1Ac dymma y gorchymyn, y deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd eich Duw ddyscu i chwi gwneuthur yn y wlâd, yr hon yr ydych yn myned iddi iw gorescyn,
2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, ai orchymynnion ef, y rhai yr wyfi yn eu gorchymyn i ti: ti, a’th, fab, a mab dy fab, holl dyddiau dy enioes, fel yr estynner dy ddyddiau.
3Clyw gan hynny ô Israel, ac edrych am eu gwneuthur fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddir fawr, (fel yr addawodd Arglwydd dduw dy dadau i ti) mewn gwlâd yn llifeirio o laeth, a mêl.
4Clyw ô Israel yr Arglwydd ein Duw ni, vn Arglwydd.
5 Matth.22.37.|MAT 22:37. marc.12.29.|MRK 12:29. luc.10.27. Câr di gan hynny’r Arglwydd dy Dudw a’th holl galon, ac a’th holl enaid, ac a’th holl nerth.
6A bydded Deut.11.18.y geiriau hyn, y rhai’r ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon.
7Ac hyspyssa hwynt i’th blāt, a chryblwylla am danynt pan eisteddech yn dy dŷ, a phan gerddech a’r y ffordd, a phan orweddech a phan gyfodech
8A rhwym hwynt yn ar wydd a’r dy law, a byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.
9Scrifenna hwynt hefyd, a’r byst dy dŷ, ac yn dy byrth.
10Ac fe a dderfydd pan i’th ddygo’r Arglwydd dy Dduw i’r wlâd (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau di, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Iacob, ar ei rhoddi i ti)ddinasoedd mawrion, a thêg y rhai nid adailedaist,
11A rhai llawnion o bôb daioni, y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedic, y rhai nis cloddiaist, winllannoedd, ac oliwydd-lannau y rhai nis plannaist, yna y bwyttei ac i’th doigonir:
12Cadw arnat, rhac anghofio o honot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddûg allan o wlâd yr Aipht o dŷ y caethiwed.
13Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac iw enw ef y tyngi.
14Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd, y rhai o’ch amgylchoedd chwi,
15(O blegit Duw eiddigus’r Arglwydd dy Dduw yn dy fysc di) rhac i lid yr Arglwydd dy Dduw enynn yn dy dy erbyn, a’th ddifetha di, oddi ar wyneb y ddaiar.
16Na themptiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temptiasoch ym Massa.
17Gan gadw cedwch orchymynnion yr Arglwydd eich Duw ai destiolaethau ef, ai ddeddfau ef, y rhai a orchymynnodd efe i ti.
18A gwna’r hyn inion, a daionus yng-olwg yr Arglwydd, fel y byddo da i ti, a myned o honot i mewn, a gorescyn y wlâd dda, ’r hon trwy lŵ a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di.
19Gan yrru ymmaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.
20Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, beth y testiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi?
21Yna dywet wrth dy fab, buom weision i Pharao yn yr Aipht: a’r Arglwydd a’n dûg ni allan o’r Aipht, mewn llaw gadarn.
22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion, a rhyfeddodau mawrion, a niweidiol yn yr Aipht, ar Pharao, ai holl dŷ ef, yn ein golwg ni.
23Ac a’n dûg ni allan oddi yno, fel y dyge efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlâd yr hon trwy lŵ, a addawse efe i’n tadau ni.
24Yr Arglwydd gan hynny a orchymynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, gan ofni’r Arglwydd ein Duw er daioni i ni’r holl ddyddiau, fel y cadwe efe nyni yn fyw, megis y dydd hwn.
25A chyfiawnder a sydd i ni os ymgadwn i wneuthur y gorchymmyn hwn oll o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchymynnodd efe i ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.