Mathew 20 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XX.Dammeg o gyflogi gwaith-wyr i’r winllan, 17 Crist yn eu rhybuddio hwynt i ddioddef. 20 Deisyfiad mam meibion Zebedeus, ac atteb Crist. 30 Dau ddeillion yn cael eu golwg.

1 Canys teyrnas nefoedd sydd debyg i berchen tŷ yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau i gyflogi gweith-wŷr iw win-llan.

2Ac wedi cyduno â’r gweith-wŷr er ceiniog y dydd, efe a’u hanfonodd hwy iw win-llan.

3Ac efe a aeth allan yng-hylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa,

4Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau hefyd i’r win-llan, a pha beth bynnac a fydd cyfiawn mi a’i rhoddaf i chwi, ac hwy a aethant ymmaith.

5A thrachefn efe a aeth allan yng-hylch y chweched a’r nawfed awr, ac a wnaeth yr vn modd.

6Ac efe a aeth allan yng-hylch yr vnfed awr ar ddêc, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, pa ham yr ydych chwi yn sefyll ymma ar hŷd y dydd yn segur?

7Dywedasant wrtho, am na chyflogodd neb nyni: yntef a ddywedodd wrthynt, ewch chwithau hefyd i’r win-llan, a pha beth bynnac fyddo cyfiawn, chwi a’i cewch.

8A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliwr, galw’r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o’r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf.

9A phan ddaeth y rhai ynghylch yr vnfed awr ar ddêc, cafodd pob vn geiniog.

10A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy, eithr hwythau a gawsant bob vn geiniog.

11Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ,

12Gan ddywedyd, mai vn awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a’u gwnaethost hwynt yn gystal a ninnau, y rhai a ddugasom bwys y dydd a’r gwrês.

13Yntef a attebodd i vn o honynt, ac a ddywedodd, y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur dim cam â thi: ond er ceiniog y cydunaist â mi?

14Cymmer yr hyn sydd eiddot ti, a dos ymmaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i’r olaf hwn megis i tithe.

15Neu, onid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf am yr eiddo fi? a ydyw dy lygad ti yn ddrwg am fy môd i yn dda?

16 Yna y daeth mam meibion Zebedeus atto yng-hŷd a’i meibion, gan addoli a deisyf peth ganddo ef.

21Ac efe a ddywedodd wrthi, pa beth a fynni? y hi a ddywedodd wrtho, dywet am gael o’m dau fâb hyn eistedd y naill ar dy law ddehau, a’r llall ar dy law asswy yn dy frenhiniaeth.

22A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, ni ŵyddoch beth yr ydych yn ei geisio, a ellwch chwi yfed o’r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw? a’ch bedyddio â’r bedydd y bedyddir fi? dywedasant wrtho, gallwn.

23Ac efe a ddywedodd wrthynt, diogel yr yfwch o’m cwppan, ac i’ch bedyddir â’r bedydd i’m bedyddir ag ef, eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid i mi y mae rhoi, eithr i’r sawl y darparwyd gan fy Nhâd.

24A Mar.10.41|MRK 10:41 Luc.22.25.phan glybu y dêc hyn, hwy a lidiasant wrth y ddau frodyr.

25A’r Iesu a’u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, gŵyddoch fôd pennaethiaid y cenhedloedd yn tra arglwyddiaethu arnynt hwy, a’r gwŷr mawrion yn arfer awdurdod arnynt hwy.

26Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi, ond pwy bynnac a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn wenidog i chwi,

27A phwy bynnac a fynno fod yn bennaf yn eich plith, bydded eich gwâs i chwi,

28Megis Phil.2.7ni ddaeth Mab y dŷn iw wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth tros lawer.

29Ac a Mar.10.46.|MRK 10:46. Luc.18.35.hwynt hwy yn myned o Iericho y dilynodd tyrfa fawr ef.

30Ac wele ddau ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Iesu yn myned heibio, a lefasant, gan ddywedyd, Arglwydd fâb Dafydd trugarhâ wrthym.

31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt fel y tawent: hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd fâb Dafydd trugarhâ wrthym.

32Yna y safodd yr Iesu, ac a’u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, pa beth a ewyllysiwch i mi ei wneuthur i chwi?

33Dywedasant wrtho, ô Arglwydd agoryd ein llygaid.

34A’r Iesu gan dosturio, a gyffyrddodd â’u llygaid, ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, ac hwy a’i dilynasant ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help