1Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ŷch, neu ddafad yr hwn y bydd arno anaf ddim gwrthyni: canys cas-beth yr Arglwydd dy Dduw hynny.
2Pan gaffer yn dy blith di o fewn vn o’th byrth y rhai y mae’r Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi it ŵr neu wraig yr hwn a wnel drygioni yng-olwg’r Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfammod ef,
3Ac a aiff, ac a wasanaetha dduwiau dieithr, ac a ymgrymma iddynt, sef i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchymynnais.
4Pan dangoser i ti, a chlywed o honot, yna cais yn dda, ac os gwirionedd y peth sydd siccr wneuthur y ffiaidd-dra hyn yn Israel
5Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu’r wraig honno (y rhai a wnaethant y peth drygionus hyn) i’th byrth, sef y gŵr neu’r wraig: a llabyddia hwynt a meini fel y byddant feirw.
6 Num.35.30. Deut.19.15. Mat.18.16.|MAT 18:16. 2.Cor.13.1. Wrth destiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw, na rodder i farwolaeth wrth destiolaeth vn tŷst.
7Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf iw farwolaethu ef, a llaw’r holl bobl wedi hynny: 80 a thi a dynni ymmaith y drygionus o’th blith.
8Os bydd peth mewn barn yn guddiedic oddi wrthit, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng plâ a phlâ, pethau amrafaelus o fewn dy byrth: yna cyfot, a dos i fynu i’r llê yrhwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw.
9A dos at y Lefiadaidd offeiriaid, neu at y barn-ŵr yr hwn fydd yn y dyddiau hynny: ac ymofyn, a hwy a ddangosant i ti reol y gyfraith.
10A gwna ar ôl rheol y gair yr hwn a ddangosant i ti o’r lle hwnnw, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddyscant i ti.
11Ar ôl rheol y gyfraith yr hon a ddyscant it, ac yn ôl y farn yr hon a ddywedant i ti y gwnei: na chilia o’r peth yr hwn a ddangosant i ti, i’r tu dehau, nac i’r tu asswy.
12A’r gŵr yr hwn a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad yr hwn fydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barn-ŵr: yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw, a thynn ymmaith y drygioni o Israel.
13A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant: ac ni ryfygant mwy.
14Pan ddelech i’r tîr yr hwn y mae’r Arglwydd dy Dduw’n ei roddi i ti, ai orescyn, a thrigo ynddo: os dywedi gosodaf arnaf frenin megis yr holl genhedloedd y rhai o’m hamgylch:
15Gan osod, gosot arnat yn frenin yr hwn a ddewiso’r Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin, ni elli roddi arnat ŵr dieithr, yr hwn nid yw frawd i ti.
16Yn vnic nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aipht i amlhau meirch gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych, na chwanegwch ddychwelyd ar hŷd y ffordd honno mwy.
17Ac nac amlhaed iddo wragedd, ac na ŵyred ei galon: ac nac amlhaed arian, ac aur iddo lawer.
18Eithr pan eisteddo ar deyrngader ei frenhiniaeth yna scrifenned iddo goppi y gyfraith hon mewn llyfr o flaen yr offeiriaid Lefiadaidd:
19A bydded gyd ag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysco ofni yr Arglwydd ei Dduw, a chadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, ai gwneuthur hwynt:
20Heb dderchafu ei galon vwch-law ei frodyr, ac heb gilio oddi wrth y gorchymyn i’r tu dehau, nac i’r tu asswy: fel yr estynno ddyddiau y ei frēhiniaeth, efe ai feibiō yng-hanol Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.