y llall, cerddant bob vn ei lwybr ei hun: ac er eu syrthio ar y cleddyf ni’s archollir hwynt.

9Gwibiant ar hŷd y ddinas, rhedant ar y mûr dringant i’r tai, deuant trwy’r ffenestri fel lleidr.

10 Esai.13.10.|ISA 13:10. Ezec.32.7. Math.24.29. Ioel.2.31. Oi flaen ef y crŷn y ddaiar, y nefoedd a gyffroir, yr haul a’r lleuad a dywyllir, a’r sêr a gasclant eu llewyrch

11A’r Arglwydd a rydd ei lêf o flaen ei lû, canys mawr odieth yw ei werssyll ef, canys cryf yw’r hwn sydd yn gwneuthur ei air-ef Ierem.30.7.|JER 30:7. Amos 5.18.|AMO 5:18. Sephon.1.15.o herwydd mawr yw dydd yr Arglwydd, ac ofnadwy iawn: a phwy ai herys?

12Ond yr awr hon medd yr Arglwydd, dychwelwch attafi a’ch holl galon, mewn ympryd, mewn ŵylofain, ac mewn galar.

13A rhwygwch eich calonnau, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn, a thrugarog efe, hwyrfrydic i ddigofaint, ac aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg,

14Pwy a ŵyr a drŷ efe, ac edifarhau, a gweddillo bendith ar ei ôl, bwyd offrwm, a diod offrwm i’r Arglwydd eich Duw chwi?

15Cenwch vdcorn yn Sion, gosodwch ympryd, gelwch y gynnulleidfa.

16Cesclwch bobl, gosodwch gymanfa, cynhullwch henuriaid, cesclwch blant, a’r rhai yn sugno bronnau: deued y priod-fab allan oi stafell, a’r briod-ferch allan o stafell ei gwely.

17Wyled yr offeiriaid gwenidogion yr Arglwydd rhwng y porth a’r allor, a dywedant: arbed dy bobl ô Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o’r bobloedd arnynt: Psal.79.10.pa ham y dywedant ym mhlith y bobloedd, pa le eu Duw hwynt?

18Yna’r Arglwydd a eiddiga am ei dîr, ac a arbed ei bobl.

19A’r Arglwydd a ettyb, ac a ddywed wrth ei bobl: wele fi yn anfon i chwi yd, a gwîn, ac olew, a diwellir chwi o honaw ef, ac ni roddaf chwi mwyach yn wradwydd ym mysc y cenhedloedd.

20Bwriaf yn bell oddi wrthych y gogledd a gyrraf ef i dir sych diffaeth, ei wyneb tua môr y dwyrain, ai tua’r môr eithaf, ei ddrewi a gyfyd, ai ddrwg sawr a ddring, am iddo wneuthur mawrhydru.

21Nac ofna di ddaiar, ymddigrifa, a llawenycha, canys yr Arglwydd a wnaeth fawredd.

22Nac ofnwch anifeiliaid y maes, am darddu porfeudd yr anialwch: canys y prenn a ddug ei ffrwyth, y ffigus-bren, a’r win-wydden a roddasant eu cnwd.

23Plant Sion, ymddigrifwch, ac ymlawenhewch yn yr Arglwydd eich Duw: canys Lefit.26.4. Deut.11.14.efe a roddes i chwi gynhar-law cyfiawnder, ac a wnaeth i’r cynhar-law, a’r diweddarlaw ddescyn i chwi yn y cyntaf.

24A’r scuboriau a lenwir, o ŷd, a’r gwîn newydd a’r olew a aiff tros y gwryfau.

25A mi a dâlaf i chwi y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn, pryf y rhwd, y Locûst, a’r lindis, fy llu mawr mau fi yr hwn a anfonais yn eich plith.

26Yna y bwyttewch, gan fwytta, ac ymddigoni: a moliennwch enw’r Arglwydd eich Duw, ’r hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd, ac ni wradwyddir fy mhobl byth.

27A chewch ŵybod mai ym-mysc Israel fi, ac mai myfi yr Arglwydd eich Duw, ac nid arall: a’m pobl ni’s gwradwyddir byth.

28A bydd ar ôl hyn Esai.44.3.y tywalltaf fy Yspryd ar bob cnawd, a’ch meibion, a’ch merched a brophwydant, eich henuriaid a welant freuddwydion, a’ch gwŷr ieuaingc a welant weledigaethau

29Ac ar weision hefyd a morwynion y tywalltaf fy Yspryd yn y dyddiau hynny.

30A rhoddaf ryfeddodau yn y nefoedd, ac yn y ddaiar, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.

31 Esay 13.10.|ISA 13:10. Ioel.2.10. Yr haul a droir i dywyllwch, a’r lleuad i waed, o flaen dyfod mawr, ac ofnadwy ddydd yr Arglwydd.

32A bydd yr achubir pob vn a alwo ar enw’r Arglwydd: canys bydd ymwared fel y dywedodd yr Arglwydd ym mynydd Sion, ac yn Ierusalem: ac yn y gweddillion a alwo’r Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help