1Pedair mil ar hugain bob dosparthiad o feibion Israel dann eu rhif, yn bennau cenedl, ac yn dywysogion miloedd, a chantoedd, ai swyddogion yn gwasanaethu’r brenin ym mhob achos dosparthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, mis yn ei fis, drwy holl fisoedd y flwyddyn.
2Ar y dosparthiad cyntaf yn y mîs cyntaf Iasobeam mab Zabdiel: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
3O feibion Pharez y pennaf, a holl dywysogion y lluoedd tros y mis cyntaf.
4Ac ar ddosparthiad’r ail mis Dodai’r Ahohiad ai ddosparthiad ef, a Micloth yn gapten, ac yn ei ddosparthiad ef bedair mil ar hugain.
5Tywysog y tryddydd llu tros y trydydd mis Benaiahu mab Iehoiada yr offeiriad pennaf: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
6Y Benaiahu hwn gadarn 2.Sam.23.20|2SA 23:20 & 22.23.y dêc ar hugain, ac oddi ar y dêc ar hugain: ac yn i ddosparthiad ef Amizabad ei fab ef.
7Y pedwerydd dros y pedwerydd mîs Asahel brawd Ioab, a Zabadia ei fab yn ei ôl ef: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
8Y pummed dros y pummed mis dywysog Samhut yr Izrahiad, ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
9Y chweched dros y chweched mis Ira mab Iccas y Thecoad: ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.
10Y seithfed dros y seithfed mis Helez y Peloniad o feibion Ephraim: ac yn i ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.
11Yr ŵythfed dros yr ŵythfed mis Sibbecai’r Husathiad, o’r Zarhiaid: ac yn ei ddosparthiad ef, pedair mil ar hugain.
12Y nawfed tros y nawfed mis Abiezer yr Anathothiad o’r Beniaminiaid: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
13Y decfed dros y decfed mis Maharai y Netophathiad o’r Zarahiaid: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
14Yr vnfed ar ddêc dros yr vnfed mis ar ddec Banaia y Parathoniad o feibion Ephraim: ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
15Y deuddecfed dros y deuddecfed mis Heldai y Netophathiad o Othniel, ac yn ei ddosparthiad ef pedair mil ar hugain.
16Ac ar lwythau Israel, ar y Rubeniaid, Eliezer mab Zichri dywysog: ar y Simeoniaid, Sephariah mab Maacha.
17Ar y Lefiaid Hasabia mab Cemuel: ar yr Haaroniaid Zadoc.
18Ar Iuda Elihu o frodyr Dafydd: ar Issachar Omri mab Michael.
19Ar Zabulon Iesmaiahu mab Obadiahu: ar Nephthali Ierimoth mab Azriel.
20Ar feibion Ephraim Hosea mab Azazia: ar hanner llwyth Manasses, Ioel mab Pedaiahu.
21Ar yr hanner i lwyth Manasses yn Gilead, Ido mab Zachariahu: ar Beniamin Iaasiel mab Abner.
22Ar Dan Azarel mab Iehoram: dymma dywysogion llwythau Israel.
23Ond ni chymmerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab vgain mlwyd ac isod, canys dywedodd yr Arglwydd am amlhau Israel megis sêr y nefoedd.
24 1.Cron.21.7. Ioab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif ond ni orphennodd efe, am fod o achos hyn lidiawgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ym mysc cyfrifon Cronicl y brenin Dafydd.
25Ac ar dryssorau y brenin Azmaseth mab Adiel, ac ar y tryssorau yn y maes, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau Iehonathan mab Uzzia.
26Ac ar weith-wŷr y maes yn llafurio’r ddaiar Ezri mab Celub.
27Ac ar y gwinllannoedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn yn y gwinllannoedd, ac yn y selêrau gwîn Sabei y Siphmiad.
28Ac ar yr oliwŷdd, ar Sicomor-wŷdd y rhai yn y dyffrynnoedd yr Baal hanan y Gederiad: ac ar y selerau olew Ioas.
29Ac ar yr ŷchen pascedic yn Saron Setrai y Saroniad: ac ar yr ŷchen yn y dyffrynnoedd Saphar mab Adlai.
30Ac ar y camêlod Obil yr Ismaeliad, ac ar yr assynnod Iediah y Meronothiad.
31Ac ar y defaid Iaziz yr Hageriad, y rhai hyn oll dywysogion y golud yr hwn eiddo y brenin Dafydd.
32Ac Iehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr deallgar, ac scrifennudd: Iehiel hefyd mab Hachmoni gyd a meibion y brenin.
33Ac Ahitophel gynghorwr y brenin, a Hussai’r Arciad gyfell y brenin.
34Ac ar ôl Ahitophel Iehoiada mab Benaiahu, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin Ioab.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.