Iosuah 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.Rhanniad tîr Canaan rhwng llwythau Israel. 14 Rhan y Lefiaid. 22 Dihenydd Balaam.

1Pan heneiddiodd Iosuah phwyso o honaw mewn oedran: yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, ty di a heneiddiaist, daethost i ddyddiau a thîr lawer iawn a adawyd iw orescyn.

2Dymma y wlâd yr hon a adawyd: holl orwledydd y Philistiaid, a holl Gessuri.

3O’r Sihor yr hon ar hŷd wyneb yr Aipht hyd derfyn Ecceron tua’r gogledd a gyfrifir i’r Canaaneaid: pum tywysog, y Philistiaid yr Azzathiaid, a’r Asdodiaid yr Esceloniaid y Githiaid, yr Ecceroniaid a’r Hefiaid.

4O du’r dehau holl wlâd y Canaaneaid a’r ogof yr hon ym mysc y Sidoniaid hyd Aphec hyd terfyn yr Amoriaid.

5A gwlâd y Gibeliaid, a holl Libanus tua chyfodiad yr haul o Baal Gad tann fynydd Hermon: nes dyfod i Hemath.

6Holl bresswylwyr y mynydd o Libanus hyd Pen.11.8Misrephotmaim a’r holl Sidoniaid myfi ai gorescynnaf hwynt o flaen meibion Israel: yn vnic rhanna hi i Israel yn etifeddiaeth fel y gorchymynnais i ti.

7Ac yn awr rhanna y wlâd hon yn etifeddiaeth i’r naw llwyth hynn: ac i hanner llwyth Manasses.

8Y Rubenniaid hefyd ar Gadiaid a gymmerasanteu eu etifeddiaeth gyd Num.32.33.a hi: yr hon a roddodd Moses iddynt hwy o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain fel y rhoddase Moses gwâs yr Arglwydd iddynt.

9O Aroer yr hon ar fin afon Arnon a’r ddinas yr hon yng-hanol y dyffryn, a holl wastadedd Medebah hyd Dibon.

10A holl ddinasoedd Sehon brenin yr Amoriaid yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon: hyd ardal meibion Ammon.

11Gilead hefyd, a therfyn y Gesuriaid y Maachiaid hefyd a holl fynydd Hermon a holl Iacson hyd Salcah.

12Holl frenhiniaeth Og yn Basan, yr hwn a deyrnasodd vn Astaroth, ac yn Edrai: efe a adawyd Deut.3.11. pen.12.4.o weddill y cawri, canys Moses ai tarawsse hwynt, ac ai gorescynnase.

13Ond meibion Israel ni orescynnasant y Gessuriaid na’r Maachiaid; eithr trigodd y Gessuriaid, a’r Maachiaid ym mhlith Israel hyd y dydd hwn.

14Yn vnic i lwyth Lefi Num.18.28ni roddodd efe etifeddiaeth: aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarase efe wrtho.

15A Moses a roddase i lwyth meibion Ruben drwy eu teuluoedd.

16Ai terfyn hwynt oedd o Aroer yr hon ar fîn afon Arnon, a’r ddinas yr hon yng-hanol y dyffryn a’r holl wastadedd hyd Medeba.

17Hesbon hefyd ai holl ddinasoedd y rhai yn y gwastadedd: Dibon a Bamoth Baal, a Beth baal Meon.

18Iahaza hefyd a Chedemoth, a Mephaah.

19Ciriathaim hefyd a Sibmah a Sereth Sahar ym mynydd-dir y glynn.

20Beth-Peor hefyd, a bronnydd y brynn, Deut.3.17.a Beth Iesimoth.

21A holl ddinasodd y gwastadedd, a holl frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid yr hwn a deyrnasodd yn Hesbon: yr hwn a ddarfuase i Moses ei daro, a Num.31.8.thywysogion Midian, Esi, a Recem, Zur hefyd, a Hur, a Rebah, pendefigion Sehon oeddynt yn presswylio y wlâd.

22Balaam hefyd fab Beor y dewin a laddodd meibion Israel a’r cleddyf gyd ai lladdedigion hwynt.

23A therfyn meibion Ruben oedd yr Iorddonen ai therfyn: dymma etifeddiaeth meibion Ruben yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd, ai trefi.

24Moses hefyd a roddodd i lwyth Gad i feibion Gad drwy eu teuluoedd.

25Ac Iazer oedd derfyn iddynt hwy, a holl ddinasoedd Gilead, a hanner gwlâd meibion Ammon: hyd Aroer yr hon ar gyfer Rabbah.

26Ac o Hesbon hyd Ramath, Mispah, a Betonim: ac o Mahanann hyd gyffinid Dabir.

27Ac yn nyffryn Betharam, a Bethnimrah Succoth hefyd a Saphon gweddill brenhiniaeth Sehon, breum Hesbon, yr Iorddonen ai therfyn: hyd gwrr mor Ceneroth o’r tu hwnt i’r Iorddonen o du’r dwyrain.

28Dymma etifeddiaeth meibion Gad yn ôl eu teuluoedd: y dinasoedd ai trefydd.

29Moses hefyd a roddodd i hanner llwyth Manasses: a bu i hanner llwyth meibion Manasses yn ôl eu teuluoedd.

30Ai terfyn hwynt oedd o Mahanaim holl Basan, holl frenhiniaeth Og brenin Basan tri vgain nhinas.

31A hanner Gilead, ac Astaroth, ac Edrai dinasoedd brenhiniaeth Og yn Basan i feibion Machir mab Manasses, dros hanner meibion Machir yn ôl eu teuluoedd.

32Dymma y rhai a roddodd Moses iw etifeddu yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen ag Iericho o du’r dwyrain.

33Ond Iosu.18.7.i lwyth Lefi ni roddodd Moses etifeddiaeth: Arglwydd Dduw Israel yw eu hetifeddiaeth hwynt fel Num.18.20.y llefarodd efe wrthynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help