1Gwae’r fudr a’r halogedic ddinas orthrymmus,
2Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gosp, nid ymddyriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw.
3Ei swyddogion oi mewn yn llewod rhuadwy, Ezec.22.25,27. Mic.3.11. Habac.1.8. ei barn-wŷr yn fleiddiau yr hwyr ni adawant ascwrn erbyn y boreu.
4Ai phrophwydi yn yscafn, yn wŷr anffyddlon, ei hoffeiriaid a lygrasant y cyssegr, treisiasant y gyfraith.
5Yr Arglwydd cyfiawn yn ei chanol ni wnaiff anwiredd, yn foreu foreu y rhydd ei farn yn oleuni, ni phalla, onid yr anwir ni fedr gywilyddio.
6Drylliais y cenhedloedd eu tŷrau sydd anghyfannedd, diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio, eu dinasoedd a ddifwynwyd heb ŵr nac heb drigiannol.
7Dywedais, ofna fi, derbyn gosp, felly ei thrigfa ni ddiwreiddir er yr hyn oll a ymwelais â hi: etto boreu godasant, llygrasant eu holl weithredoedd.
8Am hynny disgwiliwch arnafi medd yr Arglwydd hyd y dydd y cyfodwyf i’r sclyfaeth, canys fy marn ar gymmell y cenhedloedd, ar gasclu y teyrnasoedd i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr yssir yr holl ddaiar.
9O herwydd yna y troaf wefusau fy mhobl yn lân fel y galwo pôb vn o honynt ar enw’r Arglwydd iw wasanaethu ef ag vn yscwydd.
10O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dŵg fyng-weddi wraig (merch fyng-wascaredic) fy offrwm.
11Y dydd hwnnw ni’th wradwyddir am dy holl weithredoedd yn y rhai y pechaist i m herbyn, canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy draha, ac ni chwanegi orfoleddu mwyach yn fy mynydd sanctaidd.
12Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw’r Arglwydd y gobeithiant.
13Gweddill Israel ni wnaiff anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd, ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus, canys hwynt a borthir, ac a orweddant, ac ni tarfudd.
14Merch Sion cân, Israel crechwenna, merch Ierusalem ymlawenycha, a gorfoledda a’th holl galon.
15Symmudodd yr Arglwydd dy farn, bwriodd allan-dy elynnion: yr Arglwydd Brenin Israel i’th blith, nac ofna ddrŵg mwyach.
16Y dydd hwnnw y dywedir wrth Ierusalem, nac ofna, Sion, na ddiffrwythed dy ddwylo.
17Yr Arglwydd dy Dduw yn dy blith yn gadarn a achub, efe a gân it mewn llawenydd, efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dann ganu.
18Wedi amser terfynedic y casclaf o honot y rhai a fuant gystuddiedic, a’r rhai a ddugasant y gwradwydd trosti hi.
19Wele mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant, ac a Mic.4.6. achubaf y gloff, a chasclaf y wascaredic, ac ai gosodaf yn glodfawr, ac yn enwoc yn holl dîr eu gwarth.
20Yr amser hwnnw’r arweiniaf chwi, a’r amser hwnnw i’ch casclaf chwi: canys rhoddaf chwi yn enwoc, ac yn glodfawr ym mysc holl bobl y bŷd, pan ddychwelwyf eich caethiwed ger eich bron, medd yr Arglwydd.
Terfyn Prophwydoliaeth Sophonia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.