1A Phan siccrhaodd Rehoboam y frenhiniaeth, ai chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd: a holl bobl Israel gyd ag ef.
2Ac yn y bummed flwyddyn i’r brenin Rehoboam y daeth Sesac brenin yr Aipht i fynu yn erbyn Ierusalem: (canys hwy a wrthryfelasent yn erbyn yr Arglwydd)
3A mil a dau cant a gerbydau, a thri vgainmil o wŷr meirch, ac nid nifer ar y bobl y rhai a ddaethant gyd ag ef o’r Aipht y Lybiaid, y Succiaid, a’r Ethiopiaid.
4Ac efe a ennillodd y dinasoedd caeroc y rhai yn Iuda: ac a ddaeth hyd Ierusalem.
5Yna Semaiah y prophwyd a ddaeth at Rehoboam, a thywysogiō Iuda y rhai oeddynt wedi ymgasclu yn Ierusalem rhac ofn Sesac: ac efe a ddywedodd wrthynt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, chwi a’m gwrthodasoch i, am hynny myfi a’ch gadawaf chwi yn llaw Sesac.
6Yna tywysogion Israel a ymostyngasant, ac a ddywedasant, cyfiawn yw’r Arglwydd.
7Pan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaiah gan ddywedyd, hwynt a ymostyngasant ni ddifethaf hwynt: onid rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder, ac ni ddifera fy llid yn erbyn Ierusalem drwy law Sesac.
8Etto byddant yn weision iddo ef: fel yr adnabyddant fyng-haethiwed mau fi, a chaethiwed brenhinoedd y ddaiar.
9Yna 1.Bren.14.26Sesac brenin yr Aipht a ddaeth i fynu yn erbyn Ierusalem, ac a gymmerth dryssorau tŷ’r Arglwydd, a thryssorau tŷ y brenin, ac ai dûg hwynt ymmaith oll: dûg ymmaith y tariannau aur y 2.Cron.9.15.rhai a wnaethe Salomon.
10A’r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu llê hwynt dariannau prês: ac ai rhoddodd i gadw tann law tywysogion y rhedegwyr y rhai oeddynt yn cadw drws tŷ y brenin.
11A phan ele’r brenin i dŷ’r Arglwydd: y rhedeg-wŷr a ddeuent, ac ai dygent hwy, ac ai dygent trachefn i stafell y rhedeg-wŷr.
12Am hynny pann ymostyngodd efe, llid yr Arglwydd a ddychwelodd oddi wrtho ef fel nas dinistrie yn hollawl: ac felly y bu peth yn dda yn Iuda.
13Felly y brenin Rehoboam a ymgryfhaodd yn Ierusalem, ac a deyrnasodd: 1.Bren.14.21.a mab vn mlwydd a deugain Rehoboam pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd ar bymthec y teyrnasodd efe yn Ierusalem, (y ddinas yr hon a ddewisase’r Arglwydd i osod ei enw ef ynddi o holl lwythau Israel) ac enw ei fam ef Naamah yr Ammonites.
14Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg: canys ni ddarparodd efe ei galon i geisio’r Arglwydd.
15Am y gweithredoedd cyntaf a diwethaf i Rehoboam, onid ydynt hwy yn scrifennedic yng-eiriau Semaiah y prophwyd, ac Ido y gweledudd yn yr achau: a rhyfeloedd Rehoboam ac Ieroboam yr holl ddyddiau.
16A Rehoboam a hunodd gyd ai dadau, ac a gladdwyd yn ninas Dafydd: ac Abiiah ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.