1Yna y 1.Bren.8.12.llefarodd Salomon: yr Arglwydd a ddywedodd yr arhose efe yn y cwmwl.
2A minne a adailedais dŷ yn drigfa it: a lle i’th bresswylfod yn dragywydd.
3A’r brenin a drodd ei wyneb, ac a fendithiodd holl gynnulleidfa Israel: (canys holl gynnulleidfa Israel oedd yn sefyll
4Ac efe a ddywedodd, Bendigedic Arglwydd Dduw Israel yr hwn a lefarodd ai enau wrth Ddafydd fy nhâd: ac a gwplaodd ai ddwylaw gan ddywedyd,
5Er y dydd y dugym i fy mhobl allan o wlâd yr Aipht ni ddetholais ddinas o holl lwythau Israel i adailadu tŷ i fod fy enw ynddo: ac ni ddewisais ŵr i fod yn flaenor ar fy mhobl Israel:
6Ond mi a etholais Ierusalem i fod fy enw i yno: ac mi a ddewisais Ddafydd i fod ar fy mhobl Israel.
7Pan 2.Sam.7.5.oedd ym mryd Dafydd fy nhâd i adailadu tŷ i enw Arglwydd Dduw Israel,
8Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Ddafydd fy nhâd, o herwydd bôd yn dy feddwl di adailadu tŷ i’m henw i: dâ y gwnaethost am fod yn dy fryd di.
9Er hynny nid adailedi di y tŷ: onid dŷ fab di yr hwn a ddaw allan o’th lwynau di, efe a adailada y ty i’m henw i.
10Am hynny yr Arglwydd a gwplaodd ei air yr hwn a lefarodd efe: canys mi a gyfodais yn llê Dafydd fy nhâd, ac a eisteddais ar orseddfa Israel, fel y llefarodd yr Arglwydd, ac mi a adailedais dŷ i enw Arglwydd Dduw Israel.
11Ac yno y gosodais yr Arch yn yr hon cyfammod yr Arglwydd: yr hwn a ammododd efe a meibion Israel.
12A a safodd o flaen allor yr Arglwydd ger bron holl gynnulleidfa Israel: ac a estynnodd ei ddwylaw.
13A Salomon a wnaethe bulpud prês, ac ai gosodase yng-hanol y cyntedd, yn bump cufydd ei hyd, a phump cufydd ei lêd, a thri chufydd ei vchter: ac efe a safodd arno, ac a ostyngodd ar ei liniau ger bron holl gynnulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd.
14Ac efe a ddywedodd, ô Arglwydd Dduw Israel 2.Mac.2.8.nid Duw cyffelib i ti yn y nefoedd, nac yn y ddaiar, yn cadw y cyfammod a’r drugaredd a’th weision y rhai ydynt yn rhodio ger dy fron di ai holl galon.
15Yr hwn a gedwaist a’th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a lefaraist wrtho ef: fel y lleferaist a’th enau, felly y cwpleaist a’th law megis y dydd hwn.
16Ac yn awr ô Arglwydd Dduw Israel cadw a’th wâs Dafydd fy nhâd yr hyn a leferaist wrtho ef, gan ddywedyd: 1.Bren.8.25.ni thorrir ymmaith oddiwrthit gŵr ger sy mron i yn eistedd ar deyrn-gadair Israel: os dy feibion a gadwant eu ffordd, gan rodio yn fynghyfraith i, fel y rhodiaist ti gerfy mron i.
17Yn awr gan hynny ô Arglwydd Dduw Israel: poed gwîr fyddo dy air yr hwn a leferaist wrth dy wâs Dafydd.
18Ai gwîr yw y presswylia Duw gyd a dyn a’r y ddaiar? wele y nefoedd, 1.Bren.8.27.a nefoedd y nefoedd ni’th ymgyffredant di, pa feint lai y tŷ hwn yr hwn a adailedais i?
19Edrych gan hynny ar weddi dy wâs, ac ar ei ddeisyfiad ef ô Arglwydd fy Nuw: i wrando ar y llêf, ac ar y weddi yr hon y mae dy wâs yn ei gweddio ger dy fron di.
20Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ ymma ddydd a nôs, tua yr lle yr hwn y dywedaist y gosodit dy enw yno: i wrando ar y weddi yr hon a weddia dy wâs di yn y fan honno.
21Gwrando gan hynny ddeisyfiadau dy wâs, a’th bobl Israel y rhai a weddiant yn y lle hwn: gwrando di hefyd o lê dy bresswylfod, o’r nefoedd pan glywech, yna maddeu di.
22 1.Bren.8.31. Pan becho gŵr yn erbyn ei gymmydog, a chynnig iddo raith, gan ei dyngu ef: yna deued y llw o flaen dy allor di yn y tŷ hwn.
23A gwrando di o’r nefoedd, gwna hefyd. a barna dy weision, gan dalu i’r drygionus, drwy roddi ei ffordd ef ar ei benn: a chan gyfiwnhau y cyfiawn, drwy roddi iddo yntef yn ôl ei gyfiawnder.
