Darn o lyfr Esther 14 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIIII.Gweddi Esther.

1Esther hefyd y frenhines, wedi i loes angeu ei dal hi, a ffôdd at yr Arglwydd:

2Ac wedi iddi hi ddiosc ei gogoneddus wisc, hi a wiscodd wisc cystudd a goler, â lludw hefyd yn lle ennaint balch y llanwodd hi ei phen, ac hi a ddarostyngodd ei chorph yn ddirfawr, ai holl fannau hyfryd a lanwod hi ai gwallt wedi ei dynnu:

3Ac hi a weddiodd at Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd:

4O fy Arglwydd, ein Brenin ni ydwyt ti yn vnic cynnorthwya fi yr hon ydwyf vnic, ac heb gynnorthwyudd gennif ond ty di: o blegit y mae yn enbyd iawn arnaf.

5Mi a glywais er pan i’m ganed ym mysc llwyth fyng-henedl, gymmeryd o honot ti (ô Arglwydd) Israel a’r holl gēhedloedd, a’n tadau ni at holl rieni hwynt yn etifeddiaeth dragywyddol, a gwneuthur o honot ti yr hyn a leferaist.

6Eithr yn awr nyni a bechasom yn dy erbyn di, a thi a’n rhoddaist yn nwylo ein gelynnion, am i ni ogoneddu eu duwiau hwynt: cyflawn ydwyt ti ô Arglwydd.

7Ac yr awran nid digon ganddynt chwerwed ein gwasanaeth, eithr hwy a darawsant ddwylo ai heulynnod ar dderchafu barn eu genau, a deleu dy etifeddiaeth di, a chaeu safn y rhai sy yn dy foliannu di, a diffoddi gogoniant dy dŷ di a’th allor, ac agoryd genau y cenhedloedd rhin weddau pethau ofer, ac i fawrygu brenin cnawdol byth.

8Naddod Arglwydd dy deyrn-wialen i’r rhai nid ydynt ac na âd iddynt chwerthin am ein cwymp ni: eithr trô eu cyngor yn eu herbyn eu hun, a difetha yr hwn a ddechreuodd arnom ni.

9Cofia Arglwydd[ac] ymddangos yn amser ein cystudd ni: cyssura fi ô Frenin y cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth, dod yn fyng­enau ymadrodd cymmwys ger bron y llew, a thro ei galon ef i gasau yr hwn sydd yn ein gwr­thwynebu, er dinistr iddo ef, ac i’r rhai sy yn debyg eu meddwl iddo yntef.

10Ie gwaret ni a’th law dy hun, a chynnor­thwya fi yr hon ydwyf vnic, ac heb gynnorthwyudd gennif ond tydi: ô Arglwydd ti a ŵy­ddost bob dim.

11Ie ti a ŵyddost mai câs gennif ogoniant y rhai anwir, a bôd yn ffiaidd gennif welŷ y rhai dienwaededig, a phob dieithr: ti a ŵyddost beth sydd rhaid i mi, a bod yn ffiaidd gennif fy ar­wydd balchder yr hwn sydd ar fy mhen ar y dy­ddiau yr ymddangoswyf: mae mor ffiaidd gennif ef a chadach mis-glwyf, ac nid ydwyf yn ei wisco ef ar y dyddiau yr ydwyf yn cael llonydd.

12[Gŵyddost]na fwytaodd dy wasana­thyddes ar fwrdd Aman, ac nad arrhydeddais wledd y brenin, ac nad yfais win offrwm, ac na lawenychodd dy lawforwyn di o’r dydd im symmudwyd hyd yr awr hon ond ynot ti ô Ar­blwydd Dduw Abraham.

13O Dduw cadarnach na neb gwrando lefain y rhai di obaith, a gwaret ni o law y drygionus, ie gwaret fi o’m hofn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help