Marc 15 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XV.Y Pharisæaid yn rhoddi crist i Pilat. 11 Ac yn annog y bobl i ddewis Barabbas, ac i wrthod Crist. 15 Pilat yn peri ffrewyllu Crist ai roddi i’r milwyr y rhai ai croes-hoeliasant ef gan ei gystuddio cynt a chwedi, 43 Ioseph yn ei gladdu ef.

1 Ac

27A hwynt hwy a grogasant ddau leidr gyd ag ef, vn ar y llaw ddeheu, a’r llall ar yr asswy.

28A’r scrythyr lan a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Esa. 53.12ac efe a gyfrifid gyd â rhai anwir.

29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablent ef gan escwyd eu penneu a dywedyd: Ioh.2.19 o’ch tydi yr hwn a ddinistrit y Deml, a’i adeiladu mewn tridiau,

30Gwaret di dy hun, a descyn oddi ar y groes.

31Yr vn ffunyd yr arch-offeiriaid a watworasant gan ddywedyd y naill wrth y llall, ac wrth yr scrifennyddion: ereill a achubodd efe, ac ni ddichon ei achub ei hun.

32Descynned Crist, Brenin yr Israel, yr awran oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom: y rhai a grogasid gyd ag ef a ddanodasant iddo hefyd.

33A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.

34Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd: Psal.22.2. Math.27.46.

Eloi, Eloi, lamma Sabachthani? yr hyn yw o’i gyfieithu, fy-Nuw, fy-Nuw, pa ham i’m gwrthodaist?

35A rhai o’r sefyll-wŷr, pan glywsant, a ddywedasant: wele, y mae efe yn galw ar Elias.

36Ac vn a redodd, Psal.69.22. Math.27.48. Ioh.19.29 ac a lanwodd yspwrn o finegr, ac ai dodes ar gorsen iddo i yfed: gan ddywedyd, gedwch iddo, edrychwn a ddaw Elias iw dynnu ef i lawr.

37A’r Iesu a lefodd â llef vchel, ac a ymadawodd â’r yspryd.

38A llenn y Deml a rwygodd yn ddwy, o’r pen vchaf hyd yr isaf.

39A phan welodd y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gyferbyn ag ef ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r yspryd, efe a ddywedodd: yn wir Mab Duw oedd y gŵr hwn.

40Yr oedd yno wragedd yn edrych o hirbell, ym mhlith y rhai hyn yr oedd Mair Magdalen, a Mair (mam Iaco leiaf ac Iose) a Salome.

41Y rhai hefyd pan oedd efe Luc.8.2.yn Galilæa, a’i dilynasant ef, ac a weinasant iddo, a llawer eraill, y rhai a ddaethent ar vn waith gyd ag ef i fynu i Ierusalem.

42 Math.27.57. Luc.23.50. Io.19.38. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr am ei bod hi yn ddarparŵyl, sef y dydd cyn y Sabbath,

43Y daeth Ioseph o Arimathæa cynghorwr pendefigaidd, (yr hwn oedd hefyd yn edrych am deyrnas Dduw) ac a aeth yn hyf i mewn at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu.

44A rhyfedd oedd gan Pilatus, o buase efe farw cyn gynted, ac wedi iddo alw y canwriad gofynnodd iddo, a oedd efe wedi marw eusys?

45A phan ŵybu gan y canwriad, rhoddes y corph i Ioseph.

46Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i amdôdd yn y lliain main, ac a’i rhoddes ef mewn bedd a naddasid o’r graig, ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.

47A Mair Magdalen, a Mair Iose, a edrychasant pa le y rhoddid ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help