24A phan leddir dy bobl Israel o flaen y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn: os dychwelant, a chyfaddef dy enw: a gweddio, ac ymbil ger dy fron di yn y tŷ hwn,
25Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddeu di bechod dy bobl Israel: dychwel hefyd hwynt i’r tîr yr hwn a roddaist iddynt hwy, ac iw tadau.
26Pan gaeir y nefoedd fel na byddo glaw o herwydd pechu o honynt hwy i’th erbyn: os gweddiant yn y lle hwn, a chyfaddef dy enw, a dychwelyd o honynt oddi wrth eu pechod pan gystuddiech hwynt,
27Yna gwrando di o’r nefoedd, a maddeu bechod dy weisiō, a’th bobl Israel (pan ddyscech iddynt y ffordd oref yr hon y rhodient ynddi) a dyro law ar dy wlâd yr hon a roddaist i’th bobl yn etifeddiaeth.
28 1.Bren.8.37. 2.Cron.20.9. Pan fyddo newyn yn y tîr, pan fyddo haint, deisiad, neu falldod, pan fyddo ceiliogod rhedyn neu locustiaid, pan warchao ei elyn arno ef yn ninasoedd ei wlâd ef: pa blâ bynnac, neu glefyd bynnac
29Pôb gweddi, pôb deisyfiad a’r a fyddo gan bôb dyn, a chan holl bobl Israel: pan wypo pawb ei blâ ei hun, ai ddolur, ac estyn ei ddwylaw tua’r tŷ hwn:
30Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy bresswylfod, a maddeu di, gwna hefyd, a dyro i bob vn yn ôl ei holl ffyrdd ef, yr hwn a adwaenost ei galon ef: canys ty di yn vnic a adwaenost galon meibion dynion:
31Fel i’th ofnant gan rodio yn dy ffyrdd di yr holl ddyddiau a’r y byddant hwy byw ar wyneb y ddaiar: yr hon a roddaist i’n tadau ni.
32Ac am y dieithr-ddyn hefyd yr hwn ni o’th bobl di Israel, onid yn dyfod o wlâd bell er mwyn dy enw mawr a’th law gadarn, a’th fraich estynnedic: pan ddeuant, a gweddio yn y tŷ hwn,
33Yna gwrando di o’r nefoedd, o fangre dy bresswylfod, a gwna yn ôl yr hyn oll a lefa y dieithr-ddyn arnat: fel yr adwaeno holl bobl y ddaiar dy enw di, i’th ofni di, fel dy bobl Israel, ac i ŵybod mai ar dy enw di y gelwir yn y tŷ ymma yr hwn a adailedais i.
34Pan êl dy bobl allan i ryfel yn erbyn eu gelynnion ar byd y ffordd yr anfonech hwynt: os gweddiant arnat ti 1.Bren.8.46.|1KI 8:46. eccle 7.21.|SIR 7:21. 1 Io.1.8.ffordd y ddinas ymma yr hon a ddetholaist, a’r tŷ yr hwn a adailedais i’th enw di,
35Yna gwrādo o’r nefoedd ar eu gweddi hwynt, ac ar eu deisyfiad hwy: a gwna farn a hwynt
36Os pechant i’th erbyn (canys nid ddyn yr hwn ni phecha) a diglloni o honot iw herbyn hwynt, ai rhoddi hwynt o flaen eu gelynnion, fel y caeth-gludant hwy yn gaethion i wlâd bell, neu agos:
37Os edifarhânt yn eu calon yn y wlâd yr hon y caeth-gludwyd hwynt iddi: a dychwelyd, ac ymbil a thi yng-wlâd eu caethiwed gan ddywedyd, pechasom, trosseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol.
38Os dychwelant attat ti ai holl galon, ac ai holl enaid yng-wlâd ei caethiwed lle y caethgludasant hwynt: a gweddio attat ti tua eu gwlâd yr hon a roddaist iw tadau, a’r ddinas’r hon a ddetholaist, a’r ty’r hwn adailadais i’th enw di:
39Yna gwrando di o’r nefoedd (o fangre dy bresswylfod) eu gweddi hwynt, ai deisyfiadau hwynt, a gwna farn a hwynt: maddeu di hefyd i’th bobl y rhai a bechasant i’th erbyn.
40Yn awr ô fy Nuw bydded dy lygaid yn agored, a’th glustiau yn ymwrando a’r weddi yr lle ymma.
41Ac Psal.132.8.yn awr cyfot ô Arglwydd Dduw i’th orphywysfa, ti ag Arch dy gadernid: dillader dy offeiriaid ô Arglwydd Dduw ag iechydwriaeth, a llawenyched dy sainct mewn daioni.
42O Arglwydd Dduw na thro ymmaith wyneb dy eneiniog: cofia drugareddau Dafydd dy wâs.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.